2 Samuel 13:1-39
2 Samuel 13:1-39 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna beth amser wedyn digwyddodd hyn: Roedd gan Absalom, mab Dafydd, chwaer o’r enw Tamar, oedd yn arbennig o hardd. Roedd Amnon, mab arall i Dafydd, yn ei ffansïo hi. Roedd ei deimladau ati mor gryf roedd yn gwneud ei hun yn sâl. Roedd Tamar wedi cyrraedd oed priodi ac yn wyryf, ond doedd Amnon ddim yn gweld unrhyw ffordd y gallai e ei chael hi. Ond roedd gan Amnon ffrind o’r enw Jonadab (mab Shamma, brawd Dafydd). Roedd Jonadab yn ddyn cyfrwys iawn. Dyma fe’n gofyn i Amnon, “Beth sy’n bod? Ti ydy mab y brenin. Pam wyt ti mor ddigalon drwy’r amser? Wnei di ddim dweud wrtho i beth sydd?” A dyma Amnon yn ateb, “Dw i mewn cariad hefo Tamar, chwaer Absalom.” Yna dyma Jonadab yn dweud wrtho, “Dos i orwedd ar dy wely ac esgus bod yn sâl. Wedyn, pan fydd dy dad yn dod i dy weld, dywed wrtho, ‘Plîs gad i Tamar, fy chwaer, ddod i wneud bwyd i mi. Gad iddi ei baratoi o mlaen i, ac wedyn fy mwydo i.’” Felly dyma Amnon yn mynd i’w wely a smalio bod yn sâl. Daeth y brenin i’w weld, a dyma Amnon yn dweud wrtho, “Plîs gad i Tamar, fy chwaer, ddod i baratoi cacennau sbesial o mlaen i, ac wedyn fy mwydo i.” Dyma Dafydd yn anfon neges at Tamar yn y palas, yn dweud wrthi am fynd i dŷ ei brawd Amnon i wneud bwyd iddo. Felly dyma Tamar yn mynd i dŷ Amnon, lle roedd yn gorwedd. Cymerodd does a’i baratoi o’i flaen a’i goginio. Ond pan ddaeth â’r bwyd ato, dyma Amnon yn gwrthod bwyta. Yna dyma fe’n gorchymyn i’w weision, “Pawb allan o ma!”, a dyma nhw i gyd yn mynd allan. Wedyn dyma Amnon yn dweud wrth Tamar, “Tyrd â’r bwyd i’r ystafell wely, a gwna i fwyta yno.” Felly dyma Tamar yn mynd â’r bwyd oedd hi newydd ei baratoi at ei brawd Amnon i’r ystafell wely. Ond wrth iddi ei annog i fwyta, dyma fe’n gafael ynddi a dweud, “Tyrd i’r gwely hefo fi, chwaer.” “Na! frawd, paid!” meddai hi. “Paid treisio fi. Dydy pobl Israel ddim yn gwneud pethau fel yna. Paid gwneud peth mor erchyll. Allwn i ddim byw gyda’r cywilydd. A fyddai neb yn Israel yn dy barchu di am wneud peth mor erchyll. Plîs paid. Gofyn i’n tad, y brenin; wnaiff e ddim gwrthod fy rhoi i ti.” Ond doedd Amnon ddim am wrando arni. Roedd yn gryfach na hi, a dyma fe’n ei dal hi i lawr a’i threisio. Ond wedyn dyma fe’n dechrau teimlo casineb llwyr ati. Roedd yn ei chasáu hi nawr fwy nag roedd yn ei charu hi o’r blaen. A dyma fe’n dweud wrthi, “Cod! Dos o ma!” A dyma Tamar yn ei ateb, “Na! Plîs paid! Mae fy anfon i ffwrdd nawr yn waeth na beth rwyt ti newydd ei wneud!” Ond doedd e ddim am wrando arni. A dyma fe’n galw’i was ystafell, a dweud wrtho, “Dos â hon allan o ma, a chloi’r drws tu ôl iddi!” Felly dyma’r gwas yn ei thaflu allan, a bolltio’r drws ar ei hôl. Roedd hi mewn gwisg laes (y math o wisg fyddai merched dibriod y brenin yn arfer ei wisgo). Yna dyma Tamar yn rhwygo’r wisg a rhoi lludw ar ei phen. Aeth i ffwrdd â’i dwylo dros ei hwyneb, yn crio’n uchel. Dyma Absalom, ei brawd, yn gofyn iddi, “Ydy’r brawd yna sydd gen ti, Amnon, wedi gwneud rhywbeth i ti? Paid dweud dim am y peth gan ei fod yn frawd i ti. Ond paid ti â phoeni.” Yna aeth Tamar i aros yn nhŷ ei brawd Absalom, yn unig ac wedi torri ei chalon. Pan glywodd y Brenin Dafydd am bopeth oedd wedi digwydd, roedd yn flin ofnadwy. Roedd Absalom yn gwrthod siarad gydag Amnon, run gair; roedd yn ei gasáu am beth wnaeth e i’w chwaer Tamar. Aeth dwy flynedd heibio. Roedd gweision Absalom yn cneifio yn Baal-chatsor, wrth ymyl tref o’r enw Effraim. A dyma Absalom yn gwahodd meibion y brenin i gyd i barti. Aeth at y brenin hefyd a dweud, “Mae’r dynion acw’n cneifio. Tyrd aton ni i’r parti, a thyrd â dy swyddogion hefyd.” Atebodd y brenin, “Na, machgen i, ddown ni ddim i gyd, neu byddwn ni’n faich arnat ti.” Er i Absalom bwyso arno, doedd e ddim yn fodlon mynd. Ond dyma fe yn ei fendithio. Wedyn, dyma Absalom yn dweud, “Os ddoi di dy hun ddim, plîs gad i’m brawd Amnon ddod.” Holodd y brenin, “Pam fyddet ti eisiau iddo fe fynd gyda ti?” Ond roedd Absalom yn dal i bwyso arno, ac yn y diwedd dyma’r brenin yn anfon Amnon a’i feibion eraill i gyd. A dyma Absalom yn paratoi gwledd digon da i frenin. Dwedodd Absalom wrth ei weision, “Gwyliwch Amnon. Dw i eisiau i chi aros nes bydd e ychydig yn chwil. Wedyn pan fydda i’n dweud, lladdwch e. Peidiwch bod ofn. Fi sydd wedi dweud wrthoch chi i wneud hyn. Byddwch yn ddewr!” Felly dyma weision Absalom yn lladd Amnon. A dyma feibion eraill y brenin yn codi, neidio ar eu mulod, a dianc. Tra oedden nhw ar eu ffordd adre, clywodd Dafydd si fod Absalom wedi lladd ei feibion e i gyd, a bod dim un ohonyn nhw’n dal yn fyw. Felly cododd y brenin, rhwygo’i ddillad a gorwedd ar lawr. Ac roedd ei weision i gyd yn sefyll o’i gwmpas, wedi rhwygo’u dillad nhw hefyd. Ond yna dyma Jonadab (mab Shamma, brawd Dafydd) yn dweud, “Syr, paid meddwl fod dy feibion i gyd wedi’i lladd. Dim ond Amnon fydd wedi marw. Mae Absalom wedi bod yn cynllunio i wneud hyn ers i Amnon dreisio ei chwaer e, Tamar. Ddylai’r brenin ddim credu’r stori fod ei feibion i gyd wedi’u lladd. Dim ond Amnon sydd wedi marw, a bydd Absalom wedi dianc.” Yna dyma’r gwyliwr oedd ar ddyletswydd yn edrych allan a gweld tyrfa o bobl yn dod heibio’r bryn o gyfeiriad trefi Beth-choron. A dyma Jonadab yn dweud wrth y brenin, “Edrych, dy feibion sy’n dod, fel gwnes i ddweud!” A’r eiliad honno dyma feibion y brenin yn cyrraedd, yn crio’n uchel. A dyma’r brenin ei hun a’i swyddogion i gyd yn dechrau beichio crio hefyd. Buodd Dafydd yn galaru am ei fab Amnon am amser hir. Roedd Absalom wedi dianc at Talmai fab Amihwd, brenin Geshwr. Arhosodd yn Geshwr am dair blynedd. Erbyn hynny, roedd Dafydd wedi dod dros farwolaeth Amnon, ac wedi dechrau hiraethu am Absalom.
2 Samuel 13:1-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd gan Absalom fab Dafydd chwaer brydferth o'r enw Tamar, a syrthiodd Amnon, un arall o feibion Dafydd, mewn cariad â hi. Poenodd Amnon nes ei fod yn glaf o achos ei chwaer Tamar; oherwydd yr oedd hi yn wyryf, ac nid oedd yn bosibl yng ngolwg Amnon iddo wneud dim iddi. Ond yr oedd ganddo gyfaill o'r enw Jonadab, mab Simea brawd Dafydd, ac yr oedd Jonadab yn ddyn cyfrwys iawn. Gofynnodd hwn iddo, “Pam yr wyt ti'n nychu fel hyn o ddydd i ddydd, O fab y brenin? Oni ddywedi di wrthyf?” Atebodd Amnon, “Yr wyf mewn cariad â Tamar, chwaer fy mrawd Absalom.” Yna dywedodd Jonadab wrtho, “Gorwedd ar dy wely a chymer arnat dy fod yn glaf; a phan ddaw dy dad i'th weld, dywed wrtho, ‘Gad i'm chwaer Tamar ddod i roi bwyd imi, a pharatoi'r bwyd yn fy ngolwg, er mwyn i mi gael gweld a bwyta o'i llaw hi.’ ” Felly aeth Amnon i'w wely a chymryd arno ei fod yn glaf; a phan ddaeth y brenin i'w weld, dywedodd Amnon wrtho, “Gad i'm chwaer Tamar ddod a gwneud cwpl o deisennau bach o flaen fy llygaid, fel y caf fwyta o'i llaw.” Anfonodd Dafydd at Tamar i'r palas a dweud, “Dos yn awr i dŷ dy frawd Amnon a pharatoa fwyd iddo.” Fe aeth Tamar i dŷ ei brawd Amnon, ac yntau yn ei wely; cymerodd does, a'i dylino a gwneud teisennau bach o flaen ei lygaid, a'u crasu. Yna cymerodd y badell a'u gosod o'i flaen. Ond gwrthododd Amnon fwyta, a gorchmynnodd iddynt anfon pawb allan. Wedi i bawb fynd allan, dywedodd Amnon wrth Tamar, “Tyrd â'r bwyd i'r siambr imi gael bwyta o'th law.” Felly cymerodd Tamar y teisennau a baratôdd, a mynd â hwy at Amnon ei brawd i'r siambr; ond pan gynigiodd hwy iddo i'w bwyta, ymaflodd ynddi, a dweud wrthi, “Tyrd, fy chwaer, gorwedd gyda mi.” Dywedodd hithau wrtho, “Na, fy mrawd, paid â'm treisio, oherwydd ni wneir fel hyn yn Israel; paid â gwneud peth mor ffôl. Amdanaf fi, i ble y gallwn fynd â'm gwarth? A byddit tithau fel un o'r ffyliaid yn Israel. Dos i ofyn i'r brenin, oherwydd ni fyddai'n gwrthod fy rhoi iti.” Ond gwrthododd wrando arni, a threchodd hi a'i threisio a gorwedd gyda hi. Yna casaodd Amnon hi â chas perffaith; yn wir yr oedd ei gasineb tuag ati yn fwy na'r cariad a fu ganddo, a dywedodd wrthi, “Cod a dos.” Dywedodd hithau, “Na, oherwydd y mae fy ngyrru i ffwrdd yn waeth cam na'r llall a wnaethost â mi.” Ni fynnai ef wrando arni, ond galwodd am y llanc oedd yn gweini arno, a dweud, “Gyrrwch hon i ffwrdd oddi wrthyf, a chloi'r drws ar ei hôl.” Yr oedd ganddi fantell amryliw amdani, oherwydd dyna sut yr arferai tywysogesau dibriod wisgo. Pan drodd ei was hi allan a chloi'r drws ar ei hôl, taflodd Tamar ludw drosti ei hun, rhwygo'i mantell amryliw, gosod ei llaw ar ei phen, a mynd allan gan lefain. Gofynnodd ei brawd Absalom iddi, “Ai dy frawd Amnon a fu gyda thi? Taw, yn awr, fy chwaer; dy frawd yw ef, paid â phoeni'n ormodol am hyn.” Ond arhosodd Tamar yn alarus yng nghartref ei brawd Absalom. Pan glywodd y brenin Dafydd am hyn i gyd, bu'n ddig iawn, ond ni wastrododd ei fab Amnon, am ei fod yn ei garu, oherwydd ef oedd ei gyntafanedig. Ni ddywedodd Absalom air wrth Amnon na drwg na da; ond yr oedd Absalom yn casáu Amnon am iddo dreisio ei chwaer Tamar. Ymhen dwy flynedd yr oedd yn ddiwrnod cneifio gan Absalom yn Baal-hasor ger Effraim, ac fe estynnodd wahoddiad i holl feibion y brenin. Aeth Absalom at y brenin hefyd, a dweud, “Edrych, y mae gan dy was ddiwrnod cneifio; doed y brenin a'i weision yno gyda'th was.” Ond meddai'r brenin wrth Absalom, “Na, na, fy mab, ni ddown i gyd, rhag bod yn ormod o faich arnat.” Ac er iddo grefu, gwrthododd fynd; ond rhoes ei fendith iddo. Yna dywedodd Absalom, “Os na ddoi di, gad i'm brawd Amnon ddod gyda ni.” Gofynnodd y brenin, “Pam y dylai ef fynd gyda thi?” Ond wedi i Absalom grefu arno, fe anfonodd gydag ef Amnon a holl feibion y brenin. Yna huliodd Absalom wledd frenhinol, a gorchymyn i'w lanciau, “Edrychwch, pan fydd Amnon yn llawen gan win, a minnau'n dweud, ‘Tarwch Amnon’, yna lladdwch ef. Peidiwch ag ofni; onid wyf fi wedi gorchymyn i chwi? Byddwch yn wrol a dewr.” Gwnaeth y llanciau i Amnon yn ôl gorchymyn Absalom, a neidiodd holl feibion y brenin ar gefn eu mulod a ffoi. Tra oeddent ar y ffordd, daeth si i glyw Dafydd fod Absalom wedi lladd holl feibion y brenin, heb adael yr un ohonynt. Cododd y brenin a rhwygo'i ddillad; yna gorweddodd ar lawr, a'i holl weision yn sefyll o'i gwmpas â'u dillad wedi eu rhwygo. Yna meddai Jonadab mab Simea brawd Dafydd, “Peidied f'arglwydd â meddwl eu bod wedi lladd y bechgyn, meibion y brenin, i gyd; Amnon yn unig sydd wedi marw. Y mae hyn wedi bod ym mwriad Absalom o'r dydd y treisiodd ei chwaer Tamar. Peidied f'arglwydd yn awr â chymryd y peth at ei galon, fel petai holl feibion y brenin wedi marw; Amnon yn unig sy'n farw, ac y mae Absalom wedi ffoi.” Fel yr oedd y llanc oedd ar wyliadwriaeth yn edrych allan, gwelodd dwr o bobl yn dod i lawr o gyfeiriad Horonaim. Aeth y gwyliwr a dweud wrth y brenin ei fod wedi gweld dynion yn dod o gyfeiriad Horonaim ar hyd ochr y mynydd. Dywedodd Jonadab wrth y brenin, “Dacw feibion y brenin yn dod. Y mae wedi digwydd fel y dywedodd dy was.” Ac fel yr oedd yn gorffen siarad, dyma feibion y brenin yn cyrraedd ac yn torri allan i wylo, nes bod y brenin hefyd a'i holl weision yn wylo'n chwerw. Ffodd Absalom, a mynd at Talmai fab Ammihur brenin Gesur; ac yr oedd Dafydd yn parhau i alaru ar ôl ei fab. Wedi i Absalom ffoi a chyrraedd Gesur, arhosodd yno am dair blynedd. Yna cododd hiraeth ar y Brenin Dafydd am Absalom, unwaith yr oedd wedi ei gysuro am farwolaeth Amnon.
2 Samuel 13:1-39 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac ar ôl hyn yr oedd gan Absalom mab Dafydd chwaer deg, a’i henw Tamar: ac Amnon mab Dafydd a’i carodd hi. Ac yr oedd mor flin ar Amnon, fel y clafychodd efe oherwydd Tamar ei chwaer: canys gwyry oedd hi; ac anodd y gwelai Amnon wneuthur dim iddi hi. Ond gan Amnon yr oedd cyfaill, a’i enw Jonadab, mab Simea, brawd Dafydd: a Jonadab oedd ŵr call iawn. Ac efe a ddywedodd wrtho ef, Ti fab y brenin, paham yr ydwyt yn curio fel hyn beunydd? oni fynegi di i mi? Ac Amnon a ddywedodd wrtho ef, Caru yr ydwyf fi Tamar, chwaer Absalom fy mrawd. A Jonadab a ddywedodd wrtho ef, Gorwedd ar dy wely, a chymer arnat fod yn glaf: a phan ddelo dy dad i’th edrych, dywed wrtho ef, Deued, atolwg, Tamar fy chwaer i roddi bwyd i mi, ac i arlwyo’r bwyd yn fy ngolwg, fel y gwelwyf, ac y bwytawyf o’i llaw hi. Felly Amnon a orweddodd, ac a gymerth arno fod yn glaf. A’r brenin a ddaeth i’w edrych ef; ac Amnon a ddywedodd wrth y brenin, Deued, atolwg, Tamar fy chwaer i grasu dwy deisen yn fy ngolwg i, fel y bwytawyf o’i llaw hi. Yna Dafydd a anfonodd adref at Tamar, gan ddywedyd, Dos yn awr i dŷ Amnon dy frawd, a pharatoa fwyd iddo. Felly Tamar a aeth i dŷ Amnon ei brawd; ac efe oedd yn gorwedd: a hi a gymerth beilliaid, ac a’i tylinodd, ac a wnaeth deisennau yn ei ŵydd ef, ac a grasodd y teisennau. A hi a gymerth badell, ac a’u tywalltodd hwynt ger ei fron ef: ond efe a wrthododd fwyta. Ac Amnon a ddywedodd, Gyrrwch allan bawb oddi wrthyf fi. A phawb a aethant allan oddi wrtho ef. Yna Amnon a ddywedodd wrth Tamar, Dwg y bwyd i’r ystafell, fel y bwytawyf o’th law di. A Thamar a gymerth y teisennau a wnaethai hi, ac a’u dug at Amnon ei brawd i’r ystafell. A phan ddug hi hwynt ato ef i fwyta, efe a ymaflodd ynddi hi, ac a ddywedodd wrthi hi, Tyred, gorwedd gyda mi, fy chwaer. A hi a ddywedodd wrtho, Paid, fy mrawd; na threisia fi: canys ni wneir fel hyn yn Israel: na wna di yr ynfydrwydd hyn. A minnau, i ba le y bwriaf ymaith fy ngwarth? a thi a fyddi fel un o’r ynfydion yn Israel. Yn awr, gan hynny, ymddiddan, atolwg, â’r brenin: canys ni omedd efe fi i ti. Ond ni fynnai efe wrando ar ei llais hi; eithr efe a fu drech na hi, ac a’i treisiodd, ac a orweddodd gyda hi. Yna Amnon a’i casaodd hi â chas mawr iawn: canys mwy oedd y cas â’r hwn y casasai efe hi, na’r cariad â’r hwn y carasai efe hi. Ac Amnon a ddywedodd wrthi hi, Cyfod, dos ymaith. A hi a ddywedodd wrtho ef, Nid oes achos: y drygioni hwn, sef fy ngyrru ymaith, sydd fwy na’r llall a wnaethost â mi. Ond ni wrandawai efe arni hi. Eithr efe a alwodd ar ei lanc, ei weinidog, ac a ddywedodd, Gyrrwch hon yn awr allan oddi wrthyf fi; a chloa’r drws ar ei hôl hi. Ac amdani hi yr oedd mantell symudliw: canys â’r cyfryw fentyll y dilledid merched y brenin, y rhai oedd forynion. Yna ei weinidog ef a’i dug hi allan, ac a glodd y drws ar ei hôl hi. A Thamar a gymerodd ludw ar ei phen, ac a rwygodd y fantell symudliw oedd amdani, ac a osododd ei llaw ar ei phen, ac a aeth ymaith dan weiddi. Ac Absalom ei brawd a ddywedodd wrthi hi, Ai Amnon dy frawd a fu gyda thi? er hynny yn awr taw â sôn, fy chwaer: dy frawd di yw efe; na osod dy galon ar y peth hyn. Felly Tamar a drigodd yn amddifad yn nhŷ Absalom ei brawd. Ond pan glybu’r brenin Dafydd yr holl bethau hynny, efe a ddigiodd yn aruthr. Ac ni ddywedodd Absalom wrth Amnon na drwg na da: canys Absalom a gasaodd Amnon, oherwydd iddo dreisio Tamar ei chwaer ef. Ac ar ôl dwy flynedd o ddyddiau, yr oedd gan Absalom rai yn cneifio yn Baal-hasor, yr hwn sydd wrth Effraim: ac Absalom a wahoddodd holl feibion y brenin. Ac Absalom a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, Wele yn awr rai yn cneifio i’th was di; deued, atolwg, y brenin a’i weision gyda’th was. A dywedodd y brenin wrth Absalom, Nage, fy mab, ni ddeuwn ni i gyd yn awr; rhag i ni ormesu arnat ti. Ac efe a fu daer arno: ond ni fynnai efe fyned; eithr efe a’i bendithiodd ef. Yna y dywedodd Absalom, Oni ddaw Amnon fy mrawd yn awr gyda ni? A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, I ba beth yr â efe gyda thi? Eto Absalom a fu daer arno, fel y gollyngodd efe Amnon gydag ef, a holl feibion y brenin. Ac Absalom a orchmynnodd i’w lanciau, gan ddywedyd, Edrychwch, atolwg, pan fyddo llawen calon Amnon gan win, a phan ddywedwyf wrthych, Trewch Amnon; yna lleddwch ef, nac ofnwch: oni orchmynnais i chwi? ymwrolwch, a byddwch feibion glewion. A llanciau Absalom a wnaethant i Amnon fel y gorchmynasai Absalom. A holl feibion y brenin a gyfodasant, a phob un a farchogodd ar ei ful, ac a ffoesant. A thra yr oeddynt hwy ar y ffordd, y daeth y chwedl at Dafydd, gan ddywedyd, Absalom a laddodd holl feibion y brenin, ac ni adawyd un ohonynt. Yna y brenin a gyfododd, ac a rwygodd ei ddillad, ac a orweddodd ar y ddaear; a’i holl weision oedd yn sefyll gerllaw, â’u gwisgoedd yn rhwygedig. A Jonadab mab Simea, brawd Dafydd, a atebodd ac a ddywedodd, Na thybied fy arglwydd iddynt hwy ladd yr holl lanciau, sef meibion y brenin; canys Amnon yn unig a fu farw: canys yr oedd ym mryd Absalom hynny, er y dydd y treisiodd efe Tamar ei chwaer ef. Ac yn awr na osoded fy arglwydd frenin y peth at ei galon, gan dybied farw holl feibion y brenin: canys Amnon yn unig a fu farw. Ond Absalom a ffodd. A’r llanc yr hwn oedd yn gwylio a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele bobl lawer yn dyfod ar hyd y ffordd o’i ôl ef, ar hyd ystlys y mynydd. A Jonadab a ddywedodd wrth y brenin, Wele feibion y brenin yn dyfod: fel y dywedodd dy was, felly y mae. A phan orffenasai efe ymddiddan, wele, meibion y brenin a ddaethant, ac a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. A’r brenin hefyd a’i holl weision a wylasant ag wylofain mawr iawn. Ac Absalom a ffodd, ac a aeth at Talmai mab Ammihud brenin Gesur: a Dafydd a alarodd am ei fab bob dydd. Ond Absalom a ffodd, ac a aeth i Gesur; ac yno y bu efe dair blynedd. Ac enaid Dafydd y brenin a hiraethodd am fyned at Absalom: canys efe a gysurasid am Amnon, gan ei farw efe.