Actau 21:27-40
Actau 21:27-40 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedd saith diwrnod y buredigaeth bron ar ben, dyma ryw Iddewon o dalaith Asia yn gweld Paul yn y deml. Dyma nhw’n llwyddo i gynhyrfu’r dyrfa a gafael ynddo gan weiddi, “Bobl Israel, helpwch ni! Dyma’r dyn sy’n dysgu pawb ym mhobman i droi yn erbyn ein pobl ni, a’n Cyfraith, a’r Deml yma! Ac mae wedi halogi’r lle sanctaidd yma drwy ddod â phobl o genhedloedd eraill i mewn yma!” (Roedden nhw wedi gweld Troffimus o Effesus gyda Paul yn y ddinas yn gynharach, ac yn cymryd yn ganiataol ei fod wedi mynd gyda Paul lle na ddylai fynd yn y deml.) Dyma’r cynnwrf yn lledu drwy’r ddinas i gyd, a phobl yn rhedeg yno o bob cyfeiriad. Dyma nhw’n gafael yn Paul a’i lusgo allan o’r deml, ac wedyn cau’r giatiau. Roedden nhw’n mynd i’w ladd, ond clywodd capten y fyddin Rhufeinig fod reiat yn datblygu yn Jerwsalem. Aeth yno ar unwaith gyda’i filwyr a rhedeg i’r lle roedd y dyrfa. Roedd rhai wrthi’n curo Paul, ond pan welon nhw’r milwyr dyma nhw’n stopio. Dyma’r capten yn arestio Paul ac yn gorchymyn ei rwymo gyda dwy gadwyn. Wedyn gofynnodd i’r dyrfa pwy oedd, a beth roedd wedi’i wneud. Ond roedd rhai yn gweiddi un peth, ac eraill yn gweiddi rhywbeth hollol wahanol. Roedd hi’n amhosib darganfod beth oedd y gwir yng nghanol yr holl dwrw, felly dyma’r capten yn gorchymyn i’r milwyr fynd â Paul i’r barics milwrol yn Antonia. Erbyn i Paul gyrraedd y grisiau roedd y dyrfa wedi troi’n dreisgar, ac roedd rhaid i’r milwyr ei gario. Roedd y dyrfa yn ei dilyn nhw yn gweiddi, “Rhaid ei ladd! Rhaid ei ladd!” Roedd y milwyr ar fin mynd â Paul i mewn i’r barics pan ofynnodd i’r capten, “Ga i ddweud rhywbeth?” “Sut dy fod di’n siarad Groeg?” meddai’r capten wrtho, “Onid ti ydy’r Eifftiwr hwnnw ddechreuodd wrthryfel ychydig yn ôl ac arwain pedair mil o aelodau’r grŵp terfysgol ‘y Sicari’ i’r anialwch?” “Na,” meddai Paul, “Iddew ydw i; dw i’n ddinesydd o Tarsus yn Cilicia. Ga i siarad â’r bobl yma os gweli di’n dda?” Rhoddodd y capten ganiatâd iddo, a safodd Paul ar y grisiau a chodi ei law i gael y dyrfa i dawelu. Pan oedden nhw i gyd yn dawel, dechreuodd eu hannerch yn yr iaith Hebraeg
Actau 21:27-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond pan oedd y saith diwrnod bron ar ben, gwelodd yr Iddewon o Asia ef yn y deml. Codasant gynnwrf yn yr holl dyrfa, a chymryd gafael ynddo, gan weiddi, “Chwi Israeliaid, helpwch ni. Hwn yw'r dyn sy'n dysgu pawb ym mhob man yn erbyn ein pobl a'r Gyfraith a'r lle hwn, ac sydd hefyd wedi dod â Groegiaid i mewn i'r deml, a halogi'r lle sanctaidd hwn.” Oherwydd yr oeddent cyn hynny wedi gweld Troffimus yr Effesiad yn y ddinas gydag ef, ac yr oeddent yn meddwl fod Paul wedi dod ag ef i mewn i'r deml. Cyffrowyd yr holl ddinas, a rhuthrodd y bobl ynghyd. Cymerasant afael yn Paul, a'i lusgo allan o'r deml, a chaewyd y drysau ar unwaith. Fel yr oeddent yn ceisio'i ladd ef, daeth neges at gapten y fintai fod Jerwsalem i gyd mewn cynnwrf. Cymerodd yntau filwyr a chanwriaid ar unwaith, a rhedeg i lawr atynt; a phan welsant hwy'r capten a'r milwyr, rhoesant y gorau i guro Paul. Yna daeth y capten atynt, a chymryd gafael yn Paul, a gorchymyn ei rwymo â dwy gadwyn. Dechreuodd holi pwy oedd, a beth yr oedd wedi ei wneud. Yr oedd rhai yn y dyrfa yn bloeddio un peth, ac eraill beth arall. A chan na allai ddod o hyd i'r gwir oherwydd y dwndwr, gorchmynnodd ei ddwyn i'r pencadlys. A phan ddaeth Paul at y grisiau, bu raid i'r milwyr ei gario oherwydd ffyrnigrwydd y dyrfa, oblegid yr oedd tyrfa o bobl yn canlyn dan weiddi, “Ymaith ag ef!” Pan oedd ar fin cael ei ddwyn i mewn i'r pencadlys, dyma Paul yn dweud wrth y capten, “A gaf fi ddweud gair wrthyt?” Meddai yntau, “A wyt ti yn medru Groeg? Nid tydi felly yw'r Eifftiwr a gododd derfysg beth amser yn ôl ac a arweiniodd allan i'r anialwch y pedair mil o derfysgwyr arfog?” Dywedodd Paul, “Iddew wyf fi, o Darsus yn Cilicia, dinesydd o ddinas nid dinod; ac rwy'n erfyn arnat, caniatâ imi lefaru wrth y bobl.” Ac wedi iddo gael caniatâd, safodd Paul ar y grisiau, a gwnaeth arwydd â'i law ar y bobl, ac ar ôl cael distawrwydd llwyr anerchodd hwy yn iaith yr Iddewon, gan ddweud
Actau 21:27-40 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan oedd y saith niwrnod ar ddarfod, yr Iddewon oeddynt o Asia, pan welsant ef yn y deml, a derfysgasant yr holl bobl, ac a ddodasant ddwylo arno, Gan lefain, Ha wŷr Israeliaid, cynorthwywch. Dyma’r dyn sydd yn dysgu pawb ym mhob man yn erbyn y bobl, a’r gyfraith, a’r lle yma: ac ymhellach, y Groegiaid hefyd a ddug efe i mewn i’r deml, ac a halogodd y lle sanctaidd hwn. Canys hwy a welsent o’r blaen Troffimus yr Effesiad yn y ddinas gydag ef, yr hwn yr oeddynt hwy yn tybied ddarfod i Paul ei ddwyn i mewn i’r deml. A chynhyrfwyd y ddinas oll, a’r bobl a redodd ynghyd: ac wedi ymaelyd yn Paul, hwy a’i tynasant ef allan o’r deml: ac yn ebrwydd caewyd y drysau. Ac fel yr oeddynt hwy yn ceisio ei ladd ef, daeth y gair at ben-capten y fyddin, fod Jerwsalem oll mewn terfysg. Yr hwn allan o law a gymerodd filwyr, a chanwriaid, ac a redodd i waered atynt: hwythau, pan welsant y pen-capten a’r milwyr, a beidiasant â churo Paul. Yna y daeth y pen-capten yn nes, ac a’i daliodd ef, ac a archodd ei rwymo ef â dwy gadwyn; ac a ymofynnodd pwy oedd efe, a pha beth a wnaethai. Ac amryw rai a lefent amryw beth yn y dyrfa: ac am nas gallai wybod hysbysrwydd oherwydd y cythrwfl, efe a orchmynnodd ei ddwyn ef i’r castell. A phan oedd efe ar y grisiau, fe a ddigwyddodd gorfod ei ddwyn ef gan y milwyr, o achos trais y dyrfa. Canys yr oedd lliaws y bobl yn canlyn, gan lefain, Ymaith ag ef. A phan oedd Paul ar ei ddwyn i mewn i’r castell, efe a ddywedodd wrth y pen-capten, Ai rhydd i mi ddywedyd peth wrthyt? Ac efe a ddywedodd, A fedri di Roeg? Onid tydi yw yr Eifftwr, yr hwn o flaen y dyddiau hyn a gyfodaist derfysg, ac a arweiniaist i’r anialwch bedair mil o wŷr llofruddiog? A Phaul a ddywedodd, Gŵr ydwyf fi yn wir o Iddew, un o Darsus, dinesydd o ddinas nid anenwog, o Cilicia; ac yr wyf yn deisyf arnat ti, dyro gennad i mi i lefaru wrth y bobl. Ac wedi iddo roi cennad iddo, Paul a safodd ar y grisiau, ac a amneidiodd â llaw ar y bobl. Ac wedi gwneuthur distawrwydd mawr, efe a lefarodd wrthynt yn Hebraeg, gan ddywedyd