Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 13:1-12

Actau 13:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd nifer o broffwydi ac athrawon yn yr eglwys yn Antiochia: Barnabas, Simeon (y dyn du), Lwcius o Cyrene, Manaen (oedd yn ffrind i Herod Antipas pan oedd yn blentyn), a Saul. Pan oedden nhw’n addoli Duw ac yn ymprydio, dyma’r Ysbryd Glân yn dweud, “Mae gen i waith arbennig i Barnabas a Saul ei wneud, a dw i am i chi eu rhyddhau nhw i wneud y gwaith hwnnw.” Felly ar ôl ymprydio a gweddïo, dyma nhw’n rhoi eu dwylo ar y ddau i’w comisiynu nhw, ac yna eu hanfon i ffwrdd. Dyma’r Ysbryd Glân yn eu hanfon allan, a dyma’r ddau yn mynd i lawr i borthladd Antiochia, sef Selwsia, ac yn hwylio drosodd i Ynys Cyprus. Ar ôl cyrraedd Salamis aethon nhw ati i gyhoeddi neges Duw yn synagogau’r Iddewon. (Roedd Ioan gyda nhw hefyd fel cynorthwywr.) Dyma nhw’n teithio drwy’r ynys gyfan, ac yn dod i Paffos. Yno dyma nhw’n dod ar draws rhyw Iddew oedd yn ddewin ac yn broffwyd ffug. Bar-Iesu oedd yn cael ei alw, ac roedd yn gwasanaethu fel aelod o staff y rhaglaw Sergiws Pawlus. Roedd y rhaglaw yn ddyn deallus, ac anfonodd am Barnabas a Saul am ei fod eisiau clywed beth oedd y neges yma gan Dduw. Ond dyma Elymas (‘y dewin’ – dyna ystyr ei enw yn yr iaith Roeg) yn dadlau yn eu herbyn ac yn ceisio troi’r rhaglaw yn erbyn y ffydd. Dyma Saul (oedd hefyd yn cael ei alw’n Paul), yn llawn o’r Ysbryd Glân, yn edrych i fyw llygad Elymas, ac yn dweud, “Plentyn i’r diafol wyt ti! Gelyn popeth da! Rwyt ti mor dwyllodrus a llawn castiau! Pryd wyt ti’n mynd i stopio gwyrdroi ffyrdd yr Arglwydd? Mae Duw yn mynd i dy gosbi di! Rwyt ti’n mynd i fod yn ddall am gyfnod – fyddi di ddim yn gallu gweld golau dydd!” Yr eiliad honno daeth rhyw niwl a thywyllwch drosto! Roedd yn ymbalfalu o gwmpas, yn ceisio cael rhywun i afael yn ei law. Pan welodd y rhaglaw beth ddigwyddodd, daeth i gredu. Roedd wedi’i syfrdanu gan yr hyn oedd yn cael ei ddysgu iddo am yr Arglwydd.

Actau 13:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr oedd yn yr eglwys oedd yn Antiochia broffwydi ac athrawon—Barnabas a Simeon, a elwid Niger, a Lwcius o Cyrene, a Manaen, un o wŷr llys y Tywysog Herod, a Saul. Tra oeddent hwy'n offrymu addoliad i'r Arglwydd ac yn ymprydio, dywedodd yr Ysbryd Glân, “Neilltuwch yn awr i mi Barnabas a Saul, i'r gwaith yr wyf wedi eu galw iddo.” Yna, wedi ymprydio a gweddïo a rhoi eu dwylo arnynt, gollyngasant hwy. Felly, wedi eu hanfon allan gan yr Ysbryd Glân, daeth y rhain i lawr i Selewcia, a hwylio oddi yno i Cyprus. Wedi cyrraedd Salamis, cyhoeddasant air Duw yn synagogau'r Iddewon. Yr oedd ganddynt Ioan hefyd yn gynorthwywr. Aethant drwy'r holl ynys hyd Paffos, a chael yno ryw ddewin, gau broffwyd o Iddew, o'r enw Bar-Iesu; yr oedd hwn gyda'r rhaglaw, Sergius Pawlus, gŵr deallus. Galwodd hwnnw Barnabas a Saul ato, a cheisio cael clywed gair Duw. Ond yr oedd Elymas y dewin (felly y cyfieithir ei enw) yn eu gwrthwynebu, ac yn ceisio gwyrdroi'r rhaglaw oddi wrth y ffydd. Ond dyma Saul (a elwir hefyd yn Paul), wedi ei lenwi â'r Ysbryd Glân, yn syllu arno ac yn dweud, “Ti, sy'n llawn o bob twyll a phob dichell, fab diafol, gelyn pob cyfiawnder, oni pheidi di â gwyrdroi union ffyrdd yr Arglwydd? Yn awr dyma law'r Arglwydd arnat, ac fe fyddi'n ddall, heb weld yr haul, am beth amser.” Ac ar unwaith syrthiodd arno niwl a thywyllwch, a dyna lle'r oedd yn ymbalfalu am rywun i estyn llaw iddo. Yna pan welodd y rhaglaw beth oedd wedi digwydd, daeth i gredu, wedi ei synnu'n fawr gan y ddysgeidiaeth am yr Arglwydd.

Actau 13:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yr oedd hefyd yn yr eglwys ydoedd yn Antiochia, rai proffwydi ac athrawon; Barnabas, a Simeon, yr hwn a elwid Niger, a Lwcius o Cyrene, a Manaen, brawdmaeth Herod y tetrarch, a Saul. Ac fel yr oeddynt hwy yn gwasanaethu yr Arglwydd, ac yn ymprydio, dywedodd yr Ysbryd Glân, Neilltuwch i mi Barnabas a Saul, i’r gwaith y gelwais hwynt iddo. Yna, wedi iddynt ymprydio a gweddïo, a dodi eu dwylo arnynt, hwy a’u gollyngasant ymaith. A hwythau, wedi eu danfon ymaith gan yr Ysbryd Glân, a ddaethant i Seleucia; ac oddi yno a fordwyasant i Cyprus. A phan oeddynt yn Salamis, hwy a bregethasant air Duw yn synagogau yr Iddewon: ac yr oedd hefyd ganddynt Ioan yn weinidog. Ac wedi iddynt dramwy trwy’r ynys hyd Paffus, hwy a gawsant ryw swynwr, gau broffwyd o Iddew, a’i enw Bar-iesu; Yr hwn oedd gyda’r rhaglaw, Sergius Paulus, gŵr call: hwn, wedi galw ato Barnabas a Saul, a ddeisyfodd gael clywed gair Duw. Eithr Elymas y swynwr, (canys felly y cyfieithir ei enw ef,) a’u gwrthwynebodd hwynt, gan geisio gŵyrdroi’r rhaglaw oddi wrth y ffydd. Yna Saul, (yr hwn hefyd a elwir Paul,) yn llawn o’r Ysbryd Glân, a edrychodd yn graff arno ef, Ac a ddywedodd, O gyflawn o bob twyll a phob ysgelerder, tydi mab diafol, a gelyn pob cyfiawnder, oni pheidi di â gŵyro union ffyrdd yr Arglwydd? Ac yn awr wele, y mae llaw yr Arglwydd arnat ti, a thi a fyddi ddall heb weled yr haul dros amser. Ac yn ddiatreg y syrthiodd arno niwlen a thywyllwch; ac efe a aeth oddi amgylch gan geisio rhai i’w arwain erbyn ei law. Yna y rhaglaw, pan welodd yr hyn a wnaethid, a gredodd, gan ryfeddu wrth ddysgeidiaeth yr Arglwydd.