Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 2:5-39

Actau 2:5-39 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Bryd hynny roedd Iddewon crefyddol o wahanol wledydd wedi dod i aros yn Jerwsalem. Clywon nhw’r sŵn hefyd, ac roedd tyrfa fawr wedi casglu at ei gilydd i weld beth oedd yn digwydd. Roedden nhw wedi drysu, am fod pob un ohonyn nhw yn clywed ei iaith ei hun yn cael ei siarad. Roedd y peth yn syfrdanol! “Onid o Galilea mae’r bobl yma’n dod?” medden nhw. “Sut maen nhw’n gallu siarad ein hieithoedd ni?” (Roedd Parthiaid yno, a Mediaid, Elamitiaid, pobl o Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus ac Asia, Phrygia, Pamffilia, yr Aifft, a’r rhan o Libia sydd wrth ymyl Cyrene; pobl oedd ar ymweliad o Rufain – rhai yn Iddewon ac eraill yn bobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig – a hefyd Cretiaid ac Arabiaid) “Maen nhw’n siarad ein hieithoedd ni, ac yn dweud am y pethau rhyfeddol mae Duw wedi’u gwneud!” Dyna lle roedden nhw’n sefyll yn syn, heb ddim clem beth oedd yn digwydd. “Beth sy’n mynd ymlaen?” medden nhw. Ond roedd rhai yno’n gwatwar a dweud, “Maen nhw wedi meddwi!” Dyma Pedr yn codi ar ei draed i annerch y dyrfa, a’r un ar ddeg arall wrth ei ymyl: “Arweinwyr, bobl Jwdea, a phawb arall sy’n aros yma yn Jerwsalem, gwrandwch yn ofalus – gwna i esbonio i chi beth sy’n digwydd. Dydy’r bobl yma ddim wedi meddwi fel mae rhai ohonoch chi’n dweud. Mae’n rhy gynnar i hynny! Naw o’r gloch y bore ydy hi! “Na, beth sy’n digwydd ydy beth soniodd y proffwyd Joel amdano: ‘Mae Duw yn dweud: Yn y cyfnod olaf Bydda i’n tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd. Bydd eich meibion a’ch merched yn proffwydo, bydd dynion ifanc yn cael gweledigaethau, a phobl hŷn yn cael breuddwydion. Bryd hynny bydda i’n tywallt fy Ysbryd ar fy ngweision i gyd, yn ddynion a merched, a byddan nhw’n proffwydo. Bydd pethau rhyfeddol yn digwydd yn yr awyr ac arwyddion gwyrthiol yn digwydd ar y ddaear – gwaed a thân a mwg yn lledu ym mhobman. Bydd yr haul yn troi’n dywyll a’r lleuad yn mynd yn goch fel gwaed cyn i’r diwrnod mawr, rhyfeddol yna ddod, sef, Dydd yr Arglwydd. Bydd pawb sy’n galw ar enw’r Arglwydd yn cael eu hachub.’ “Bobl Israel, gwrandwch beth dw i’n ddweud: Dangosodd Duw i chi ei fod gyda Iesu o Nasareth – dych chi’n gwybod hynny’n iawn, am fod Duw wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol drwyddo, a phethau eraill oedd yn dangos pwy oedd e. Roedd Duw’n gwybod ac wedi trefnu ymlaen llaw beth fyddai’n digwydd iddo. Gyda help y Rhufeiniaid annuwiol dyma chi’n ei ladd, drwy ei hoelio a’i hongian ar groes. Ond dyma Duw yn ei godi yn ôl yn fyw a’i ollwng yn rhydd o grafangau marwolaeth. Roedd yn amhosib i farwolaeth ddal gafael ynddo! Dyna’n union ddwedodd y Brenin Dafydd: ‘Gwelais fod yr Arglwydd gyda mi bob amser. Am ei fod yn sefyll wrth fy ochr i fydd dim yn fy ysgwyd i. Felly mae nghalon i’n llawen a’m tafod yn gorfoleddu; mae fy nghorff yn byw mewn gobaith, am na fyddi di’n fy ngadael i gyda’r meirw, gadael i’r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd. Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi; bydd bod gyda ti yn fy llenwi â llawenydd.’ “Frodyr a chwiorydd, mae’n amlwg bod y Brenin Dafydd ddim yn sôn amdano’i hun. Buodd farw a chafodd ei gladdu ganrifoedd yn ôl, ac mae ei fedd yn dal gyda ni heddiw. Ond roedd Dafydd yn broffwyd, ac yn gwybod fod Duw wedi addo y byddai un o’i ddisgynyddion yn eistedd ar ei orsedd, sef y Meseia. Roedd yn sôn am rywbeth fyddai’n digwydd yn y dyfodol. Sôn am y Meseia’n dod yn ôl yn fyw oedd Dafydd pan ddwedodd na chafodd ei adael gyda’r meirw ac na fyddai ei gorff yn pydru’n y bedd! A dyna sydd wedi digwydd! – mae Duw wedi codi Iesu yn ôl yn fyw, a dŷn ni’n lygad-dystion i’r ffaith! Bellach mae’n eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. Rhoddodd y Tad yr Ysbryd Glân oedd wedi’i addo, iddo ei dywallt arnon ni. Dyna dych chi wedi’i weld a’i glywed yn digwydd yma heddiw. “Meddyliwch am y peth! – chafodd y Brenin Dafydd mo’i godi i fyny i’r nefoedd, ac eto dwedodd hyn: ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi wneud i dy elynion blygu fel stôl i ti orffwys dy draed arni.”’ “Felly dw i am i Israel gyfan ddeall hyn: Mae Duw wedi gwneud yr Iesu wnaethoch chi ei groeshoelio yn Arglwydd, a Meseia.” Roedd pobl wedi’u hysgwyd i’r byw gan beth ddwedodd Pedr, a dyma nhw’n gofyn iddo ac i’r apostolion eraill, “Frodyr, beth ddylen ni wneud?” Dyma Pedr yn ateb, “Rhaid i chi droi cefn ar eich pechod, a chael eich bedyddio fel arwydd eich bod yn perthyn i Iesu y Meseia a bod Duw yn maddau eich pechodau chi. Wedyn byddwch chi’n derbyn yr Ysbryd Glân yn rhodd gan Dduw. Mae Duw wedi addo hyn i chi ac i’ch disgynyddion, ac i bobl sy’n byw yn bell i ffwrdd – pawb fydd yr Arglwydd ein Duw yn eu galw ato’i hun.”

Actau 2:5-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr oedd yn preswylio yn Jerwsalem Iddewon, pobl dduwiol o bob cenedl dan y nef; ac wrth glywed y sŵn hwn fe ymgasglodd tyrfa ohonynt, ac yr oeddent wedi drysu'n lân am fod pob un ohonynt yn eu clywed hwy yn siarad yn ei iaith ei hun. Yr oeddent yn synnu ac yn rhyfeddu, ac yn dweud, “Onid Galileaid yw'r rhain oll sy'n llefaru? A sut yr ydym ni yn eu clywed bob un ohonom yn ei iaith ei hun, iaith ei fam? Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus ac Asia, Phrygia a Pamffylia, yr Aifft a pharthau Libya tua Cyrene, a'r ymwelwyr o Rufain, yn Iddewon a phroselytiaid, Cretiaid ac Arabiaid, yr ydym yn eu clywed hwy yn llefaru yn ein hieithoedd ni am fawrion weithredoedd Duw.” Yr oedd pawb yn synnu mewn penbleth, gan ddweud y naill wrth y llall, “Beth yw ystyr hyn?” Ond yr oedd eraill yn dweud yn wawdlyd, “Wedi meddwi y maent.” Safodd Pedr ynghyd â'r un ar ddeg, a chododd ei lais a'u hannerch: “Chwi Iddewon, a thrigolion Jerwsalem oll, bydded hyn yn hysbys i chwi; gwrandewch ar fy ngeiriau. Nid yw'r rhain wedi meddwi, fel yr ydych chwi'n tybio, oherwydd dim ond naw o'r gloch y bore yw hi. Eithr dyma'r hyn a ddywedwyd drwy'r proffwyd Joel: “ ‘A hyn a fydd yn y dyddiau olaf, medd Duw: tywalltaf o'm Hysbryd ar bawb; a bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo; bydd eich gwŷr ifainc yn cael gweledigaethau, a'ch hynafgwyr yn gweld breuddwydion; hyd yn oed ar fy nghaethweision a'm caethforynion, yn y dyddiau hynny, fe dywalltaf o'm Hysbryd, ac fe broffwydant. A rhof ryfeddodau yn y nef uchod ac arwyddion ar y ddaear isod, gwaed a thân a tharth mwg; troir yr haul yn dywyllwch, a'r lleuad yn waed, cyn i ddydd mawr a disglair yr Arglwydd ddod; a bydd pob un sy'n galw ar enw'r Arglwydd yn cael ei achub.’ “Bobl Israel, clywch hyn: sôn yr wyf am Iesu o Nasareth, gŵr y mae ei benodi gan Dduw wedi ei amlygu i chwi trwy wyrthiau a rhyfeddodau ac arwyddion a gyflawnodd Duw trwyddo ef yn eich mysg chwi, fel y gwyddoch chwi eich hunain. Yr oedd hwn wedi ei draddodi trwy fwriad penodedig a rhagwybodaeth Duw, ac fe groeshoeliasoch chwi ef drwy law estroniaid, a'i ladd. Ond cyfododd Duw ef, gan ei ryddhau o wewyr angau, oherwydd nid oedd dichon i angau ei ddal yn ei afael. Oherwydd y mae Dafydd yn dweud amdano: “ ‘Yr oeddwn yn gweld yr Arglwydd o'm blaen yn wastad, canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm hysgydwer. Am hynny llawenychodd fy nghalon a gorfoleddodd fy nhafod, ie, a bydd fy nghnawd hefyd yn preswylio mewn gobaith; oherwydd ni fyddi'n gadael fy enaid yn Hades, nac yn gadael i'th Sanct weld llygredigaeth. Hysbysaist imi ffyrdd bywyd; byddi'n fy llenwi â llawenydd yn dy bresenoldeb.’ “Gyfeillion, gallaf siarad yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, iddo farw a chael ei gladdu, ac y mae ei fedd gyda ni hyd y dydd hwn. Felly, ac yntau'n broffwyd ac yn gwybod i Dduw dyngu iddo ar lw y gosodai un o'i linach ar ei orsedd, rhagweld atgyfodiad y Meseia yr oedd pan ddywedodd: “ ‘Ni adawyd ef yn Hades, ac ni welodd ei gnawd lygredigaeth.’ “Yr Iesu hwn a gyfododd Duw, rhywbeth yr ydym ni oll yn dystion ohono. Felly, wedi iddo gael ei ddyrchafu i ddeheulaw Duw, a derbyn gan y Tad ei addewid am yr Ysbryd Glân, fe dywalltodd y peth hwn yr ydych chwi yn ei weld a'i glywed. Canys nid Dafydd a esgynnodd i'r nefoedd; y mae ef ei hun yn dweud: “ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i, “Eistedd ar fy neheulaw, nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed.” ’ “Felly gwybydded holl dŷ Israel yn sicr fod Duw wedi gwneud yn Arglwydd ac yn Feseia, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.” Pan glywsant hyn, fe'u dwysbigwyd yn eu calon, a dywedasant wrth Pedr a'r apostolion eraill, “Beth a wnawn ni, gyfeillion?” Meddai Pedr wrthynt, “Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist er maddeuant eich pechodau, ac fe dderbyniwch yr Ysbryd Glân yn rhodd. Oherwydd i chwi y mae'r addewid, ac i'ch plant, ac i bawb sydd ymhell, pob un y bydd yr Arglwydd ein Duw ni yn ei alw ato.”

Actau 2:5-39 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac yr oedd yn trigo yn Jerwsalem. Iddewon, gwŷr bucheddol, o bob cenedl dan y nef. Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws ynghyd, ac a drallodwyd, oherwydd bod pob un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun. Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Wele, onid Galileaid yw’r rhai hyn oll sydd yn llefaru? A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt bob un yn ein hiaith ein hun, yn yr hon y’n ganed ni? Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, a Jwdea, a Chapadocia, Pontus, ac Asia, Phrygia, a Phamffylia, yr Aifft, a pharthau Libya, yr hon sydd gerllaw Cyrene, a dieithriaid o Rufeinwyr, Iddewon, a phroselytiaid, Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni fawrion weithredoedd Duw. A synasant oll, ac a ameuasant, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a all hyn fod? Ac eraill, gan watwar, a ddywedasant, Llawn o win melys ydynt. Eithr Pedr, yn sefyll gyda’r un ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerwsalem, bydded hysbysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â’m geiriau: Canys nid yw’r rhai hyn yn feddwon, fel yr ydych chwi yn tybied; oblegid y drydedd awr o’r dydd yw hi. Eithr hyn yw’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd Joel; A bydd yn y dyddiau diwethaf, medd Duw, y tywalltaf o’m Hysbryd ar bob cnawd: a’ch meibion chwi a’ch merched a broffwydant, a’ch gwŷr ieuainc a welant weledigaethau, a’ch hynafgwyr a freuddwydiant freuddwydion: Ac ar fy ngweision ac ar fy llawforynion y tywalltaf o’m Hysbryd yn y dyddiau hynny; a hwy a broffwydant: A mi a roddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaear isod; gwaed, a thân, a tharth mwg. Yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod. A bydd, pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, a fydd cadwedig. Ha wŷr Israel, clywch y geiriau hyn; Iesu o Nasareth, gŵr profedig gan Dduw yn eich plith chwi, trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich canol chwi, megis ag y gwyddoch chwithau: Hwn, wedi ei roddi trwy derfynedig gyngor a rhagwybodaeth Duw, a gymerasoch chwi, a thrwy ddwylo anwir a groeshoeliasoch, ac a laddasoch: Yr hwn a gyfododd Duw, gan ryddhau gofidiau angau: canys nid oedd bosibl ei atal ef ganddo. Canys Dafydd sydd yn dywedyd amdano, Rhagwelais yr Arglwydd ger fy mron yn wastad; canys ar fy neheulaw y mae, fel na’m hysgoger. Am hynny y llawenychodd fy nghalon, ac y gorfoleddodd fy nhafod; ie, a’m cnawd hefyd a orffwys mewn gobaith: Am na adewi fy enaid yn uffern, ac na oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth. Gwnaethost yn hysbys i mi ffyrdd y bywyd: ti a’m cyflawni o lawenydd â’th wynepryd. Ha wŷr frodyr, y mae’n rhydd i mi ddywedyd yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, ei farw ef a’i gladdu, ac y mae ei feddrod ef gyda ni hyd y dydd hwn. Am hynny, ac efe yn broffwyd, yn gwybod dyngu o Dduw iddo trwy lw, Mai o ffrwyth ei lwynau ef o ran y cnawd, y cyfodai efe Grist i eistedd ar ei orseddfa ef: Ac efe yn rhagweled, a lefarodd am atgyfodiad Crist, na adawyd ei enaid ef yn uffern, ac na welodd ei gnawd ef lygredigaeth. Yr Iesu hwn a gyfododd Duw i fyny; o’r hyn yr ydym ni oll yn dystion. Am hynny, wedi ei ddyrchafu ef trwy ddeheulaw Duw, ac iddo dderbyn gan y Tad yr addewid o’r Ysbryd Glân, efe a dywalltodd y peth yma yr ydych chwi yr awron yn ei weled ac yn ei glywed. Oblegid ni ddyrchafodd Dafydd i’r nefoedd: ond y mae efe yn dywedyd ei hun, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed. Am hynny gwybydded holl dŷ Israel yn ddiogel, ddarfod i Dduw wneuthur yn Arglwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi. Hwythau, wedi clywed hyn, a ddwysbigwyd yn eu calon, ac a ddywedasant wrth Pedr, a’r apostolion eraill, Ha wŷr frodyr, beth a wnawn ni? A Phedr a ddywedodd wrthynt, Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist, er maddeuant pechodau; a chwi a dderbyniwch ddawn yr Ysbryd Glân. Canys i chwi y mae’r addewid, ac i’ch plant, ac i bawb ymhell, cynifer ag a alwo’r Arglwydd ein Duw ni ato.