Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 13:26 - Compare All Versions

Actau 13:26 BNET (beibl.net 2015, 2024)

“Frodyr a chwiorydd – chi sy’n blant i Abraham, a chithau o genhedloedd eraill sy’n addoli Duw hefyd, mae’r neges yma am achubiaeth wedi’i hanfon aton ni.

Actau 13:26 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

“Frodyr, disgynyddion Abraham a'r rhai yn eich plith sy'n ofni Duw, i ni yr anfonwyd gair yr iachawdwriaeth hon.

Actau 13:26 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ha wŷr frodyr, plant o genedl Abraham, a’r rhai yn eich plith sydd yn ofni Duw, i chwi y danfonwyd gair yr iachawdwriaeth hon.