Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Thesaloniaid 2:1-12

2 Thesaloniaid 2:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Gadewch i ni sôn am y ffaith fod yr Arglwydd Iesu Grist yn dod yn ôl, a sut fyddwn ni’n cael ein casglu ato. Ffrindiau annwyl, plîs peidiwch cynhyrfu na chael eich drysu gan bobl sy’n honni bod y diwrnod hwnnw eisoes wedi dod. Peidiwch cymryd sylw o unrhyw un sy’n mynnu mai dyna mae’r Ysbryd yn ei ddweud. A pheidiwch gwrando ar unrhyw stori neu lythyr sy’n dweud mai dyna dŷn ni’n ei gredu. Peidiwch gadael i neb eich twyllo chi. Cyn i’r diwrnod hwnnw ddod bydd y gwrthryfel mawr olaf yn erbyn Duw yn digwydd. Bydd yr un sy’n ymgorfforiad o ddrygioni yn dod i’r golwg, sef yr un sydd wedi’i gondemnio i gael ei ddinistrio gan Dduw. Dyma elyn mawr Duw, yr un sy’n meddwl ei fod yn well na’r bodau ysbrydol i gyd ac unrhyw ‘dduw’ arall sy’n cael ei addoli. Yn y diwedd bydd yn gosod ei hun yn nheml y Duw byw, ac yn cyhoeddi mai fe ydy Duw. Ydych chi ddim yn cofio mod i wedi dweud hyn i gyd pan oeddwn i gyda chi? Dylech wybod, felly, am y grym sy’n ei ddal yn ôl rhag iddo ddod i’r golwg cyn i’r amser iawn gyrraedd. Wrth gwrs, mae’r dylanwad dirgel sy’n hybu drygioni eisoes ar waith. Ond fydd y dirgelwch ddim ond yn aros nes bydd yr un sy’n ei ddal yn ôl ar hyn o bryd yn cael ei symud o’r neilltu. Wedyn bydd yr un sy’n ymgorfforiad o ddrygioni yn dod i’r golwg. Ond bydd yr Arglwydd Iesu yn ei ladd drwy ddim ond chwythu arno! Bydd yn ei ddinistrio wrth ddod yn ôl gyda’r fath ysblander. Pan fydd yr un drwg yn dod, bydd yn gwneud gwaith Satan. Bydd ganddo’r nerth i wneud gwyrthiau syfrdanol, a rhyfeddodau ffug eraill. Bydd yn gwneud pob math o bethau drwg ac yn twyllo’r rhai sy’n mynd i ddistryw am eu bod nhw wedi gwrthod credu’r gwir fyddai’n eu hachub nhw. Mae Duw yn eu barnu nhw drwy anfon rhith twyllodrus fydd yn gwneud iddyn nhw gredu celwydd. Felly bydd pawb sy’n gwrthod credu’r gwir ac sydd wedi bod yn mwynhau gwneud drygioni yn cael eu cosbi.

2 Thesaloniaid 2:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ynglŷn â dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a'n cydgynnull ni ato ef, yr wyf yn deisyf arnoch, gyfeillion, beidio â chymryd eich ysgwyd yn ddisymwth allan o'ch pwyll, na'ch cynhyrfu gan ddatganiad ysbryd, neu air, neu lythyr yn honni ei fod oddi wrthym ni, i'r perwyl fod Dydd yr Arglwydd eisoes wedi dod. Peidiwch â chymryd eich twyllo gan neb mewn unrhyw fodd; oherwydd ni ddaw'r Dydd hwnnw nes i'r gwrthgiliad ddod yn gyntaf, ac i'r un digyfraith, plentyn colledigaeth, gael ei ddatguddio. Dyma'r gwrthwynebydd sy'n ymddyrchafu yn erbyn pob un a elwir yn dduw neu sy'n wrthrych addoliad, nes eistedd ei hunan yn nheml Duw, gan gyhoeddi mai ef sydd Dduw. Onid ydych yn cofio fy mod wedi dweud hyn wrthych pan oeddwn eto gyda chwi? Ac yn awr, gwyddoch am yr hyn sydd yn ei ddal yn ôl er mwyn sicrhau mai yn ei briod amser y datguddir ef. Oherwydd y mae grym dirgelwch anghyfraith eisoes ar waith, eithr dim ond nes y bydd yr hwn sydd yn awr yn ei ddal yn ôl wedi ei symud o'r ffordd. Ac yna fe ddatguddir yr un digyfraith, a bydd yr Arglwydd Iesu yn ei ladd ag anadl ei enau, ac yn ei ddiddymu trwy ysblander ei ddyfodiad. Bydd dyfodiad yr un digyfraith yn digwydd trwy weithrediad Satan; fe'i nodweddir gan bob math o nerth ac arwyddion a rhyfeddodau gau, a chan bob twyll anghyfiawn, i ddrygu'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth am iddynt beidio â derbyn cariad at y gwirionedd a chael eu hachub. Oherwydd hyn y mae Duw yn anfon arnynt dwyll, i beri iddynt gredu celwydd, ac felly bydd pawb sydd heb gredu'r gwirionedd, ond wedi ymhyfrydu mewn anghyfiawnder, yn cael eu barnu.

2 Thesaloniaid 2:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, er dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a’n cydgynulliad ninnau ato ef, Na’ch sigler yn fuan oddi wrth eich meddwl, ac na’ch cynhyrfer, na chan ysbryd, na chan air, na chan lythyr, megis oddi wrthym ni, fel pe bai dydd Crist yn gyfagos. Na thwylled neb chwi mewn un modd: oblegid ni ddaw’r dydd hwnnw hyd oni ddêl ymadawiad yn gyntaf, a datguddio’r dyn pechod, mab y golledigaeth; Yr hwn sydd yn gwrthwynebu, ac yn ymddyrchafu goruwch pob peth a elwir yn Dduw, neu a addolir; hyd onid yw efe, megis Duw, yn eistedd yn nheml Duw, ac yn ei ddangos ei hun mai Duw ydyw. Onid cof gennych chwi, pan oeddwn i eto gyda chwi, ddywedyd ohonof y pethau hyn i chwi? Ac yr awron chwi a wyddoch yr hyn sydd yn atal, fel y datguddier ef yn ei bryd ei hun. Canys y mae dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eisoes: yn unig yr hwn sydd yr awron yn atal, a etyl nes ei dynnu ymaith. Ac yna y datguddir yr Anwir hwnnw, yr hwn a ddifetha’r Arglwydd ag ysbryd ei enau, ac a ddilea â disgleirdeb ei ddyfodiad: Sef yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ôl gweithrediad Satan, gyda phob nerth, ac arwyddion, a rhyfeddodau gau, A phob dichell anghyfiawnder yn y rhai colledig; am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig. Ac am hynny y denfyn Duw iddynt hwy amryfusedd cadarn, fel y credont gelwydd: Fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu i’r gwirionedd, ond yn ymfodloni mewn anghyfiawnder.