Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 20:9 - Compare All Versions

Actau 20:9 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Wrth i Paul fynd ymlaen ac ymlaen, dyma fachgen ifanc o’r enw Eutychus yn dechrau pendwmpian. Roedd yn eistedd ar silff un o’r ffenestri, a phan oedd yn cysgu go iawn syrthiodd allan o’r ffenest oedd ar y trydydd llawr. Dyma nhw’n mynd i’w godi, ond roedd wedi marw.

Actau 20:9 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

ac yr oedd dyn ifanc o'r enw Eutychus yn eistedd wrth y ffenestr. Yr oedd hwn yn mynd yn fwy a mwy cysglyd, wrth i Paul ddal i ymhelaethu. Pan drechwyd ef yn llwyr gan gwsg, syrthiodd o'r trydydd llawr, a chodwyd ef yn gorff marw.

Actau 20:9 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A rhyw ŵr ieuanc, a’i enw Eutychus, a eisteddai mewn ffenestr: ac efe a syrthiodd mewn trymgwsg, tra oedd Paul yn ymresymu yn hir, wedi ei orchfygu gan gwsg, ac a gwympodd i lawr o’r drydedd lofft; ac a gyfodwyd i fyny yn farw.