2 Samuel 5:3-4
2 Samuel 5:3-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly pan ddaeth arweinwyr Israel i Hebron at Dafydd, dyma’r brenin yn gwneud cytundeb â nhw o flaen yr ARGLWYDD. A dyma nhw’n ei eneinio’n frenin ar Israel gyfan. Roedd Dafydd yn dri deg oed pan ddaeth yn frenin, a bu’n frenin am bedwar deg o flynyddoedd.
2 Samuel 5:3-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna daeth holl henuriaid Israel i Hebron at y brenin, a gwnaeth y Brenin Dafydd gyfamod â hwy yn Hebron gerbron yr ARGLWYDD, ac eneiniwyd Dafydd yn frenin ar Israel. Deng mlwydd ar hugain oed oedd Dafydd pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am ddeugain mlynedd.
2 Samuel 5:3-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Felly holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron: a’r brenin Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, gerbron yr ARGLWYDD: a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel. Mab deng mlwydd ar hugain oedd Dafydd pan ddechreuodd deyrnasu; a deugain mlynedd y teyrnasodd efe.