Actau 20:1-12 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Actau 20:1-12 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd yr helynt drosodd, dyma Paul yn galw’r Cristnogion at ei gilydd i ffarwelio â nhw a’u hannog nhw i ddal ati. Gadawodd i fynd i Macedonia, ac ar ôl teithio ar hyd a lled yr ardal honno yn annog y bobl, aeth i lawr i Corinth yn y de, ac aros yno am dri mis. Pan oedd ar fin hwylio i Syria dyma fe’n darganfod fod yr Iddewon yn cynllwynio i ymosod arno, felly penderfynodd deithio yn ôl drwy Macedonia. Yn teithio gydag e roedd Sopater fab Pyrrhus o Berea, Aristarchus a Secwndus o Thesalonica, Gaius o Derbe, hefyd Timotheus, a Tychicus a Troffimus o dalaith Asia. Ond yna aeth y rhain yn eu blaenau i Troas, a disgwyl amdanon ni yno. Wnaethon ni ddim gadael Philipi nes oedd Gŵyl y Bara Croyw (sef y Pasg) drosodd. Yna bum diwrnod wedyn roedden ni wedi ymuno gyda’r lleill eto yn Troas, a dyma ni’n aros yno am wythnos. Ar y nos Sadwrn dyma ni’n cyfarfod i fwyta a dathlu Swper yr Arglwydd. Paul oedd yn pregethu, a chan ei fod yn bwriadu gadael y diwrnod wedyn, daliodd ati i siarad nes oedd hi’n hanner nos. Roedden ni’n cyfarfod mewn ystafell i fyny’r grisiau, ac roedd llawer o lampau yn llosgi yno. Wrth i Paul fynd ymlaen ac ymlaen, dyma fachgen ifanc o’r enw Eutychus yn dechrau pendwmpian. Roedd yn eistedd ar silff un o’r ffenestri, a phan oedd yn cysgu go iawn syrthiodd allan o’r ffenest oedd ar y trydydd llawr. Dyma nhw’n mynd i’w godi, ond roedd wedi marw. Ond yna aeth Paul i lawr, a thaflu ei freichiau o gwmpas y dyn ifanc. “Peidiwch cynhyrfu!”, meddai, “Mae’n fyw!” Wedyn aeth yn ôl i fyny i fwyta a dathlu Swper yr Arglwydd. Aeth yn ei flaen i siarad nes oedd hi wedi gwawrio, ac yna gadawodd nhw. Dyma nhw’n mynd â’r dyn ifanc adre’n fyw, ac roedd pawb wedi’u calonogi’n fawr.
Actau 20:1-12 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan beidiodd y cynnwrf, anfonodd Paul am y disgyblion, ac wedi eu hannog, ffarweliodd â hwy ac aeth ymaith ar ei ffordd i Facedonia. Wedi teithio trwy'r parthau hynny ac annog llawer ar y disgyblion yno, daeth i wlad Groeg. Treuliodd dri mis yno, a phan oedd ar hwylio i Syria, gwnaeth yr Iddewon gynllwyn yn ei erbyn, a phenderfynodd ddychwelyd trwy Facedonia. Ei gyd-deithwyr oedd Sopater o Berea, mab Pyrrhus, y Thesaloniaid Aristarchus a Secwndus, Gaius o Derbe, a Timotheus, a'r Asiaid Tychicus a Troffimus. Yr oedd y rhain wedi mynd o'n blaen, ac yn aros amdanom yn Troas. Hwyliasom ninnau, wedi dyddiau'r Bara Croyw, o Philipi, a chyrraedd atynt yn Troas ymhen pum diwrnod; ac yno y buom am saith diwrnod. Ar ddydd cyntaf yr wythnos, daethom ynghyd i dorri bara. Dechreuodd Paul, a oedd i fynd ymaith drannoeth, eu hannerch, a daliodd i draethu hyd hanner nos. Yr oedd llawer o lampau yn yr oruwchystafell lle'r oeddem wedi ymgynnull, ac yr oedd dyn ifanc o'r enw Eutychus yn eistedd wrth y ffenestr. Yr oedd hwn yn mynd yn fwy a mwy cysglyd, wrth i Paul ddal i ymhelaethu. Pan drechwyd ef yn llwyr gan gwsg, syrthiodd o'r trydydd llawr, a chodwyd ef yn gorff marw. Ond aeth Paul i lawr; syrthiodd arno a'i gofleidio, a dywedodd, “Peidiwch â chynhyrfu; y mae bywyd ynddo.” Yna aeth i fyny, a thorri'r bara a bwyta. Yna, wedi ymddiddan am amser hir hyd doriad dydd, aeth ymaith. Ond aethant â'r llanc adref yn fyw, ac fe'u calonogwyd yn anghyffredin.
Actau 20:1-12 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar ôl gostegu’r cythrwfl, Paul, wedi galw’r disgyblion ato, a’u cofleidio, a ymadawodd i fyned i Facedonia. Ac wedi iddo fyned dros y parthau hynny, a’u cynghori hwynt â llawer o ymadrodd, efe a ddaeth i dir Groeg. Ac wedi aros dri mis, a gwneuthur o’r Iddewon gynllwyn iddo, fel yr oedd ar fedr morio i Syria, efe a arfaethodd ddychwelyd trwy Facedonia. A chydymdeithiodd ag ef hyd yn Asia, Sopater o Berea; ac o’r Thesaloniaid, Aristarchus a Secundus; a Gaius o Derbe, a Timotheus; ac o’r Asiaid, Tychicus a Troffimus. Y rhai hyn a aethant o’r blaen, ac a arosasant amdanom yn Nhroas. A ninnau a fordwyasom ymaith oddi wrth Philipi, ar ôl dyddiau’r bara croyw, ac a ddaethom atynt hwy i Droas mewn pum niwrnod; lle yr arosasom saith niwrnod. Ac ar y dydd cyntaf o’r wythnos, wedi i’r disgyblion ddyfod ynghyd i dorri bara, Paul a ymresymodd â hwynt, ar fedr myned ymaith drannoeth; ac efe a barhaodd yn ymadrodd hyd hanner nos. Ac yr oedd llawer o lampau yn y llofft lle yr oeddynt wedi ymgasglu. A rhyw ŵr ieuanc, a’i enw Eutychus, a eisteddai mewn ffenestr: ac efe a syrthiodd mewn trymgwsg, tra oedd Paul yn ymresymu yn hir, wedi ei orchfygu gan gwsg, ac a gwympodd i lawr o’r drydedd lofft; ac a gyfodwyd i fyny yn farw. A Phaul a aeth i waered, ac a syrthiodd arno ef, a chan ei gofleidio, a ddywedodd, Na chyffroed arnoch: canys y mae ei enaid ynddo ef. Ac wedi iddo ddyfod i fyny, a thorri bara, a bwyta, ac ymddiddan llawer hyd doriad y dydd; felly efe a aeth ymaith. A hwy a ddygasant y llanc yn fyw, ac a gysurwyd yn ddirfawr.