2 Timotheus 4:2-5 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
2 Timotheus 4:2-5 BNET (beibl.net 2015, 2024)
i gyhoeddi neges Duw. Dal ati i wneud hynny os ydy pobl yn barod i wrando neu beidio. Rhaid i ti gywiro pobl, ceryddu weithiau, annog dro arall – a gwneud hynny gydag amynedd mawr ac yn ofalus dy fod yn ffyddlon i’r gwir. Mae’r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn gallu goddef dysgeidiaeth dda. Byddan nhw’n dilyn eu chwantau eu hunain ac yn dewis pentwr o athrawon fydd ond yn dweud beth maen nhw eisiau ei glywed. Byddan nhw’n gwrthod beth sy’n wir ac yn dilyn straeon celwyddog. Ond, Timotheus, paid cynhyrfu beth bynnag sy’n digwydd. Paid bod ag ofn dioddef. Dal ati i rannu’r newyddion da gyda phobl, a gwneud y gwaith mae Duw wedi’i roi i ti.
2 Timotheus 4:2-5 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
pregetha'r gair; bydd yn barod bob amser, boed yn gyfleus neu'n anghyfleus; argyhoedda; cerydda; calonoga; a hyn ag amynedd diball wrth hyfforddi. Oherwydd fe ddaw amser pan na fydd pobl yn goddef athrawiaeth iach ond yn dilyn eu chwantau eu hunain, ac yn crynhoi o'u cwmpas liaws o athrawon i oglais eu clustiau, gan droi oddi wrth y gwirionedd i wrando ar chwedlau. Ond yn hyn oll cadw di ddisgyblaeth arnat dy hun: goddef galedi; gwna waith efengylwr; cyflawna holl ofynion dy weinidogaeth.
2 Timotheus 4:2-5 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pregetha’r gair; bydd daer mewn amser, allan o amser; argyhoedda, cerydda, annog gyda phob hirymaros ac athrawiaeth. Canys daw’r amser pryd na ddioddefont athrawiaeth iachus; eithr yn ôl eu chwantau eu hunain y pentyrrant iddynt eu hunain athrawon, gan fod eu clustiau yn merwino; Ac oddi wrth y gwirionedd y troant ymaith eu clustiau, ac at chwedlau y troant. Eithr gwylia di ym mhob peth, dioddef adfyd, gwna waith efengylwr, cyflawna dy weinidogaeth.