2 Pedr 3:14-18
2 Pedr 3:14-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly, ffrindiau annwyl, gan mai dyna dych chi’n edrych ymlaen ato, gwnewch eich gorau glas i fyw bywydau sy’n lân a di-fai, ac mewn perthynas iawn gyda Duw. Dylech chi weld fod amynedd yr Arglwydd yn rhoi cyfle i chi gael eich achub. Dyna’n union ddwedodd ein brawd annwyl Paul pan ysgrifennodd atoch chi, ac mae Duw wedi rhoi dealltwriaeth arbennig iddo fe. Mae’n sôn am y pethau hyn i gyd yn ei lythyrau eraill hefyd. Mae rhai pethau yn ei lythyrau sy’n anodd eu deall. A dyna’r pethau mae pobl sydd heb eu dysgu ac sy’n hawdd eu camarwain yn eu gwyrdroi, yn union fel gyda’r ysgrifau sanctaidd eraill. Y canlyniad ydy eu bod nhw’n mynd i ddinistr! Ond dych chi wedi cael eich rhybuddio, ffrindiau annwyl. Felly gwyliwch rhag cael eich ysgubo i ffwrdd gan syniadau ffals pobl ddiegwyddor. Dw i ddim am i’ch ffydd gadarn chi simsanu. Yn lle hynny, dw i am i chi brofi mwy a mwy o ffafr a haelioni ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist a dod i’w nabod e’n well. Mae e’n haeddu cael ei foli! – yn awr ac ar y diwrnod pan fydd tragwyddoldeb yn gwawrio! Amen.
2 Pedr 3:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly, gyfeillion annwyl, gwnewch eich gorau, wrth ddisgwyl am y pethau hyn, i fod yn ddi-nam a di-fai yng ngolwg Duw, ac i'ch cael mewn tangnefedd. Ystyriwch amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth, yn union fel yr ysgrifennodd ein brawd annwyl, Paul, atoch yn ôl y ddoethineb a roddwyd iddo ef. Felly hefyd yn ei holl lythyrau y mae'n sôn am y pethau hyn. Y mae rhai pethau ynddynt sydd yn anodd eu deall, pethau y mae'r annysgedig a'r ansicr yn eu gwyrdroi, fel y maent yn gwyrdroi'r Ysgrythurau eraill hefyd, i'w dinistr eu hunain. Ond yr ydych chwi, gyfeillion annwyl, yn gwybod am y pethau hyn eisoes. Byddwch ar eich gwyliadwriaeth, felly, rhag ichwi gael eich ysgubo ymaith gan gyfeiliornad rhai afreolus, a syrthio o'ch safle cadarn. Ond cynyddwch mewn gras, ac mewn gwybodaeth o'n Harglwydd a'n Gwaredwr, Iesu Grist. Iddo ef y bo'r gogoniant yn awr ac am byth! Amen.
2 Pedr 3:14-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oherwydd paham, anwylyd, gan eich bod yn disgwyl y pethau hyn, gwnewch eich gorau ar eich cael ganddo ef mewn tangnefedd, yn ddifrycheulyd, ac yn ddiargyhoedd. A chyfrifwch hir amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth; megis ag yr ysgrifennodd ein hannwyl frawd Paul atoch chwi, yn ôl y doethineb a rodded iddo ef; Megis yn ei holl epistolau hefyd, yn llefaru ynddynt am y pethau hyn: yn y rhai y mae rhyw bethau anodd eu deall, y rhai y mae’r annysgedig a’r anwastad yn eu gŵyrdroi, megis yr ysgrythurau eraill, i’w dinistr eu hunain. Chwychwi gan hynny, anwylyd, a chwi yn gwybod y pethau hyn o’r blaen, ymgedwch rhag eich arwain ymaith trwy amryfusedd yr annuwiol, a chwympo ohonoch oddi wrth eich sicrwydd eich hun. Eithr cynyddwch mewn gras a gwybodaeth ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist. Iddo ef y byddo gogoniant yr awr hon ac yn dragwyddol. Amen.