Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 20:17-38

Actau 20:17-38 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ond tra oedd yn Miletus, anfonodd neges i Effesus yn galw arweinwyr yr eglwys i ddod draw i Miletus i’w gyfarfod. Pan gyrhaeddon nhw, dyma oedd ganddo i’w ddweud wrthyn nhw: “Dych chi’n gwybod yn iawn sut fues i’n gweithio i’r Arglwydd heb dynnu sylw ata i fy hun pan oeddwn i gyda chi yn nhalaith Asia. Dych chi’n gwybod am y dagrau gollais i, ac mor anodd roedd hi’n gallu bod am fod yr Iddewon yn cynllwynio yn fy erbyn i. Dych chi’n gwybod mod i wedi cyhoeddi beth oedd o les i chi, a mynd o gwmpas yn gwbl agored o un tŷ i’r llall yn eich dysgu chi. Dw i wedi dweud yn glir wrth yr Iddewon a phawb arall fod rhaid iddyn nhw droi o’u pechod at Dduw, a chredu yn yr Arglwydd Iesu. “A nawr dw i’n mynd i Jerwsalem. Mae’r Ysbryd wedi dweud fod rhaid i mi fynd, er nad ydw i’n gwybod beth fydd yn digwydd i mi ar ôl i mi gyrraedd yno. Yr unig beth dw i’n wybod ydy mod i’n mynd i gael fy arestio a bod pethau’n mynd i fod yn galed – mae’r Ysbryd Glân wedi gwneud hynny’n ddigon clir dro ar ôl tro mewn gwahanol leoedd. Sdim ots! Cyn belled â’m bod i’n gorffen y ras! Dydy mywyd i’n dda i ddim oni bai mod i’n gwneud y gwaith mae’r Arglwydd Iesu wedi’i roi i mi – sef dweud y newyddion da am gariad a haelioni Duw wrth bobl. “A dyna dw i wedi’i wneud yn eich plith chi – dw i wedi bod yn mynd o le i le yn pregethu am deyrnasiad Duw, ond bellach dw i’n gwybod na chewch chi ngweld i byth eto. Felly, dw i am ddweud yma heddiw – dim fi sy’n gyfrifol am beth fydd yn digwydd i unrhyw un. Dw i wedi dweud popeth sydd ei angen am y ffordd mae Duw’n achub, a beth mae’n ei ddisgwyl gynnon ni. “Gofalwch amdanoch eich hunain, a’r bobl mae’r Ysbryd Glân wedi’u rhoi yn eich gofal fel arweinwyr. Bugeilio eglwys Dduw fel mae bugail yn gofalu am ei braidd – dyma’r eglwys wnaeth Duw ei phrynu’n rhydd â’i waed ei hun! Dw i’n gwybod yn iawn y bydd athrawon twyllodrus yn dod i’ch plith chi cyn gynted ag y bydda i wedi mynd, fel bleiddiaid gwyllt yn llarpio’r praidd. Bydd hyd yn oed rhai o’ch pobl chi’ch hunain yn twistio’r gwirionedd i geisio denu dilynwyr iddyn nhw’u hunain. Felly gwyliwch eich hunain! Cofiwch mod i wedi’ch rhybuddio chi ddydd a nos, a cholli dagrau lawer am y tair blynedd roeddwn i gyda chi. “Dw i’n eich gadael chi yng ngofal Duw bellach, a’r neges am ei gariad a’i haelioni. Y neges yma sy’n eich adeiladu chi a rhoi etifeddiaeth i chi gyda phawb arall mae wedi’u cysegru iddo’i hun. Dw i ddim wedi ceisio cael arian na dillad gan neb. Dych chi’n gwybod yn iawn mod i wedi gweithio’n galed i dalu fy ffordd a chynnal fy ffrindiau. Drwy’r cwbl roeddwn i’n dangos sut bydden ni’n gallu helpu’r tlodion drwy weithio’n galed. Dych chi’n cofio fod yr Arglwydd Iesu ei hun wedi dweud: ‘Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.’” Ar ôl dweud hyn i gyd, aeth ar ei liniau i weddïo gyda nhw. Dyma pawb yn dechrau crio wrth gofleidio Paul a’i gusanu. Roedden nhw’n arbennig o drist am ei fod wedi dweud y bydden nhw ddim yn ei weld byth eto. Wedyn dyma nhw’n mynd i lawr at y llong gydag e.

Actau 20:17-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Anfonodd o Miletus i Effesus a galw ato henuriaid yr eglwys. Pan gyraeddasant ato, dywedodd wrthynt, “Fe wyddoch fel y bûm i gyda chwi yr holl amser, er y diwrnod cyntaf y rhois fy nhroed yn Asia, yn gwasanaethu'r Arglwydd â phob gostyngeiddrwydd, ac â dagrau a threialon a ddaeth i'm rhan trwy gynllwynion yr Iddewon. Gwyddoch nad ymateliais rhag cyhoeddi i chwi ddim o'r hyn sydd fuddiol, na rhag eich dysgu chwi yn gyhoeddus ac yn eich cartrefi, gan dystiolaethu i Iddewon a Groegiaid am edifeirwch tuag at Dduw a ffydd yn ein Harglwydd Iesu. Ac yn awr dyma fi, dan orfodaeth yr Ysbryd, ar fy ffordd i Jerwsalem, heb wybod beth a ddigwydd imi yno, ond bod yr Ysbryd Glân o dref i dref yn tystiolaethu imi fod rhwymau a gorthrymderau yn fy aros. Ond yr wyf yn cyfrif nad yw fy mywyd o unrhyw werth imi, dim ond imi allu cwblhau fy ngyrfa, a'r weinidogaeth a gefais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu i Efengyl gras Duw. “Ac yn awr, rwy'n gwybod na chewch weld fy wyneb mwyach, chwi oll y bûm i'n teithio yn eich plith gan gyhoeddi'r Deyrnas. Gan hynny, yr wyf yn tystio i chwi y dydd hwn fy mod yn ddieuog o waed unrhyw un; oblegid nid ymateliais rhag cyhoeddi holl arfaeth Duw i chwi. Gofalwch amdanoch eich hunain ac am yr holl braidd, y gosododd yr Ysbryd Glân chwi yn arolygwyr drosto, i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a enillodd ef â gwaed ei briod un. Mi wn i y daw i'ch plith, wedi fy ymadawiad i, fleiddiaid mileinig nad arbedant y praidd, ac y cyfyd o'ch plith chwi eich hunain rai yn llefaru pethau llygredig, i ddenu'r disgyblion ymaith ar eu hôl. Gan hynny, byddwch yn wyliadwrus, gan gofio na pheidiais i, na nos na dydd dros dair blynedd, â rhybuddio pob un ohonoch â dagrau. Ac yn awr yr wyf yn eich cyflwyno i Dduw ac i air ei ras, sydd â'r gallu ganddo i'ch adeiladu, ac i roi i chwi eich etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a sancteiddiwyd. Ni chwenychais arian nac aur na gwisgoedd neb. Fe wyddoch eich hunain mai'r dwylo hyn a fu'n gweini i'm hanghenion i ac eiddo'r rhai oedd gyda mi. Ym mhopeth, dangosais i chwi mai wrth lafurio felly y mae'n rhaid cynorthwyo'r rhai gwan, a dwyn ar gof y geiriau a lefarodd yr Arglwydd Iesu ei hun: ‘Dedwyddach yw rhoi na derbyn.’ ” Wedi dweud hyn, fe benliniodd gyda hwy oll a gweddïo. Torrodd pawb i wylo'n hidl, a syrthio ar wddf Paul a'i gusanu, gan ofidio yn bennaf am iddo ddweud nad oeddent mwyach i weld ei wyneb. Yna aethant i'w hebrwng ef i'r llong.

Actau 20:17-38 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac o Miletus efe a anfonodd i Effesus, ac a alwodd ato henuriaid yr eglwys. A phan ddaethant ato, efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch, er y dydd cyntaf y deuthum i Asia, pa fodd y bûm i gyda chwi dros yr holl amser; Yn gwasanaethu’r Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd, a llawer o ddagrau, a phrofedigaethau, y rhai a ddigwyddodd i mi trwy gynllwynion yr Iddewon: Y modd nad ateliais ddim o’r pethau buddiol heb eu mynegi i chwi, a’ch dysgu ar gyhoedd, ac o dŷ i dŷ; Gan dystiolaethu i’r Iddewon, ac i’r Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tuag at Dduw, a’r ffydd sydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist. Ac yn awr, wele fi yn rhwym yn yr ysbryd yn myned i Jerwsalem, heb wybod y pethau a ddigwydd imi yno: Eithr bod yr Ysbryd Glân yn tystio i mi ym mhob dinas, gan ddywedyd, fod rhwymau a blinderau yn fy aros. Ond nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr gennyf fy einioes fy hun, os gallaf orffen fy ngyrfa trwy lawenydd, a’r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu efengyl gras Duw. Ac yr awron, wele, mi a wn na chewch chwi oll, ymysg y rhai y bûm i yn tramwy yn pregethu teyrnas Dduw, weled fy wyneb i mwyach. Oherwydd paham yr ydwyf yn tystio i chwi y dydd heddiw, fy mod i yn lân oddi wrth waed pawb oll: Canys nid ymateliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw. Edrychwch gan hynny arnoch eich hunain, ac ar yr holl braidd, ar yr hwn y gosododd yr Ysbryd Glân chwi yn olygwyr, i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd efe â’i briod waed. Canys myfi a wn hyn, y daw, ar ôl fy ymadawiad i, fleiddiau blinion i’ch plith, heb arbed y praidd. Ac ohonoch chwi eich hunain y cyfyd gwŷr yn llefaru pethau gŵyrdraws, i dynnu disgyblion ar eu hôl. Am hynny gwyliwch, a chofiwch, dros dair blynedd na pheidiais i nos a dydd â rhybuddio pob un ohonoch â dagrau. Ac yr awron, frodyr, yr ydwyf yn eich gorchymyn i Dduw, ac i air ei ras ef, yr hwn a all adeiladu ychwaneg, a rhoddi i chwi etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a sancteiddiwyd. Arian, neu aur, neu wisg neb, ni chwenychais: Ie, chwi a wyddoch eich hunain, ddarfod i’r dwylo hyn wasanaethu i’m cyfreidiau i, ac i’r rhai oedd gyda mi. Mi a ddangosais i chwi bob peth, mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cynorthwyo’r gweiniaid; a chofio geiriau yr Arglwydd Iesu, ddywedyd ohono ef, mai Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn. Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a roddodd ei liniau i lawr, ac a weddïodd gyda hwynt oll. Ac wylo yn dost a wnaeth pawb: a hwy a syrthiasant ar wddf Paul, ac a’i cusanasant ef; Gan ofidio yn bennaf am y gair a ddywedasai efe, na chaent weled ei wyneb ef mwy. A hwy a’i hebryngasant ef i’r llong.