Actau 11:1-18
Actau 11:1-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Clywodd yr apostolion a’r credinwyr yn Jwdea fod pobl o genhedloedd eraill wedi credu neges Duw. Ond pan aeth Pedr yn ôl i Jerwsalem, cafodd ei feirniadu’n hallt gan rai o’r credinwyr Iddewig, “Rwyt ti wedi mynd at bobl o genhedloedd eraill a hyd yn oed bwyta gyda nhw!” medden nhw. Dyma Pedr yn esbonio iddyn nhw yn union beth oedd wedi digwydd: “Rôn i yn Jopa, ac wrthi’n gweddïo ryw ddiwrnod, pan ges i weledigaeth. Gwelais i rywbeth tebyg i gynfas fawr yn cael ei gollwng i lawr o’r awyr wrth ei phedair cornel. Daeth i lawr reit o mlaen i. Edrychais i mewn, ac roedd pob math o anifeiliaid ynddi – rhai gwyllt, ymlusgiaid ac adar. Wedyn dyma lais yn dweud wrtho i, ‘Cod Pedr, lladd beth rwyt ti eisiau, a’i fwyta.’ “Ti ddim o ddifri, Arglwydd!” meddwn i. “Dw i erioed wedi bwyta dim byd sy’n cael ei gyfri’n aflan neu’n anghywir i’w fwyta!” “Ond wedyn dyma’r llais o’r nefoedd yn dweud, ‘Os ydy Duw wedi dweud fod rhywbeth yn iawn i’w fwyta, paid ti â dweud fel arall!’ Digwyddodd yr un peth dair gwaith cyn i’r gynfas gael ei thynnu yn ôl i fyny i’r awyr. “Y funud honno dyma dri dyn oedd wedi cael eu hanfon ata i o Cesarea yn cyrraedd y tu allan i’r tŷ lle roeddwn i’n aros. Dyma’r Ysbryd Glân yn dweud wrtho i am beidio petruso mynd gyda nhw. Aeth y chwe brawd yma gyda mi a dyma ni’n mynd i mewn i dŷ’r dyn oedd wedi anfon amdana i. Dwedodd wrthon ni ei fod wedi gweld angel yn ei dŷ, a bod yr angel wedi dweud wrtho, ‘Anfon i Jopa i nôl dyn o’r enw Simon Pedr. Bydd e’n dweud sut y gelli di a phawb sy’n dy dŷ gael eu hachub.’ “Pan ddechreuais i siarad, dyma’r Ysbryd Glân yn dod arnyn nhw yn union fel y daeth arnon ni ar y dechrau. A dyma fi’n cofio beth roedd yr Arglwydd Iesu wedi’i ddweud: ‘Roedd Ioan yn bedyddio â dŵr, ond mewn ychydig ddyddiau cewch chi’ch bedyddio â’r Ysbryd Glân.’ Felly gan fod Duw wedi rhoi’r un rhodd iddyn nhw ag a roddodd i ni pan wnaethon ni gredu yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i i geisio rhwystro Duw?” Pan glywon nhw’r hanes, doedden nhw ddim yn gallu dweud dim yn groes, a dyma nhw’n dechrau moli Duw. “Mae’n rhaid fod Duw felly’n gadael i bobl o genhedloedd eraill droi cefn ar eu pechod a chael bywyd!” medden nhw.
Actau 11:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Clywodd yr apostolion a'r credinwyr yn Jwdea fod y Cenhedloedd hefyd wedi derbyn gair Duw. Pan ddaeth Pedr i fyny i Jerwsalem, dechreuodd plaid yr enwaediad ddadlau ag ef, a dweud, “Buost yn ymweld â dynion dienwaededig, ac yn cydfwyta gyda hwy.” Dechreuodd Pedr adrodd yr hanes wrthynt yn ei drefn. “Yr oeddwn i,” meddai, “yn nhref Jopa yn gweddïo, a gwelais mewn llesmair weledigaeth: yr oedd rhywbeth fel hwyl fawr yn disgyn ac yn cael ei gollwng o'r nef wrth bedair congl, a daeth hyd ataf. Syllais i mewn iddi a cheisio amgyffred; gwelais anifeiliaid y ddaear a'r bwystfilod a'r ymlusgiaid ac adar yr awyr. A chlywais lais yn dweud wrthyf, ‘Cod, Pedr, lladd a bwyta.’ Ond dywedais, ‘Na, na, Arglwydd; nid aeth dim halogedig neu aflan erioed i'm genau.’ Atebodd llais o'r nef eilwaith, ‘Yr hyn y mae Duw wedi ei lanhau, paid ti â'i alw'n halogedig.’ Digwyddodd hyn deirgwaith, ac yna tynnwyd y cyfan i fyny yn ôl i'r nef. Ac yn union dyma dri dyn yn dod ac yn sefyll wrth y tŷ lle'r oeddem, wedi eu hanfon ataf o Gesarea. A dywedodd yr Ysbryd wrthyf am fynd gyda hwy heb amau dim. Daeth y chwe brawd hyn gyda mi, ac aethom i mewn i dŷ'r dyn hwnnw. Mynegodd yntau i ni fel yr oedd wedi gweld yr angel yn sefyll yn ei dŷ ac yn dweud, ‘Anfon i Jopa i gyrchu Simon, a gyfenwir Pedr; fe lefara ef eiriau wrthyt, a thrwyddynt hwy achubir di a'th holl deulu.’ Ac nid cynt y dechreuais lefaru nag y syrthiodd yr Ysbryd Glân arnynt hwy fel yr oedd wedi syrthio arnom ninnau ar y cyntaf. Cofiais air yr Arglwydd, fel yr oedd wedi dweud, ‘Â dŵr y bedyddiodd Ioan, ond fe'ch bedyddir chwi â'r Ysbryd Glân.’ Os rhoddodd Duw, ynteu, yr un rhodd iddynt hwy ag i ninnau pan gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i allu rhwystro Duw?” Ac wedi iddynt glywed hyn, fe dawsant, a gogoneddu Duw gan ddweud, “Felly rhoddodd Duw i'r Cenhedloedd hefyd yr edifeirwch a rydd fywyd.”
Actau 11:1-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r apostolion a’r brodyr oedd yn Jwdea, a glywsant ddarfod i’r Cenhedloedd hefyd dderbyn gair Duw. A phan ddaeth Pedr i fyny i Jerwsalem, y rhai o’r enwaediad a ymrysonasant yn ei erbyn ef, Gan ddywedyd, Ti a aethost i mewn at wŷr dienwaededig, ac a fwyteaist gyda hwynt. Eithr Pedr a ddechreuodd, ac a eglurodd y peth iddynt mewn trefn, gan ddywedyd, Yr oeddwn i yn ninas Jopa yn gweddïo; ac mewn llewyg y gwelais weledigaeth, Rhyw lestr megis llenlliain fawr yn disgyn, wedi ei gollwng o’r nef erbyn ei phedair congl; a hi a ddaeth hyd ataf fi. Ar yr hon pan edrychais, yr ystyriais, ac mi a welais bedwarcarnolion y ddaear, a gwylltfilod, ac ymlusgiaid, ac ehediaid y nef. Ac mi a glywais lef yn dywedyd wrthyf, Cyfod, Pedr; lladd, a bwyta. Ac mi a ddywedais, Nid felly, Arglwydd: canys dim cyffredin neu aflan nid aeth un amser i’m genau. Eithr y llais a’m hatebodd i eilwaith o’r nef, Y pethau a lanhaodd Duw, na alw di yn gyffredin. A hyn a wnaed dair gwaith: a’r holl bethau a dynnwyd i fyny i’r nef drachefn. Ac wele, yn y man yr oedd tri wŷr yn sefyll wrth y tŷ yr oeddwn ynddo, wedi eu hanfon o Cesarea ataf fi. A’r Ysbryd a archodd i mi fyned gyda hwynt, heb amau dim. A’r chwe brodyr hyn a ddaethant gyda mi; a nyni a ddaethom i mewn i dŷ y gŵr. Ac efe a fynegodd i ni pa fodd y gwelsai efe angel yn ei dŷ, yn sefyll ac yn dywedyd wrtho, Anfon wŷr i Jopa, a gyr am Simon, a gyfenwir Pedr: Yr hwn a lefara eiriau wrthyt, trwy y rhai y’th iacheir di a’th holl dŷ. Ac a myfi yn dechrau llefaru, syrthiodd yr Ysbryd Glân arnynt, megis arnom ninnau yn y dechreuad. Yna y cofiais air yr Arglwydd, y modd y dywedasai efe, Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr; eithr chwi a fedyddir â’r Ysbryd Glân. Os rhoddes Duw gan hynny iddynt hwy gyffelyb rodd ag i ninnau, y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i, i allu lluddias Duw? A phan glywsant y pethau hyn, distawu a wnaethant, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Fe roddes Duw, gan hynny i’r Cenhedloedd hefyd edifeirwch i fywyd.