Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 21:32 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 21:32 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Aeth yno ar unwaith gyda’i filwyr a rhedeg i’r lle roedd y dyrfa. Roedd rhai wrthi’n curo Paul, ond pan welon nhw’r milwyr dyma nhw’n stopio.

Actau 21:32 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Cymerodd yntau filwyr a chanwriaid ar unwaith, a rhedeg i lawr atynt; a phan welsant hwy'r capten a'r milwyr, rhoesant y gorau i guro Paul.

Actau 21:32 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Yr hwn allan o law a gymerodd filwyr, a chanwriaid, ac a redodd i waered atynt: hwythau, pan welsant y pen-capten a’r milwyr, a beidiasant â churo Paul.