Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Samuel 19:40-43 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

2 Samuel 19:40-43 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Pan aeth y brenin drosodd i Gilgal aeth Cimham gydag e. Roedd milwyr Jwda i gyd a hanner rhai Israel wedi dod i hebrwng y brenin dros yr afon. Ond dechreuodd dynion Israel i gyd fynd at y brenin, yn gofyn iddo, “Pam mae’n brodyr ni, pobl Jwda, wedi sleifio’r brenin a’i deulu ar draws yr afon gyda’i filwyr i gyd?” “I’n llwyth ni mae’r brenin yn perthyn,” meddai dynion Jwda. “Pam dych chi’n codi helynt am y peth? Ydyn ni wedi cael bwyd yn dâl ganddo? Neu wobr o ryw fath?” A dyma ddynion Israel yn ateb yn ôl, “Mae gynnon ni ddeg gwaith cymaint o hawl ar y brenin â chi! Pam dych chi’n ein bychanu ni fel yma? Ni oedd y rhai cyntaf i awgrymu dod â’r brenin yn ôl!” Ond roedd dynion Jwda’n dweud pethau tipyn mwy cas na dynion Israel.

2 Samuel 19:40-43 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Pan groesodd y brenin i Gilgal, aeth Cimham drosodd gydag ef; yr oedd holl filwyr Jwda a hanner milwyr Israel yn ei hebrwng drosodd. Yna daeth yr holl Israeliaid a dweud wrth y brenin, “Pam y mae'n brodyr, pobl Jwda, wedi dwyn y brenin, a dod ag ef a'i deulu dros yr Iorddonen, a holl filwyr Dafydd gydag ef?” Dywedodd holl wŷr Jwda wrth yr Israeliaid, “Y mae'r brenin yn perthyn yn nes i ni. Pam yr ydych mor ddig am hyn? A ydym ni wedi bwyta o gwbl ar ei draul, neu wedi derbyn unrhyw fantais ganddo?” Ateb gwŷr Israel i wŷr Jwda ar hyn oedd: “Y mae gennym ni ddengwaith mwy o hawl ar y brenin na chwi, ac yr ydym ni yn hŷn na chwi hefyd. Pam yr ydych yn ein bychanu ni? Onid ni oedd y cyntaf i sôn am ddod â'n brenin yn ôl?” Ond dadleuodd gwŷr Jwda yn ffyrnicach na gwŷr Israel.

2 Samuel 19:40-43 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Yna y brenin a aeth i Gilgal, a Chimham a aeth gydag ef. A holl bobl Jwda a hebryngasant y brenin, a hanner pobl Israel hefyd. Ac wele, holl wŷr Israel a ddaethant at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Paham y lladrataodd ein brodyr ni, gwŷr Jwda, dydi, ac y dygasant y brenin a’i dylwyth dros yr Iorddonen, a holl wŷr Dafydd gydag ef? Ac atebodd holl wŷr Jwda i wŷr Israel, Oblegid câr agos yw y brenin i ni: paham gan hynny y digiasoch chwi am y peth hyn? a fwytasom ni ddim ar draul y brenin? neu a anrhegodd efe ni ag anrheg? A gwŷr Israel a atebasant wŷr Jwda, ac a ddywedasant, Deg rhan sydd i ni yn y brenin; hefyd y mae i ni yn Dafydd fwy nag i chwi: paham gan hynny y diystyraist fi? onid myfi a ddywedais yn gyntaf am gyrchu adref fy mrenin? Ac ymadrodd gwŷr Jwda oedd galetach nag ymadrodd gwŷr Israel.