Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 12:1-25

Actau 12:1-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Tua’r adeg yna dyma’r Brenin Herod Agripa yn cam-drin rhai o’r bobl oedd yn perthyn i’r eglwys. Cafodd Iago (sef brawd Ioan) ei ddienyddio ganddo – drwy ei ladd gyda’r cleddyf. Yna pan welodd fod hyn yn plesio’r arweinwyr Iddewig, dyma fe’n arestio Pedr hefyd. (Roedd hyn yn ystod Gŵyl y Bara Croyw.) Cafodd Pedr ei roi yn y carchar. Trefnwyd fod pedwar milwr ar wyliadwriaeth bob sifft. Bwriad Herod oedd dwyn achos cyhoeddus yn erbyn Pedr ar ôl y Pasg. Tra oedd Pedr yn y carchar roedd yr eglwys yn gweddïo’n daer ar Dduw drosto. Y noson cyn yr achos llys, roedd Pedr yn cysgu. Roedd wedi’i gadwyno i ddau filwr – un bob ochr iddo, a’r lleill yn gwarchod y fynedfa. Yn sydyn roedd angel yno, a golau’n disgleirio drwy’r gell. Rhoddodd bwniad i Pedr yn ei ochr i’w ddeffro. “Brysia!” meddai, “Cod ar dy draed!”, a dyma’r cadwyni’n disgyn oddi ar ei freichiau. Wedyn dyma’r angel yn dweud wrtho, “Rho dy ddillad amdanat a gwisga dy sandalau.” Ac ar ôl i Pedr wneud hynny, dyma’r angel yn dweud, “Tafla dy glogyn amdanat a dilyn fi.” Felly dyma Pedr yn ei ddilyn allan o’r gell – ond heb wybod a oedd y peth yn digwydd go iawn neu ai dim ond breuddwyd oedd y cwbl! Dyma nhw’n mynd heibio’r gwarchodwr cyntaf a’r ail, a chyrraedd y giât haearn oedd yn mynd allan i’r ddinas. Agorodd honno ohoni ei hun! Wedi mynd drwyddi a cherdded i lawr y stryd dyma’r angel yn sydyn yn diflannu a gadael Pedr ar ei ben ei hun. Dyna pryd daeth ato’i hun. “Mae wedi digwydd go iawn! – mae’r Arglwydd wedi anfon ei angel i’m hachub i o afael Herod, fel bod yr hyn roedd yr Iddewon yn ei obeithio ddim yn digwydd i mi.” Pan sylweddolodd hyn, aeth i gartref Mair, mam Ioan Marc. Roedd criw o bobl wedi dod at ei gilydd i weddïo yno. Dyma Pedr yn curo’r drws allanol, ac aeth morwyn o’r enw Rhoda i ateb y drws. Pan wnaeth hi nabod llais Pedr roedd hi mor llawen nes iddi redeg yn ôl i mewn i’r tŷ heb agor y drws! “Mae Pedr wrth y drws!” meddai hi wrth bawb. “Ti’n drysu,” medden nhw. Ond roedd Rhoda yn dal i fynnu fod y peth yn wir. “Mae’n rhaid mai ei angel sydd yna,” medden nhw wedyn. Roedd Pedr yn dal ati i guro’r drws, a chawson nhw’r sioc ryfedda pan agoron nhw’r drws a’i weld. Dyma Pedr yn rhoi arwydd iddyn nhw dawelu, ac esboniodd iddyn nhw sut roedd yr Arglwydd wedi’i ryddhau o’r carchar. “Ewch i ddweud beth sydd wedi digwydd wrth Iago a’r credinwyr eraill,” meddai, ac wedyn aeth i ffwrdd i rywle arall. Y bore wedyn roedd cynnwrf anhygoel ymhlith y milwyr ynglŷn â beth oedd wedi digwydd i Pedr. Dyma Herod yn gorchymyn chwilio amdano ym mhobman ond wnaethon nhw ddim llwyddo i ddod o hyd iddo. Ar ôl croesholi y milwyr oedd wedi bod yn gwarchod Pedr, dyma fe’n gorchymyn iddyn nhw gael eu dienyddio. Ar ôl hyn gadawodd Herod Jwdea, a mynd i aros yn Cesarea am ychydig. Roedd gwrthdaro ffyrnig wedi bod rhyngddo ag awdurdodau Tyrus a Sidon. Ond dyma nhw’n dod at ei gilydd i ofyn am gael cyfarfod gydag e. Roedd rhaid iddyn nhw sicrhau heddwch, am eu bod nhw’n dibynnu ar wlad Herod i werthu bwyd iddyn nhw. Ac roedden nhw wedi perswadio Blastus i’w helpu nhw. (Blastus oedd swyddog personol y brenin, ac roedd y brenin yn ymddiried yn llwyr ynddo.) Ar y diwrnod mawr, eisteddodd Herod ar ei orsedd yn gwisgo’i holl regalia, ac annerch y bobl. Dyma’r bobl yn dechrau gweiddi, “Duw ydy hwn, nid dyn sy’n siarad!” A’r eiliad honno dyma angel Duw yn ei daro’n wael, am iddo adael i’r bobl ei addoli fel petai e’n dduw. Cafodd ei fwyta gan lyngyr a buodd farw. Ond roedd neges Duw yn dal i fynd ar led, a mwy a mwy o bobl yn dod i gredu. Ar ôl i Barnabas a Saul fynd â’r rhodd i Jerwsalem, dyma nhw’n mynd yn ôl i Antiochia, a mynd â Ioan Marc gyda nhw.

Actau 12:1-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Tua'r amser hwnnw, fe gymerodd y Brenin Herod afael ar rai o'r eglwys i'w drygu. Fe laddodd Iago, brawd Ioan, â'r cleddyf. Pan welodd fod hyn yn gymeradwy gan yr Iddewon, aeth ymlaen i ddal Pedr hefyd. Yn ystod dyddiau gŵyl y Bara Croyw y bu hyn. Wedi dal Pedr, fe'i rhoddodd yng ngharchar, a'i draddodi i bedwar pedwariad o filwyr i'w warchod, gan fwriadu dod ag ef allan gerbron y cyhoedd ar ôl y Pasg. Felly yr oedd Pedr dan warchodaeth yn y carchar. Ond yr oedd yr eglwys yn gweddïo'n daer ar Dduw ar ei ran. Pan oedd Herod ar fin ei ddwyn gerbron, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn, a gwylwyr o flaen y drws yn gwarchod y carchar. A dyma angel yr Arglwydd yn sefyll yno, a goleuni'n disgleirio yn y gell. Trawodd yr angel Pedr ar ei ystlys, a'i ddeffro a dweud, “Cod ar unwaith.” A syrthiodd ei gadwynau oddi ar ei ddwylo. Meddai'r angel wrtho, “Rho dy wregys a gwisg dy sandalau.” Ac felly y gwnaeth. Meddai wrtho wedyn, “Rho dy fantell amdanat, a chanlyn fi.” Ac fe'i canlynodd oddi yno. Ni wyddai fod yr hyn oedd yn cael ei gyflawni drwy'r angel yn digwydd mewn gwirionedd, ond yr oedd yn tybio mai gweld gweledigaeth yr oedd. Aethant heibio i'r wyliadwriaeth gyntaf a'r ail, a daethant at y porth haearn oedd yn arwain i'r ddinas; agorodd hwn iddynt ohono'i hun, ac aethant allan a mynd rhagddynt hyd un heol. Yna'n ebrwydd ymadawodd yr angel ag ef. Wedi i Pedr ddod ato'i hun, fe ddywedodd, “Yn awr mi wn yn wir i'r Arglwydd anfon ei angel a'm gwared i o law Herod a rhag popeth yr oedd yr Iddewon yn ei ddisgwyl.” Wedi iddo sylweddoli hyn, aeth i dŷ Mair, mam Ioan a gyfenwid Marc, lle'r oedd cryn nifer wedi ymgasglu ac yn gweddïo. Curodd wrth ddrws y cyntedd, a daeth morwyn o'r enw Rhoda i'w ateb. Pan adnabu hi lais Pedr nid agorodd y drws gan lawenydd, ond rhedodd i mewn a mynegi bod Pedr yn sefyll wrth ddrws y cyntedd. Dywedasant wrthi, “Rwyt ti'n wallgof.” Ond taerodd hithau mai felly yr oedd. Meddent hwythau, “Ei angel ydyw.” Yr oedd Pedr yn dal i guro, ac wedi iddynt agor a'i weld, fe'u syfrdanwyd. Amneidiodd yntau arnynt â'i law i fod yn ddistaw, ac adroddodd wrthynt sut yr oedd yr Arglwydd wedi dod ag ef allan o'r carchar. Dywedodd hefyd, “Mynegwch hyn i Iago a'r brodyr.” Yna ymadawodd, ac aeth ymaith i le arall. Wedi iddi ddyddio, yr oedd cynnwrf nid bychan ymhlith y milwyr: beth allai fod wedi digwydd i Pedr? Wedi i Herod chwilio amdano a methu ei gael, holodd y gwylwyr a gorchmynnodd eu dienyddio. Yna aeth i lawr o Jwdea i Gesarea, ac aros yno. Yr oedd Herod yn gynddeiriog yn erbyn pobl Tyrus a Sidon. Ond daethant hwy yn unfryd ato, ac wedi ennill Blastus, siambrlen y brenin, o'u plaid, deisyfasant heddwch, am fod eu gwlad hwy yn cael ei chynhaliaeth o wlad y brenin. Ar ddiwrnod penodedig, â'i wisg frenhinol amdano, eisteddodd Herod ar ei orsedd a dechrau eu hannerch; a bloeddiodd y bobl, “Llais Duw ydyw, nid llais dyn!” Ar unwaith trawodd angel yr Arglwydd ef, am nad oedd wedi rhoi'r gogoniant i Dduw; ac fe'i hyswyd gan bryfed, a threngodd. Yr oedd gair yr Arglwydd yn cynyddu ac yn mynd ar led. Dychwelodd Barnabas a Saul o Jerwsalem wedi iddynt gyflawni eu gwaith, a chymryd gyda hwy Ioan, a gyfenwid Marc.

Actau 12:1-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac ynghylch y pryd hwnnw yr estynnodd Herod frenin ei ddwylo i ddrygu rhai o’r eglwys. Ac efe a laddodd Iago brawd Ioan â’r cleddyf. A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hynny, efe a chwanegodd ddala Pedr hefyd. (A dyddiau’r bara croyw ydoedd hi.) Yr hwn, wedi ei ddal, a roddes efe yng ngharchar, ac a’i traddododd at bedwar pedwariaid o filwyr i’w gadw; gan ewyllysio, ar ôl y Pasg, ei ddwyn ef allan at y bobl. Felly Pedr a gadwyd yn y carchar: eithr gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr eglwys at Dduw drosto ef. A phan oedd Herod â’i fryd ar ei ddwyn ef allan, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn; a’r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar. Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw, a goleuni a ddisgleiriodd yn y carchar: ac efe a drawodd ystlys Pedr, ac a’i cyfododd ef, gan ddywedyd, Cyfod yn fuan. A’i gadwyni ef a syrthiasant oddi wrth ei ddwylo. A dywedodd yr angel wrtho, Ymwregysa, a rhwym dy sandalau. Ac felly y gwnaeth efe. Yna y dywedodd, Bwrw dy wisg amdanat, a chanlyn fi. Ac efe a aeth allan, ac a’i canlynodd ef: ac ni wybu mai gwir oedd y peth a wnaethid gan yr angel; eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd. Ac wedi myned ohonynt heblaw y gyntaf a’r ail wyliadwriaeth, hwy a ddaethant i’r porth haearn yr hwn sydd yn arwain i’r ddinas, yr hwn a ymagorodd iddynt o’i waith ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy a aethant ar hyd un heol; ac yn ebrwydd yr angel a aeth ymaith oddi wrtho. A Phedr, wedi dyfod ato ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir anfon o’r Arglwydd ei angel, a’m gwared i allan o law Herod, ac oddi wrth holl ddisgwyliad pobl yr Iddewon. Ac wedi iddo gymryd pwyll, efe a ddaeth i dŷ Mair mam Ioan, yr hwn oedd â’i gyfenw Marc, lle yr oedd llawer wedi ymgasglu, ac yn gweddïo. Ac fel yr oedd Pedr yn curo drws y porth, morwyn a ddaeth i ymwrando, a’i henw Rhode. A phan adnabu hi lais Pedr, nid agorodd hi y porth gan lawenydd; eithr hi a redodd i mewn, ac a fynegodd fod Pedr yn sefyll o flaen y porth. Hwythau a ddywedasant wrthi, Yr wyt ti’n ynfydu. Hithau a daerodd mai felly yr oedd. Eithr hwy a ddywedasant, Ei angel ef ydyw. A Phedr a barhaodd yn curo: ac wedi iddynt agori, hwy a’i gwelsant ef, ac a synasant. Ac efe a amneidiodd arnynt â llaw i dewi, ac a adroddodd iddynt pa wedd y dygasai’r Arglwydd ef allan o’r carchar: ac efe a ddywedodd, Mynegwch y pethau hyn i Iago, ac i’r brodyr. Ac efe a ymadawodd, ac a aeth i le arall. Ac wedi ei myned hi yn ddydd, yr oedd trallod nid bychan ymhlith y milwyr, pa beth a ddaethai o Pedr. Eithr Herod, pan ei ceisiodd ef, ac heb ei gael, a holodd y ceidwaid, ac a orchmynnodd eu cymryd hwy ymaith. Yntau a aeth i waered o Jwdea i Cesarea, ac a arhosodd yno. Eithr Herod oedd yn llidiog iawn yn erbyn gwŷr Tyrus a Sidon: a hwy a ddaethant yn gytûn ato; ac wedi ennill Blastus, yr hwn oedd ystafellydd y brenin, hwy a ddeisyfasant dangnefedd; am fod eu gwlad hwynt yn cael ei chynhaliaeth o wlad y brenin. Ac ar ddydd nodedig, Herod, gwedi gwisgo dillad brenhinol, a eisteddodd ar orseddfainc, ac a areithiodd wrthynt. A’r bobl a roes floedd, Lleferydd Duw, ac nid dyn ydyw. Ac allan o law y trawodd angel yr Arglwydd ef, am na roesai’r gogoniant i Dduw: a chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd. A gair Duw a gynyddodd ac a amlhaodd. A Barnabas a Saul, wedi cyflawni eu gweinidogaeth, a ddychwelasant o Jerwsalem, gan gymryd gyda hwynt Ioan hefyd, yr hwn a gyfenwid Marc.