Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Pedr 2:10-16 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

2 Pedr 2:10-16 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Mae Duw yn arbennig o llym wrth gosbi’r rhai hynny sy’n gwneud dim ond dilyn eu chwantau. Pobl sy’n gadael i’w natur bechadurus lygredig reoli eu bywydau, ac sy’n wfftio awdurdod yr Arglwydd. Maen nhw mor haerllug ac mor siŵr ohonyn nhw eu hunain does ganddyn nhw ddim ofn enllibio’r diafol a’i angylion. Dydy hyd yn oed angylion Duw, sy’n llawer cryfach a mwy pwerus na nhw, ddim yn eu henllibio nhw wrth eu cyhuddo o flaen Duw. Ond mae’r bobl yma fel anifeiliaid direswm yn dilyn eu greddfau. Maen nhw’n enllibio pethau dŷn nhw ddim yn eu deall. A byddan nhw hefyd yn cael eu dal a’u dinistrio yn y diwedd. Byddan nhw’n cael eu talu yn ôl am y drwg maen nhw wedi’i wneud! Eu syniad nhw o hwyl ydy rhialtwch gwyllt yng ngolau dydd. Maen nhw fel staen ar eich cymdeithas chi, yn ymgolli yn eu pleserau gwag wrth eistedd i wledda gyda chi. Rhyw ydy’r unig beth sydd ar eu meddyliau nhw wrth edrych ar wragedd, ac maen nhw o hyd ac o hyd yn edrych am gyfle i bechu. Maen nhw’n taflu abwyd i ddal y rhai sy’n hawdd i’w camarwain. Maen nhw’n arbenigwyr ar gymryd mantais o bobl. Byddan nhw’n cael eu melltithio! Maen nhw wedi crwydro oddi ar y ffordd iawn a dilyn esiampl Balaam fab Beor oedd wrth ei fodd yn cael ei dalu am wneud drwg. Ond wedyn cafodd ei geryddu am hynny gan asyn! – anifail mud yn siarad gyda llais dynol ac yn achub y proffwyd rhag gwneud peth hollol wallgof!

2 Pedr 2:10-16 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

ac yn arbennig felly y rhai sy'n byw i borthi chwantau aflan y cnawd, ac yn diystyru awdurdod. Y maent yn rhyfygus a thrahaus, ac yn sarhau'r bodau nefol yn gwbl eofn, rhywbeth nad yw'r angylion, er eu rhagoriaeth mewn nerth a gallu, yn ei wneud wrth gyhoeddi barn yn eu herbyn hwy gerbron yr Arglwydd. Ond y mae'r bobl hyn yn siarad yn sarhaus am bethau nad ydynt yn eu deall; y maent fel anifeiliaid direswm sydd, yn nhrefn natur, wedi eu geni i'w dal a'u difetha; ac fel y difethir anifeiliaid, fe'u difethir hwythau. Fe gânt ddrwg yn dâl am eu drygioni. Eu syniad am bleser yw gloddesta liw dydd. Yn eich cwmni, mae eu chwant a'u gloddesta yn warth a gwaradwydd. Y mae ganddynt lygaid sy'n llawn godineb, na chânt byth mo'u digon o bechod. Y maent yn denu'r ansicr i'w dinistr. Y mae ganddynt galonnau wedi eu hymarfer i drachwant—rhai dan felltith ydynt. Gadawsant y ffordd union a mynd ar gyfeiliorn, gan ddilyn ffordd Balaam fab Bosor, hwnnw a roes ei fryd ar wobr drygioni, ond na chafodd ddim ond cerydd am ei drosedd, pan lefarodd asyn mud â llais dynol ac atal gwallgofrwydd y proffwyd.

2 Pedr 2:10-16 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac yn bennaf y rhai sydd yn rhodio ar ôl y cnawd mewn chwant aflendid, ac yn diystyru llywodraeth. Rhyfygus ydynt, cyndyn; nid ydynt yn arswydo cablu urddas: Lle nid yw’r angylion, y rhai sydd fwy mewn gallu a nerth, yn rhoddi cablaidd farn yn eu herbyn hwynt gerbron yr Arglwydd. Eithr y rhai hyn, megis anifeiliaid anrhesymol anianol, y rhai a wnaed i’w dal ac i’w difetha, a gablant y pethau ni wyddant oddi wrthynt, ac a ddifethir yn eu llygredigaeth eu hunain; Ac a dderbyniant gyflog anghyfiawnder, a hwy yn cyfrif moethau beunydd yn hyfrydwch. Brychau a meflau ydynt, yn ymddigrifo yn eu twyll eu hunain, gan wledda gyda chwi; A llygaid ganddynt yn llawn godineb, ac heb fedru peidio â phechod; yn llithio eneidiau anwadal: a chanddynt galon wedi ymgynefino â chybydd-dra; plant y felltith: Wedi gadael y ffordd union, hwy a aethant ar gyfeiliorn, gan ganlyn ffordd Balaam mab Bosor, yr hwn a garodd wobr anghyfiawnder; Ond efe a gafodd gerydd am ei gamwedd: asen fud arferol â’r iau, gan ddywedyd â llef ddynol, a waharddodd ynfydrwydd y proffwyd.