2 Thesaloniaid 2:1-3
2 Thesaloniaid 2:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gadewch i ni sôn am y ffaith fod yr Arglwydd Iesu Grist yn dod yn ôl, a sut fyddwn ni’n cael ein casglu ato. Ffrindiau annwyl, plîs peidiwch cynhyrfu na chael eich drysu gan bobl sy’n honni bod y diwrnod hwnnw eisoes wedi dod. Peidiwch cymryd sylw o unrhyw un sy’n mynnu mai dyna mae’r Ysbryd yn ei ddweud. A pheidiwch gwrando ar unrhyw stori neu lythyr sy’n dweud mai dyna dŷn ni’n ei gredu. Peidiwch gadael i neb eich twyllo chi. Cyn i’r diwrnod hwnnw ddod bydd y gwrthryfel mawr olaf yn erbyn Duw yn digwydd. Bydd yr un sy’n ymgorfforiad o ddrygioni yn dod i’r golwg, sef yr un sydd wedi’i gondemnio i gael ei ddinistrio gan Dduw.
2 Thesaloniaid 2:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ynglŷn â dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a'n cydgynnull ni ato ef, yr wyf yn deisyf arnoch, gyfeillion, beidio â chymryd eich ysgwyd yn ddisymwth allan o'ch pwyll, na'ch cynhyrfu gan ddatganiad ysbryd, neu air, neu lythyr yn honni ei fod oddi wrthym ni, i'r perwyl fod Dydd yr Arglwydd eisoes wedi dod. Peidiwch â chymryd eich twyllo gan neb mewn unrhyw fodd; oherwydd ni ddaw'r Dydd hwnnw nes i'r gwrthgiliad ddod yn gyntaf, ac i'r un digyfraith, plentyn colledigaeth, gael ei ddatguddio.
2 Thesaloniaid 2:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, er dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a’n cydgynulliad ninnau ato ef, Na’ch sigler yn fuan oddi wrth eich meddwl, ac na’ch cynhyrfer, na chan ysbryd, na chan air, na chan lythyr, megis oddi wrthym ni, fel pe bai dydd Crist yn gyfagos. Na thwylled neb chwi mewn un modd: oblegid ni ddaw’r dydd hwnnw hyd oni ddêl ymadawiad yn gyntaf, a datguddio’r dyn pechod, mab y golledigaeth