Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 13:2 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 13:2 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Pan oedden nhw’n addoli Duw ac yn ymprydio, dyma’r Ysbryd Glân yn dweud, “Mae gen i waith arbennig i Barnabas a Saul ei wneud, a dw i am i chi eu rhyddhau nhw i wneud y gwaith hwnnw.”

Actau 13:2 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Tra oeddent hwy'n offrymu addoliad i'r Arglwydd ac yn ymprydio, dywedodd yr Ysbryd Glân, “Neilltuwch yn awr i mi Barnabas a Saul, i'r gwaith yr wyf wedi eu galw iddo.”

Actau 13:2 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac fel yr oeddynt hwy yn gwasanaethu yr Arglwydd, ac yn ymprydio, dywedodd yr Ysbryd Glân, Neilltuwch i mi Barnabas a Saul, i’r gwaith y gelwais hwynt iddo.