Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Pedr 3:17-18 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

2 Pedr 3:17-18 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Ond dych chi wedi cael eich rhybuddio, ffrindiau annwyl. Felly gwyliwch rhag cael eich ysgubo i ffwrdd gan syniadau ffals pobl ddiegwyddor. Dw i ddim am i’ch ffydd gadarn chi simsanu. Yn lle hynny, dw i am i chi brofi mwy a mwy o ffafr a haelioni ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist a dod i’w nabod e’n well. Mae e’n haeddu cael ei foli! – yn awr ac ar y diwrnod pan fydd tragwyddoldeb yn gwawrio! Amen.

2 Pedr 3:17-18 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ond yr ydych chwi, gyfeillion annwyl, yn gwybod am y pethau hyn eisoes. Byddwch ar eich gwyliadwriaeth, felly, rhag ichwi gael eich ysgubo ymaith gan gyfeiliornad rhai afreolus, a syrthio o'ch safle cadarn. Ond cynyddwch mewn gras, ac mewn gwybodaeth o'n Harglwydd a'n Gwaredwr, Iesu Grist. Iddo ef y bo'r gogoniant yn awr ac am byth! Amen.

2 Pedr 3:17-18 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Chwychwi gan hynny, anwylyd, a chwi yn gwybod y pethau hyn o’r blaen, ymgedwch rhag eich arwain ymaith trwy amryfusedd yr annuwiol, a chwympo ohonoch oddi wrth eich sicrwydd eich hun. Eithr cynyddwch mewn gras a gwybodaeth ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist. Iddo ef y byddo gogoniant yr awr hon ac yn dragwyddol. Amen.