Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 17:1-15

Actau 17:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma nhw’n teithio drwy drefi Amffipolis ac Apolonia a chyrraedd Thesalonica, lle roedd synagog Iddewig. Aeth Paul i’r cyfarfodydd yn y synagog yn ôl ei arfer, ac am dri Saboth yn olynol buodd yn trafod yr ysgrifau sanctaidd gyda’r bobl yno. Dangosodd iddyn nhw’n glir a phrofi fod rhaid i’r Meseia ddioddef, a dod yn ôl yn fyw ar ôl marw. “Yr Iesu dw i’n sôn amdano ydy’r Meseia,” meddai wrthyn nhw. Cafodd rhai o’r Iddewon oedd yno’n gwrando eu perswadio, a dyma nhw’n ymuno â Paul a Silas. Daeth nifer fawr o’r Groegiaid oedd yn addoli Duw i gredu hefyd, a sawl un o wragedd pwysig y dre. Ond roedd arweinwyr yr Iddewon yn genfigennus; felly dyma nhw’n casglu criw o ddynion oedd yn loetran yn sgwâr y farchnad a’u cael i ddechrau codi twrw yn y ddinas. Aethon nhw i dŷ Jason i chwilio am Paul a Silas er mwyn dod â nhw allan at y dyrfa. Ond ar ôl methu dod o hyd iddyn nhw, dyma nhw’n llusgo Jason a rhai o’r Cristnogion eraill o flaen swyddogion y ddinas. Roedden nhw’n gweiddi: “Mae’r dynion sydd wedi bod yn codi twrw ar hyd a lled y byd wedi dod i’n dinas ni, ac mae Jason wedi’u croesawu nhw i’w dŷ! Maen nhw’n herio Cesar, drwy ddweud fod brenin arall o’r enw Iesu!” Roedd y dyrfa a’r swyddogion wedi cyffroi wrth glywed y cyhuddiadau yma. Ond dyma’r swyddogion yn penderfynu rhyddhau Jason a’r lleill ar fechnïaeth. Yn syth ar ôl iddi nosi, dyma’r credinwyr yn anfon Paul a Silas i ffwrdd i Berea. Ar ôl cyrraedd yno dyma nhw’n mynd i’r synagog Iddewig. Roedd pobl Berea yn fwy agored na’r Thesaloniaid. Roedden nhw’n gwrando’n astud ar neges Paul, ac wedyn yn mynd ati i chwilio’r ysgrifau sanctaidd yn ofalus i weld a oedd y pethau roedd e’n ddweud yn wir. Daeth llawer o’r Iddewon i gredu, a nifer o wragedd pwysig o blith y Groegiaid, a dynion hefyd. Ond pan glywodd Iddewon Thesalonica fod Paul yn cyhoeddi neges Duw yn Berea, dyma nhw’n mynd yno i greu helynt a chynhyrfu’r dyrfa. Dyma’r Cristnogion yno yn penderfynu anfon Paul i’r arfordir ar unwaith, ond arhosodd Silas a Timotheus yn Berea. Aeth rhai gyda Paul cyn belled ag Athen, ac yna ei adael a mynd yn ôl i Berea gyda chais ar i Silas a Timotheus fynd ato cyn gynted â roedden nhw’n gallu.

Actau 17:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Aethant ar hyd y ffordd trwy Amffipolis ac Apolonia, a chyrraedd Thesalonica, lle yr oedd synagog gan yr Iddewon. Ac yn ôl ei arfer aeth Paul i mewn atynt, ac am dri Saboth bu'n ymresymu â hwy ar sail yr Ysgrythurau, gan esbonio a phrofi fod yn rhaid i'r Meseia ddioddef a chyfodi oddi wrth y meirw. Byddai'n dweud, “Hwn yw'r Meseia—Iesu, yr hwn yr wyf fi'n ei gyhoeddi i chwi.” Cafodd rhai ohonynt eu hargyhoeddi, ac ymuno â Paul a Silas; ac felly hefyd y gwnaeth lliaws mawr o'r Groegiaid oedd yn addoli Duw, ac nid ychydig o'r gwragedd blaenaf. Ond cenfigennodd yr Iddewon, ac wedi cael gafael ar rai dihirod o blith segurwyr y sgwâr, a'u casglu'n dorf, dechreusant greu terfysg yn y ddinas. Ymosodasant ar dŷ Jason, a cheisio dod â Paul a Silas allan gerbron y dinasyddion. Ond wedi methu dod o hyd iddynt hwy, llusgasant Jason a rhai credinwyr o flaen llywodraethwyr y ddinas, gan weiddi, “Y mae aflonyddwyr yr Ymerodraeth wedi dod yma hefyd, ac y mae Jason wedi rhoi croeso iddynt; y mae'r bobl hyn i gyd yn troseddu yn erbyn ordeiniadau Cesar trwy ddweud fod brenin arall, sef Iesu.” Cyffrowyd y dyrfa a'r llywodraethwyr pan glywsant hyn, ond ar ôl derbyn gwarant gan Jason a'r lleill, gollyngasant hwy'n rhydd. Cyn gynted ag iddi nosi, anfonodd y credinwyr Paul a Silas i Berea, ac wedi iddynt gyrraedd aethant i synagog yr Iddewon. Yr oedd y rhain yn fwy eangfrydig na'r rhai yn Thesalonica, gan iddynt dderbyn y gair â phob eiddgarwch, gan chwilio'r Ysgrythurau beunydd i weld a oedd pethau fel yr oeddent hwy yn dweud. Gan hynny, credodd llawer ohonynt, ac nid ychydig o'r Groegiaid, yn wragedd bonheddig ac yn wŷr. Ond pan ddaeth Iddewon Thesalonica i wybod fod gair Duw wedi ei gyhoeddi gan Paul yn Berea hefyd, daethant i godi terfysg a chythryblu'r tyrfaoedd yno hefyd. Yna anfonodd y credinwyr Paul ymaith yn ddi-oed i fynd hyd at y môr, ond arhosodd Silas a Timotheus yno. Daeth hebryngwyr Paul ag ef i Athen, ac aethant oddi yno gyda gorchymyn i Silas a Timotheus ddod ato cyn gynted ag y gallent.

Actau 17:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwedi iddynt dramwy trwy Amffipolis ac Apolonia, hwy a ddaethant i Thesalonica, lle yr oedd synagog i’r Iddewon. A Phaul, yn ôl ei arfer, a aeth i mewn atynt, a thros dri Saboth a ymresymodd â hwynt allan o’r ysgrythurau, Gan egluro a dodi ger eu bronnau, mai rhaid oedd i Grist ddioddef, a chyfodi oddi wrth y meirw; ac mai hwn yw’r Crist Iesu, yr hwn yr wyf fi yn ei bregethu i chwi. A rhai ohonynt a gredasant, ac a ymwasgasant â Phaul a Silas, ac o’r Groegwyr crefyddol liaws mawr, ac o’r gwragedd pennaf nid ychydig. Eithr yr Iddewon y rhai oedd heb gredu, gan genfigennu, a gymerasant atynt ryw ddynion drwg o grwydriaid; ac wedi casglu tyrfa, hwy a wnaethant gyffro yn y ddinas, ac a osodasant ar dŷ Jason, ac a geisiasant eu dwyn hwynt allan at y bobl. A phan na chawsant hwynt, hwy a lusgasant Jason, a rhai o’r brodyr, at benaethiaid y ddinas, gan lefain, Y rhai sydd yn aflonyddu’r byd, y rhai hynny a ddaethant yma hefyd; Y rhai a dderbyniodd Jason: ac y mae’r rhai hyn oll yn gwneuthur yn erbyn ordeiniadau Cesar, gan ddywedyd fod brenin arall, sef Iesu. A hwy a gyffroesant y dyrfa, a llywodraethwyr y ddinas hefyd, wrth glywed y pethau hyn. Ac wedi iddynt gael sicrwydd gan Jason a’r lleill, hwy a’u gollyngasant hwynt ymaith. A’r brodyr yn ebrwydd o hyd nos a anfonasant Paul a Silas i Berea: y rhai wedi eu dyfod yno, a aethant i synagog yr Iddewon. Y rhai hyn oedd foneddigeiddiach na’r rhai oedd yn Thesalonica, y rhai a dderbyniasant y gair gyda phob parodrwydd meddwl, gan chwilio beunydd yr ysgrythurau, a oedd y pethau hyn felly. Felly llawer ohonynt a gredasant, ac o’r Groegesau parchedig, ac o wŷr, nid ychydig. A phan wybu’r Iddewon o Thesalonica fod gair Duw yn ei bregethu gan Paul yn Berea hefyd, hwy a ddaethant yno hefyd, gan gyffroi’r dyrfa. Ac yna yn ebrwydd y brodyr a anfonasant Paul ymaith, i fyned megis i’r môr: ond Silas a Thimotheus a arosasant yno. A chyfarwyddwyr Paul a’i dygasant ef hyd Athen; ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimotheus, ar iddynt ddyfod ato ar ffrwst, hwy a aethant ymaith.