Actau 20:18-24
Actau 20:18-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan gyrhaeddon nhw, dyma oedd ganddo i’w ddweud wrthyn nhw: “Dych chi’n gwybod yn iawn sut fues i’n gweithio i’r Arglwydd heb dynnu sylw ata i fy hun pan oeddwn i gyda chi yn nhalaith Asia. Dych chi’n gwybod am y dagrau gollais i, ac mor anodd roedd hi’n gallu bod am fod yr Iddewon yn cynllwynio yn fy erbyn i. Dych chi’n gwybod mod i wedi cyhoeddi beth oedd o les i chi, a mynd o gwmpas yn gwbl agored o un tŷ i’r llall yn eich dysgu chi. Dw i wedi dweud yn glir wrth yr Iddewon a phawb arall fod rhaid iddyn nhw droi o’u pechod at Dduw, a chredu yn yr Arglwydd Iesu. “A nawr dw i’n mynd i Jerwsalem. Mae’r Ysbryd wedi dweud fod rhaid i mi fynd, er nad ydw i’n gwybod beth fydd yn digwydd i mi ar ôl i mi gyrraedd yno. Yr unig beth dw i’n wybod ydy mod i’n mynd i gael fy arestio a bod pethau’n mynd i fod yn galed – mae’r Ysbryd Glân wedi gwneud hynny’n ddigon clir dro ar ôl tro mewn gwahanol leoedd. Sdim ots! Cyn belled â’m bod i’n gorffen y ras! Dydy mywyd i’n dda i ddim oni bai mod i’n gwneud y gwaith mae’r Arglwydd Iesu wedi’i roi i mi – sef dweud y newyddion da am gariad a haelioni Duw wrth bobl.
Actau 20:18-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan gyraeddasant ato, dywedodd wrthynt, “Fe wyddoch fel y bûm i gyda chwi yr holl amser, er y diwrnod cyntaf y rhois fy nhroed yn Asia, yn gwasanaethu'r Arglwydd â phob gostyngeiddrwydd, ac â dagrau a threialon a ddaeth i'm rhan trwy gynllwynion yr Iddewon. Gwyddoch nad ymateliais rhag cyhoeddi i chwi ddim o'r hyn sydd fuddiol, na rhag eich dysgu chwi yn gyhoeddus ac yn eich cartrefi, gan dystiolaethu i Iddewon a Groegiaid am edifeirwch tuag at Dduw a ffydd yn ein Harglwydd Iesu. Ac yn awr dyma fi, dan orfodaeth yr Ysbryd, ar fy ffordd i Jerwsalem, heb wybod beth a ddigwydd imi yno, ond bod yr Ysbryd Glân o dref i dref yn tystiolaethu imi fod rhwymau a gorthrymderau yn fy aros. Ond yr wyf yn cyfrif nad yw fy mywyd o unrhyw werth imi, dim ond imi allu cwblhau fy ngyrfa, a'r weinidogaeth a gefais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu i Efengyl gras Duw.
Actau 20:18-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ddaethant ato, efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch, er y dydd cyntaf y deuthum i Asia, pa fodd y bûm i gyda chwi dros yr holl amser; Yn gwasanaethu’r Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd, a llawer o ddagrau, a phrofedigaethau, y rhai a ddigwyddodd i mi trwy gynllwynion yr Iddewon: Y modd nad ateliais ddim o’r pethau buddiol heb eu mynegi i chwi, a’ch dysgu ar gyhoedd, ac o dŷ i dŷ; Gan dystiolaethu i’r Iddewon, ac i’r Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tuag at Dduw, a’r ffydd sydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist. Ac yn awr, wele fi yn rhwym yn yr ysbryd yn myned i Jerwsalem, heb wybod y pethau a ddigwydd imi yno: Eithr bod yr Ysbryd Glân yn tystio i mi ym mhob dinas, gan ddywedyd, fod rhwymau a blinderau yn fy aros. Ond nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr gennyf fy einioes fy hun, os gallaf orffen fy ngyrfa trwy lawenydd, a’r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu efengyl gras Duw.