Actau 25:13-19
Actau 25:13-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ychydig ddyddiau wedyn daeth y Brenin Herod Agripa i Cesarea gyda’i chwaer Bernice, i ddymuno’n dda i Ffestus ar ei apwyntiad yn Llywodraethwr. Buon nhw yno am rai dyddiau, a buodd Ffestus yn trafod achos Paul gyda’r brenin. “Mae yma ddyn sydd wedi’i adael gan Ffelics yn garcharor,” meddai. “Y prif offeiriaid a’r arweinwyr Iddewig eraill ddwedodd wrtho i amdano pan o’n i yn Jerwsalem, a gofyn i mi ei ddedfrydu. “Esboniais bod cyfraith Rhufain ddim yn dedfrydu unrhyw un heb achos teg, a chyfle i’r person sy’n cael ei gyhuddo amddiffyn ei hun. Felly pan ddaethon nhw yma dyma fi’n trefnu i’r llys eistedd y diwrnod wedyn, a gwrando’r achos yn erbyn y dyn. Pan gododd yr erlyniad i gyflwyno’r achos yn ei erbyn, wnaethon nhw mo’i gyhuddo o unrhyw drosedd roeddwn i’n ei disgwyl. Yn lle hynny roedd y ddadl i gyd am ryw fanion yn eu crefydd nhw, ac am ryw ddyn o’r enw Iesu oedd wedi marw – ond roedd Paul yn mynnu ei fod yn fyw.
Actau 25:13-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymhen rhai dyddiau daeth y Brenin Agripa a Bernice i lawr i Gesarea i groesawu Ffestus. A chan eu bod yn treulio dyddiau lawer yno, cyflwynodd Ffestus achos Paul i sylw'r brenin. “Y mae yma ddyn,” meddai, “wedi ei adael gan Ffelix yn garcharor, a phan oeddwn yn Jerwsalem gosododd y prif offeiriaid a henuriaid yr Iddewon ei achos ef ger fy mron, a gofyn am ei gondemnio. Atebais hwy nad oedd yn arfer gan Rufeinwyr drosglwyddo unrhyw un fel ffafr cyn bod y cyhuddedig yn dod wyneb yn wyneb â'i gyhuddwyr, ac yn cael cyfle i'w amddiffyn ei hun yn erbyn y cyhuddiad. Felly, pan ddaethant ynghyd yma, heb oedi dim cymerais fy lle drannoeth yn y llys, a gorchymyn dod â'r dyn gerbron. Pan gododd ei gyhuddwyr i'w erlyn, nid oeddent yn ei gyhuddo o'r un o'r troseddau a ddisgwyliwn i. Ond rhyw ddadleuon oedd ganddynt ag ef ynghylch eu crefydd eu hunain, ac ynghylch rhyw Iesu oedd wedi marw, ond y mynnai Paul ei fod yn fyw.
Actau 25:13-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi talm o ddyddiau, Agripa y brenin a Bernice a ddaethant i Cesarea i gyfarch Ffestus. Ac wedi iddynt aros yno lawer o ddyddiau, Ffestus a fynegodd i’r brenin hanes Paul, gan ddywedyd, Y mae yma ryw ŵr wedi ei adael gan Ffelix yng ngharchar: Ynghylch yr hwn, pan oeddwn yn Jerwsalem, yr ymddangosodd archoffeiriaid a henuriaid yr Iddewon gerbron, gan ddeisyf cael barn yn ei erbyn ef. I’r rhai yr atebais, nad oedd arfer y Rhufeinwyr roddi neb rhyw ddyn i’w ddifetha, nes cael o’r cyhuddol ei gyhuddwyr yn ei wyneb, a chael lle i’w amddiffyn ei hun rhag y cwyn. Wedi eu dyfod hwy yma gan hynny, heb wneuthur dim oed, trannoeth mi a eisteddais ar yr orseddfainc, ac a orchmynnais ddwyn y gŵr gerbron. Am yr hwn ni ddug y cyhuddwyr i fyny ddim achwyn o’r pethau yr oeddwn i yn tybied: Ond yr oedd ganddynt yn ei erbyn ef ryw ymofynion ynghylch eu coelgrefydd eu hunain, ac ynghylch un Iesu a fuasai farw, yr hwn a daerai Paul ei fod yn fyw.