Actau 22:1-21
Actau 22:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Frodyr a thadau, gwrandewch ar f'amddiffyniad ger eich bron yn awr.” Pan glywsant mai yn iaith yr Iddewon yr oedd yn eu hannerch, rhoesant wrandawiad tawelach iddo. Ac meddai, “Iddew wyf fi, wedi fy ngeni yn Nharsus yn Cilicia, ac wedi fy nghodi yn y ddinas hon. Cefais fy addysg wrth draed Gamaliel yn ôl llythyren Cyfraith ein hynafiaid, ac yr wyf yn selog dros Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw. Erlidiais y Ffordd hon hyd at ladd, gan rwymo a rhoi yng ngharchar wŷr a gwragedd, fel y mae'r archoffeiriad a holl Gyngor yr henuriaid yn dystion i mi; oddi wrthynt hwy yn wir y derbyniais lythyrau at ein cyd-Iddewon yn Namascus, a chychwyn ar daith i ddod â'r rhai oedd yno hefyd yn rhwym i Jerwsalem i'w cosbi. “Ond pan oeddwn ar fy nhaith ac yn agosáu at Ddamascus, yn sydyn tua chanol dydd fe fflachiodd goleuni mawr o'r nef o'm hamgylch. Syrthiais ar y ddaear, a chlywais lais yn dweud wrthyf, ‘Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i?’ Atebais innau, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dywedodd wrthyf, ‘Iesu o Nasareth wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.’ Gwelodd y rhai oedd gyda mi y goleuni, ond ni chlywsant lais y sawl oedd yn llefaru wrthyf. A dywedais, ‘Beth a wnaf, Arglwydd?’ Dywedodd yr Arglwydd wrthyf, ‘Cod a dos i Ddamascus, ac yno fe ddywedir wrthyt bopeth yr ordeiniwyd iti ei wneud.’ Gan nad oeddwn yn gweld dim oherwydd disgleirdeb y goleuni hwnnw, fe'm harweiniwyd gerfydd fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, a deuthum i Ddamascus. “Daeth rhyw Ananias ataf, gŵr duwiol yn ôl y Gyfraith, a gair da iddo gan yr holl Iddewon oedd yn byw yno. Safodd hwn yn f'ymyl a dywedodd wrthyf, ‘Y brawd Saul, derbyn dy olwg yn ôl.’ Edrychais innau arno a derbyn fy ngolwg yn ôl y munud hwnnw. A dywedodd yntau: ‘Y mae Duw ein tadau wedi dy benodi di i wybod ei ewyllys, ac i weld yr Un Cyfiawn a chlywed llais o'i enau ef; oherwydd fe fyddi di'n dyst iddo, wrth yr holl ddynolryw, o'r hyn yr wyt wedi ei weld a'i glywed. Ac yn awr, pam yr wyt yn oedi? Tyrd i gael dy fedyddio a chael golchi ymaith dy bechodau, gan alw ar ei enw ef.’ “Wedi imi ddychwelyd i Jerwsalem, dyma a ddigwyddodd pan oeddwn yn gweddïo yn y deml: euthum i lesmair, a'i weld ef yn dweud wrthyf, ‘Brysia ar unwaith allan o Jerwsalem, oherwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth amdanaf fi.’ Dywedais innau, ‘Arglwydd, y maent hwy'n gwybod i mi fod o synagog i synagog yn carcharu ac yn fflangellu'r rhai oedd yn credu ynot ti. A phan oedd gwaed Steffan, dy dyst, yn cael ei dywallt, yr oeddwn innau hefyd yn sefyll yn ymyl, ac yn cydsynio, ac yn gwarchod dillad y rhai oedd yn ei ladd.’ A dywedodd wrthyf, ‘Dos, oherwydd yr wyf fi am dy anfon di ymhell at y Cenhedloedd.’ ”
Actau 22:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Frodyr ac arweinwyr parchus ein cenedl, ga i ddweud gair i amddiffyn fy hun?” Pan glywon nhw Paul yn siarad Hebraeg dyma nhw’n mynd yn hollol dawel. Yna meddai Paul wrthyn nhw, “Iddew ydw i, wedi fy ngeni yn Tarsus yn Cilicia, ond ces i fy magu yma yn Jerwsalem. Bues i’n astudio Cyfraith ein hynafiaid yn fanwl dan yr athro Gamaliel. Rôn i’n frwd iawn dros bethau Duw, yn union fel dych chi yma heddiw. Bues i’n erlid y rhai oedd yn dilyn y Ffordd Gristnogol, ac yn arestio dynion a merched, a’u taflu nhw i’r carchar. Gall yr archoffeiriad ac aelodau Cyngor y Sanhedrin dystio i’r ffaith fod hyn i gyd yn wir, am mai nhw roddodd lythyrau i mi i’w cyflwyno i arweinwyr ein pobl yn Damascus. Rôn i’n mynd yno i arestio’r Cristnogion a dod â nhw yn ôl yn gaeth i Jerwsalem i’w cosbi nhw. “Roedd hi tua chanol dydd, ac roeddwn i bron â chyrraedd Damascus, ac yn sydyn dyma rhyw olau llachar o’r nefoedd yn fflachio o’m cwmpas i. Syrthiais ar lawr, a chlywed llais yn dweud wrtho i, ‘Saul! Saul! Pam wyt ti’n fy erlid i?’ “Gofynnais, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ “‘Iesu o Nasareth ydw i,’ meddai’r llais, ‘sef yr un rwyt ti’n ei erlid.’ Roedd y rhai oedd gyda mi yn gweld y golau, ond ddim yn deall y llais oedd yn siarad â mi. “Gofynnais iddo, ‘Beth wna i, Arglwydd?’ A dyma’r Arglwydd yn ateb, ‘Cod ar dy draed, a dos i Damascus. Yno cei di wybod popeth rwyt ti i fod i’w wneud.’ Rôn i wedi cael fy nallu gan y golau disglair, ac roedd rhaid i mi gael fy arwain gerfydd fy llaw i Damascus. “Daeth dyn o’r enw Ananias i ngweld i. Dyn duwiol iawn, yn cadw Cyfraith Moses yn ofalus ac yn ddyn roedd yr Iddewon yno yn ei barchu’n fawr. Safodd wrth fy ymyl a dweud. ‘Saul, frawd. Derbyn dy olwg yn ôl!’ Ac o’r eiliad honno rôn i’n gallu gweld eto. “Wedyn dwedodd Ananias wrtho i: ‘Mae Duw ein cyndeidiau ni wedi dy ddewis di i wybod beth mae e eisiau, i weld Iesu, yr Un Cyfiawn, a chlywed beth sydd ganddo i’w ddweud. Byddi di’n mynd i ddweud wrth bawb beth rwyt ti wedi’i weld a’i glywed. Felly, pam ddylet ti oedi? Cod ar dy draed i ti gael dy fedyddio a golchi dy bechodau i ffwrdd wrth alw arno i dy achub di.’ “Pan ddes i yn ôl i Jerwsalem roeddwn i’n gweddïo yn y Deml pan ges i weledigaeth – yr Arglwydd yn siarad â mi, ac yn dweud ‘Brysia! Rhaid i ti adael Jerwsalem ar unwaith, achos wnân nhw ddim credu beth fyddi di’n ei ddweud amdana i.’ “‘Ond Arglwydd,’ meddwn innau, ‘mae’r bobl yma’n gwybod yn iawn mod i wedi mynd o un synagog i’r llall yn carcharu’r bobl sy’n credu ynot ti, ac yn eu curo nhw. Pan gafodd Steffan ei ladd am ei fod yn siarad amdanat ti, roeddwn i yno’n cefnogi beth oedd yn digwydd! Fi oedd yn gofalu am fentyll y rhai oedd yn ei ladd.’ “Ond dyma’r Arglwydd yn dweud wrtho i, ‘Dos; dw i’n mynd i dy anfon di’n bell i ffwrdd, at bobl o genhedloedd eraill.’”
Actau 22:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Frodyr a thadau, gwrandewch ar f'amddiffyniad ger eich bron yn awr.” Pan glywsant mai yn iaith yr Iddewon yr oedd yn eu hannerch, rhoesant wrandawiad tawelach iddo. Ac meddai, “Iddew wyf fi, wedi fy ngeni yn Nharsus yn Cilicia, ac wedi fy nghodi yn y ddinas hon. Cefais fy addysg wrth draed Gamaliel yn ôl llythyren Cyfraith ein hynafiaid, ac yr wyf yn selog dros Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw. Erlidiais y Ffordd hon hyd at ladd, gan rwymo a rhoi yng ngharchar wŷr a gwragedd, fel y mae'r archoffeiriad a holl Gyngor yr henuriaid yn dystion i mi; oddi wrthynt hwy yn wir y derbyniais lythyrau at ein cyd-Iddewon yn Namascus, a chychwyn ar daith i ddod â'r rhai oedd yno hefyd yn rhwym i Jerwsalem i'w cosbi. “Ond pan oeddwn ar fy nhaith ac yn agosáu at Ddamascus, yn sydyn tua chanol dydd fe fflachiodd goleuni mawr o'r nef o'm hamgylch. Syrthiais ar y ddaear, a chlywais lais yn dweud wrthyf, ‘Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i?’ Atebais innau, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dywedodd wrthyf, ‘Iesu o Nasareth wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.’ Gwelodd y rhai oedd gyda mi y goleuni, ond ni chlywsant lais y sawl oedd yn llefaru wrthyf. A dywedais, ‘Beth a wnaf, Arglwydd?’ Dywedodd yr Arglwydd wrthyf, ‘Cod a dos i Ddamascus, ac yno fe ddywedir wrthyt bopeth yr ordeiniwyd iti ei wneud.’ Gan nad oeddwn yn gweld dim oherwydd disgleirdeb y goleuni hwnnw, fe'm harweiniwyd gerfydd fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, a deuthum i Ddamascus. “Daeth rhyw Ananias ataf, gŵr duwiol yn ôl y Gyfraith, a gair da iddo gan yr holl Iddewon oedd yn byw yno. Safodd hwn yn f'ymyl a dywedodd wrthyf, ‘Y brawd Saul, derbyn dy olwg yn ôl.’ Edrychais innau arno a derbyn fy ngolwg yn ôl y munud hwnnw. A dywedodd yntau: ‘Y mae Duw ein tadau wedi dy benodi di i wybod ei ewyllys, ac i weld yr Un Cyfiawn a chlywed llais o'i enau ef; oherwydd fe fyddi di'n dyst iddo, wrth yr holl ddynolryw, o'r hyn yr wyt wedi ei weld a'i glywed. Ac yn awr, pam yr wyt yn oedi? Tyrd i gael dy fedyddio a chael golchi ymaith dy bechodau, gan alw ar ei enw ef.’ “Wedi imi ddychwelyd i Jerwsalem, dyma a ddigwyddodd pan oeddwn yn gweddïo yn y deml: euthum i lesmair, a'i weld ef yn dweud wrthyf, ‘Brysia ar unwaith allan o Jerwsalem, oherwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth amdanaf fi.’ Dywedais innau, ‘Arglwydd, y maent hwy'n gwybod i mi fod o synagog i synagog yn carcharu ac yn fflangellu'r rhai oedd yn credu ynot ti. A phan oedd gwaed Steffan, dy dyst, yn cael ei dywallt, yr oeddwn innau hefyd yn sefyll yn ymyl, ac yn cydsynio, ac yn gwarchod dillad y rhai oedd yn ei ladd.’ A dywedodd wrthyf, ‘Dos, oherwydd yr wyf fi am dy anfon di ymhell at y Cenhedloedd.’ ”
Actau 22:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ha wŷr, frodyr, a thadau, gwrandewch fy amddiffyn wrthych yr awron. (A phan glywsant mai yn Hebraeg yr oedd efe yn llefaru wrthynt, hwy a roesant iddo osteg gwell: ac efe a ddywedodd,) Gŵr wyf fi yn wir o Iddew, yr hwn a aned yn Nharsus yn Cilicia, ac wedi fy meithrin yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, ac wedi fy athrawiaethu yn ôl manylaf gyfraith y tadau, yn dwyn sêl i Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw. A mi a erlidiais y ffordd hon hyd angau, gan rwymo a dodi yng ngharchar wŷr a gwragedd hefyd. Megis ag y mae’r archoffeiriad yn dyst i mi, a’r holl henaduriaeth; gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr, ac yr euthum i Ddamascus, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd, yn rhwym i Jerwsalem, i’w cosbi. Eithr digwyddodd, a myfi yn myned, ac yn nesáu at Ddamascus, ynghylch hanner dydd, yn ddisymwth i fawr oleuni o’r nef ddisgleirio o’m hamgylch. A mi a syrthiais ar y ddaear, ac a glywais lais yn dywedyd wrthyf, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid? A minnau a atebais, Pwy wyt ti, O Arglwydd? Yntau a ddywedodd wrthyf, Myfi yw Iesu o Nasareth, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. Hefyd y rhai oedd gyda myfi a welsant y goleuni yn ddiau, ac a ofnasant; ond ni chlywsant hwy lais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf. Ac myfi a ddywedais, Beth a wnaf, O Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyfod, a dos i Ddamascus; ac yno y dywedir i ti bob peth a’r a ordeiniwyd i ti eu gwneuthur. A phryd nad oeddwn yn gweled gan ogoniant y goleuni hwnnw, a’r rhai oedd gyda mi yn fy nhywys erbyn fy llaw, myfi a ddeuthum i Ddamascus. Ac un Ananeias, gŵr defosiynol yn ôl y ddeddf, ac iddo air da gan yr Iddewon oll a’r oeddynt yn preswylio yno, A ddaeth ataf, ac a safodd gerllaw, ac a ddywedodd wrthyf, Y brawd Saul, cymer dy olwg. Ac mi a edrychais arno yn yr awr honno. Ac efe a ddywedodd, Duw ein tadau ni a’th ragordeiniodd di i wybod ei ewyllys ef, ac i weled y Cyfiawn hwnnw, ac i glywed lleferydd ei enau ef. Canys ti a fyddi dyst iddo wrth bob dyn, o’r pethau a welaist ac a glywaist. Ac yr awron beth yr wyt ti yn ei aros? cyfod, bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar enw yr Arglwydd. A darfu, wedi i mi ddyfod yn fy ôl i Jerwsalem, fel yr oeddwn yn gweddïo yn y deml, i mi syrthio mewn llewyg; A’i weled ef yn dywedyd wrthyf, Brysia, a dos ar frys allan o Jerwsalem: oherwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth amdanaf fi. A minnau a ddywedais, O Arglwydd, hwy a wyddant fy mod i yn carcharu, ac yn baeddu ym mhob synagog, y rhai a gredent ynot ti: A phan dywalltwyd gwaed Steffan dy ferthyr di, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynio i’w ladd ef, ac yn cadw dillad y rhai a’i lladdent ef. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos ymaith: canys mi a’th anfonaf ymhell at y Cenhedloedd.