Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Samuel 21:1-14

2 Samuel 21:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yn ystod cyfnod Dafydd fel brenin roedd yna newyn aeth ymlaen am dair blynedd lawn. Dyma Dafydd yn gofyn i’r ARGLWYDD pam. A dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Am fod Saul a’i deulu yn euog o lofruddio pobl Gibeon.” (Doedd pobl Gibeon ddim yn Israeliaid. Nhw oedd yn weddill o’r Amoriaid, ac roedd yr Israeliaid wedi addo byw yn heddychlon â nhw. Ond roedd Saul wedi ceisio cael gwared â nhw am ei fod mor frwd dros Israel a Jwda.) Felly dyma’r Brenin Dafydd yn galw pobl Gibeon ato iddo gael siarad â nhw. Gofynnodd iddyn nhw, “Beth alla i wneud i chi? Sut alla i wneud iawn am hyn, fel eich bod chi’n bendithio pobl yr ARGLWYDD?” A dyma nhw’n ateb, “Dydy arian byth yn mynd i wneud iawn am beth wnaeth Saul a’i deulu. Ac allwn ni ddim dial drwy ladd unrhyw un yn Israel.” “Felly, dwedwch beth ydych chi eisiau,” meddai Dafydd. A dyma nhw’n ateb, “Saul oedd yr un oedd eisiau’n difa ni a chael gwared â ni’n llwyr o Israel. Rho saith o’i ddisgynyddion e i ni. Gwnawn ni eu crogi o flaen yr ARGLWYDD yn Gibea, tref Saul, yr un gafodd ei ddewis gan yr ARGLWYDD.” A dyma’r Brenin Dafydd yn ateb, “Iawn, gwna i eu rhoi nhw i chi.” Ond dyma’r brenin yn arbed bywyd Meffibosheth (mab Jonathan ac ŵyr Saul) am fod Dafydd a Jonathan wedi gwneud addewid i’w gilydd o flaen yr ARGLWYDD. Cymerodd y ddau fab gafodd Ritspa (merch Aia) i Saul, sef Armoni a Meffibosheth; hefyd pum mab Merab, merch Saul, oedd yn wraig i Adriel fab Barsilai o Mechola. Rhoddodd nhw yn nwylo pobl Gibeon, i’w crogi ar y mynydd o flaen yr ARGLWYDD. Cafodd y saith eu lladd gyda’i gilydd. Roedd hyn reit ar ddechrau’r cynhaeaf haidd. Dyma Ritspa (partner Saul a mam dau o’r rhai gafodd eu lladd) yn cymryd sachliain a’i daenu ar graig iddi ei hun. Arhosodd yno drwy gydol y cynhaeaf haidd, hyd nes i dymor y glaw ddod. Wnaeth hi ddim gadael i adar ddisgyn at y cyrff yn ystod y dydd, nac anifeiliaid gwyllt yn y nos. Clywodd Dafydd beth oedd Ritspa wedi’i wneud, felly aeth i Jabesh yn Gilead a gofyn i’r awdurdodau yno am esgyrn Saul a Jonathan. (Pobl Jabesh oedd wedi dwyn cyrff y ddau o’r sgwâr yn Beth-shan, lle roedd y Philistiaid wedi’u crogi nhw ar ôl iddyn nhw gael eu lladd yn y frwydr yn Gilboa.) Dyma Dafydd yn cymryd esgyrn Saul a Jonathan o Jabesh. Wedyn dyma nhw’n casglu esgyrn y rhai oedd wedi cael eu crogi, a’u claddu gydag esgyrn Saul a Jonathan ym medd Cish (tad Saul) yn Sela, yn ardal Benjamin. Ar ôl iddyn nhw wneud popeth roedd y brenin wedi’i orchymyn, dyma’r ARGLWYDD yn ateb gweddïau pobl dros y wlad.

2 Samuel 21:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Bu newyn yn nyddiau Dafydd am dair blynedd yn olynol. Ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD, ac atebodd yr ARGLWYDD fod Saul a'i dylwyth yn euog o waed am iddo ladd trigolion Gibeon. Galwodd y brenin drigolion Gibeon a'u holi. Nid Israeliaid oedd y Gibeoniaid, ond gweddill o'r Amoriaid, ac yr oedd yr Israeliaid wedi gwneud cytundeb heddwch â hwy; eto yr oedd Saul wedi ceisio'u difa yn ei sêl dros yr Israeliaid a'r Jwdeaid. Gofynnodd Dafydd i'r Gibeoniaid, “Beth a gaf ei wneud ichwi? Sut y gwnaf iawn, er mwyn ichwi fendithio etifeddiaeth yr ARGLWYDD?” Dywedodd trigolion Gibeon wrtho, “Nid mater o arian ac aur yw hi rhyngom ni a Saul a'i deulu, ac nid mater i ni yw lladd neb yn Israel.” Dywedodd y brenin, “Beth bynnag a ofynnwch, fe'i gwnaf i chwi.” Dywedasant hwythau, “Am y dyn a'n difaodd ni ac a fwriadodd ein diddymu rhag cael lle o gwbl o fewn terfynau Israel, rhodder inni saith dyn o'i ddisgynyddion, fel y gallwn eu crogi o flaen yr ARGLWYDD yn Gibea Saul ym mynydd yr ARGLWYDD.” Cytunodd y brenin i'w rhoi. Ond fe arbedodd Meffiboseth fab Jonathan, fab Saul oherwydd y llw yn enw'r ARGLWYDD a oedd rhyngddynt, sef rhwng Dafydd a Jonathan mab Saul. Cymerodd y brenin y ddau fab yr oedd Rispa ferch Aia wedi eu geni i Saul, sef Armoni a Meffiboseth, hefyd y pum mab yr oedd Merab ferch Saul wedi eu geni i Adriel fab Barsilai o Mehola. Trosglwyddodd hwy i'r Gibeoniaid, a chrogasant hwythau hwy yn y mynydd o flaen yr ARGLWYDD; syrthiodd y saith ohonynt gyda'i gilydd. Lladdwyd hwy yn nyddiau cyntaf y cynhaeaf, ar ddechrau'r cynhaeaf haidd. Cymerodd Rispa ferch Aia sachliain a'i daenu ar y graig iddi ei hun o ddechrau'r cynhaeaf hyd oni lawiodd diferion o'r awyr ar y cyrff. Ni adawodd i'r un aderyn rheibus ddisgyn arnynt liw dydd, nac anifail gwyllt liw nos. Pan hysbyswyd i Ddafydd yr hyn a wnaeth Rispa ferch Aia, gordderchwraig Saul, fe aeth a chymryd esgyrn Saul a'i fab Jonathan oddi wrth reolwyr Jabes-gilead. Yr oeddent hwy wedi eu lladrata o'r maes yn Beth-sean lle'r oedd y Philistiaid wedi eu crogi, y dydd y lladdodd y Philistiaid Saul yn Gilboa. Cymerodd esgyrn Saul a'i fab Jonathan oddi yno, a chasglwyd ynghyd esgyrn y rhai a grogwyd, a'u claddu gydag esgyrn Saul a'i fab Jonathan yn Sela yn nhir Benjamin, ym medd ei dad Cis. Gwnaed y cwbl a orchmynnodd y brenin, ac wedi hyn derbyniodd Duw ymbil ar ran y wlad.

2 Samuel 21:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A bu newyn yn nyddiau Dafydd dair blynedd olynol. A Dafydd a ymofynnodd gerbron yr ARGLWYDD. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Oherwydd Saul, ac oherwydd ei dŷ gwaedlyd ef, y mae hyn; oblegid lladd ohono ef y Gibeoniaid. A’r brenin a alwodd am y Gibeoniaid, ac a ymddiddanodd â hwynt; (a’r Gibeoniaid hynny nid oeddynt o feibion Israel, ond o weddill yr Amoriaid; a meibion Israel a dyngasai iddynt hwy: eto Saul a geisiodd eu lladd hwynt, o’i serch i feibion Israel a Jwda.) A Dafydd a ddywedodd wrth y Gibeoniaid, Beth a wnaf i chwi? ac â pha beth y gwnaf gymod, fel y bendithioch chwi etifeddiaeth yr ARGLWYDD? A’r Gibeoniaid a ddywedasant wrtho, Ni fynnwn ni nac arian nac aur gan Saul, na chan ei dŷ ef; ac ni fynnwn ni ladd neb yn Israel. Ac efe a ddywedodd, Yr hyn a ddywedoch chwi, a wnaf i chwi. A hwy a ddywedasant wrth y brenin, Y gŵr a’n difethodd ni, ac a fwriadodd i’n herbyn ni, i’n dinistrio ni rhag aros yn un o derfynau Israel, Rhodder i ni saith o wŷr o’i feibion ef, fel y crogom ni hwynt i’r ARGLWYDD yn Gibea Saul, dewisedig yr ARGLWYDD. A dywedodd y brenin, Myfi a’u rhoddaf. Ond y brenin a arbedodd Meffiboseth, mab Jonathan, mab Saul, oherwydd llw yr ARGLWYDD yr hwn oedd rhyngddynt hwy, rhwng Dafydd a Jonathan mab Saul. Ond y brenin a gymerth ddau fab Rispa merch Aia, y rhai a ymddûg hi i Saul, sef Armoni a Meffiboseth; a phum mab Michal merch Saul, y rhai a blantodd hi i Adriel mab Barsilai y Maholathiad: Ac efe a’u rhoddes hwynt yn llaw y Gibeoniaid; a hwy a’u crogasant hwy yn y mynydd gerbron yr ARGLWYDD: a’r saith hyn a gydgwympasant, ac a roddwyd i farwolaeth yn y dyddiau cyntaf o’r cynhaeaf, yn nechreuad cynhaeaf yr haidd. A Rispa merch Aia a gymerth sachliain, a hi a’i hestynnodd ef iddi ar y graig, o ddechrau y cynhaeaf nes diferu dwfr arnynt hwy o’r nefoedd, ac ni adawodd hi i ehediaid y nefoedd orffwys arnynt hwy y dydd, na bwystfil y maes liw nos. A mynegwyd i Dafydd yr hyn a wnaethai Rispa merch Aia, gordderchwraig Saul. A Dafydd a aeth ac a ddug esgyrn Saul, ac esgyrn Jonathan ei fab, oddi wrth berchenogion Jabes Gilead, y rhai a’u lladratasent hwy o heol Beth-sar yr hon y crogasai y Philistiaid hwynt ynddi, y dydd y lladdodd y Philistiaid Saul yn Gilboa. Ac efe a ddug i fyny oddi yno esgyrn Saul, ac esgyrn Jonathan ei fab: a hwy a gasglasant esgyrn y rhai a grogasid. A hwy a gladdasant esgyrn Saul a Jonathan ei fab yng ngwlad Benjamin, yn Sela, ym meddrod Cis ei dad: a hwy a wnaethant yr hyn oll a orchmynasai y brenin. A bu DUW fodlon i’r wlad ar ôl hyn.