Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 4:7 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

2 Brenhinoedd 4:7 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Pan aeth hi i ddweud wrth y proffwyd beth oedd wedi digwydd, dyma fe’n dweud wrthi, “Dos i werthu’r olew a thalu dy ddyledion. Wedyn cei di a dy feibion fyw ar yr arian fydd dros ben.”

2 Brenhinoedd 4:7 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Pan ddaeth a dweud yr hanes wrth ŵr Duw, dywedodd ef, “Dos, gwerth yr olew a thâl dy ddyled, a chei di a'th feibion fyw ar y gweddill.”

2 Brenhinoedd 4:7 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Yna hi a ddaeth ac a fynegodd i ŵr DUW. Dywedodd yntau, Dos, gwerth yr olew, a thâl dy ddyled; a bydd di fyw, ti a’th feibion, ar y rhan arall.