Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 3:1-27

2 Brenhinoedd 3:1-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Pan oedd Jehosaffat wedi bod yn frenin ar Jwda am un deg wyth o flynyddoedd, dyma Joram, mab Ahab, yn dod yn frenin ar Israel yn Samaria. Bu’n frenin am un deg dwy o flynyddoedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Ond doedd e ddim mor ddrwg â’i dad a’i fam. Roedd e wedi cael gwared â’r golofn gysegredig i Baal roedd ei dad wedi’i gwneud. Ond roedd yn dal i addoli’r eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi’u codi, i achosi i bobl Israel bechu. Roedd yn gwrthod yn lân cael gwared â nhw. Roedd Mesha, brenin Moab yn cadw defaid. Roedd rhaid iddo dalu treth bob blwyddyn i frenin Israel – can mil o ŵyn a gwlân can mil o hyrddod. Ond pan fu farw’r brenin Ahab, dyma frenin Moab yn gwrthryfela yn erbyn brenin newydd Israel. Felly dyma’r Brenin Joram yn mynd allan o Samaria a galw byddin Israel i gyd at ei gilydd. A dyma fe’n anfon neges at Jehosaffat, brenin Jwda, yn dweud, “Mae brenin Moab wedi gwrthryfela yn fy erbyn i. Ddoi di gyda mi i ryfel yn erbyn Moab?” A dyma Jehosaffat yn ateb, “Dw i gyda ti, a bydd fy myddin i gyda dy fyddin di.” Yna dyma fe’n gofyn, “Pa ffordd awn ni?” A dyma Joram yn ateb, “Ar hyd y ffordd drwy anialwch Edom.” Felly dyma frenin Israel, brenin Jwda a brenin Edom yn mynd y ffordd hir rownd. Cymerodd saith diwrnod, a dyma nhw’n rhedeg allan o ddŵr – doedd ganddyn nhw ddim dŵr i’r milwyr na’r anifeiliaid oedd gyda nhw. “O, na!” meddai brenin Israel, “Ydy’r ARGLWYDD wedi’n galw ni dri brenin allan er mwyn i frenin Moab ein curo ni?” Yna dyma Jehosaffat yn gofyn, “Oes yna un o broffwydi’r ARGLWYDD yma, i ni holi’r ARGLWYDD drwyddo?” “Oes,” meddai un o weision Joram, “Eliseus fab Shaffat, oedd yn arfer helpu Elias.” A dyma Jehosaffat yn dweud, “Mae e’n un sy’n deall meddwl yr ARGLWYDD.” Felly aeth brenin Israel, Jehosaffat a brenin Edom i’w weld. Dyma Eliseus yn dweud wrth frenin Israel, “Gad lonydd i mi. Dos at broffwydi dy dad neu broffwydi dy fam!” Ond dyma frenin Israel yn ateb, “Na, yr ARGLWYDD sydd wedi’n galw ni dri brenin allan er mwyn i frenin Moab ein curo ni!” A dyma Eliseus yn ateb, “Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy’r un dw i’n ei wasanaethu. Mor sicr â’i fod e’n fyw, fyddwn i’n cymryd dim sylw ohonot ti o gwbl oni bai am y parch sydd gen i at y Brenin Jehosaffat. Nawr dewch â rhywun sy’n canu’r delyn ata i.” Wrth i’r telynor ganu dyma Eliseus yn dod dan ddylanwad yr ARGLWYDD. A dyma fe’n dweud, “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Gwnewch ffosydd yn y dyffryn yma.’ Ie, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Welwch chi ddim gwynt na glaw, ond bydd y dyffryn yma’n llawn dŵr. Byddwch chi a’ch anifeiliaid yn cael yfed.’ Mae’n beth mor hawdd i’r ARGLWYDD ei wneud. A byddwch chi’n ennill y frwydr yn erbyn Moab hefyd. Dych chi i ddinistrio’r caerau amddiffynnol a’r trefi pwysig i gyd. Dych chi i dorri’r coed ffrwythau i gyd, llenwi pob ffynnon gyda phridd, a difetha pob darn o dir da gyda cherrig.” Yna’r bore wedyn, tua’r adeg roedden nhw’n arfer cyflwyno aberth i’r ARGLWYDD, dyma ddŵr yn dechrau llifo i lawr o gyfeiriad Edom a llenwi pobman. Roedd pobl Moab wedi clywed fod y brenhinoedd yn ymosod. Felly dyma nhw’n galw at ei gilydd bawb oedd ddigon hen i gario arfau, a mynd i ddisgwyl wrth y ffin. Pan godon nhw’r bore wedyn, roedden nhw’n gweld yr haul yn tywynnu ar y dŵr yn y pellter. Roedd yn edrych yn goch fel gwaed i bobl Moab. “Mae’n rhaid bod y brenhinoedd wedi ymladd yn erbyn ei gilydd,” medden nhw. “Dewch, bobl Moab, i gasglu’r ysbail!” Ond pan gyrhaeddon nhw wersyll Israel, dyma fyddin Israel yn codi ac ymosod arnyn nhw, nes i Moab orfod ffoi. Aeth byddin Israel ar eu holau a’u taro. Dyma nhw’n dinistrio’r trefi i gyd, ac roedd pob dyn yn taflu carreg ar y tir da nes roedd y caeau’n llawn cerrig. Dyma nhw hefyd yn llenwi pob ffynnon gyda phridd, a thorri i lawr pob coeden ffrwythau. Yn y diwedd dim ond Cir-chareseth oedd ar ôl. A dyma’r milwyr gyda ffyn tafl yn ei hamgylchynu ac ymosod arni hithau hefyd. Pan welodd brenin Moab ei fod yn colli’r frwydr, dyma fe’n mynd â saith gant o filwyr gyda chleddyfau i geisio torri drwy rengoedd brenin Edom; ond methu wnaeth e. Yna dyma fe’n cymryd ei fab hynaf, yr un oedd i fod yn frenin ar ei ôl, a’i losgi’n aberth ar ben y wal. Trodd pethau’n ffyrnig yn erbyn Israel, a dyma nhw’n rhoi’r gorau i’r frwydr a mynd yn ôl i’w gwlad eu hunain.

2 Brenhinoedd 3:1-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Daeth Joram fab Ahab yn frenin ar Israel yn Samaria yn y ddeunawfed flwyddyn i Jehosaffat brenin Jwda. Teyrnasodd am ddeuddeng mlynedd, a gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, er nad cymaint â'i dad a'i fam, oherwydd bwriodd allan y golofn Baal a wnaeth ei dad. Ond glynodd yn ddiwyro wrth bechod Jeroboam fab Nebat, yr un a barodd i Israel bechu. Perchen defaid oedd Mesa brenin Moab, a byddai'n talu i frenin Israel gan mil o ŵyn a gwlân can mil o hyrddod. Ond wedi marw Ahab, gwrthryfelodd brenin Moab yn erbyn brenin Israel. Ac ar unwaith aeth y Brenin Jehoram o Samaria i restru holl Israel. Anfonodd hefyd at Jehosaffat brenin Jwda a dweud, “Y mae brenin Moab wedi gwrthryfela yn f'erbyn; a ddoi di gyda mi i ymladd yn erbyn Moab?” Dywedodd yntau, “Dof gam a cham gyda thi, dyn am ddyn, a march am farch.” A holodd, “Pa ffordd yr awn ni?” Atebodd yntau, “Ffordd anialwch Edom.” Felly aeth brenin Israel, brenin Jwda, a brenin Edom ar daith gylch o saith diwrnod, ac nid oedd dŵr i'r fyddin nac i'r anifeiliaid oedd yn eu canlyn. Ac meddai brenin Israel, “Och bod yr ARGLWYDD wedi galw'r tri brenin hyn allan i'w rhoi yn llaw brenin Moab!” Yna dywedodd Jehosaffat, “Onid oes yma broffwyd i'r ARGLWYDD, fel y gallwn ymofyn â'r ARGLWYDD drwyddo?” Atebodd un o weision brenin Israel, “Y mae Eliseus fab Saffat, a fu'n tywallt dŵr dros ddwylo Elias, yma.” Dywedodd Jehosaffat, “Y mae gair yr ARGLWYDD gydag ef.” Ac aeth brenin Israel a Jehosaffat a brenin Edom draw ato. Dywedodd Eliseus wrth frenin Israel, “Beth sydd a wnelom ni â'n gilydd? Dos at broffwydi dy dad a'th fam.” Dywedodd brenin Israel wrtho, “Nage; yr ARGLWYDD sydd wedi galw'r tri brenin hyn i'w rhoi yn llaw Moab.” Atebodd Eliseus, “Cyn wired â bod ARGLWYDD y Lluoedd yn fyw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu, oni bai fy mod yn parchu Jehosaffat brenin Jwda, ni fyddwn yn talu sylw iti nac yn edrych arnat. Ond yn awr, dewch â thelynor ataf.” Ac fel yr oedd y telynor yn canu, daeth llaw yr ARGLWYDD arno, a dywedodd, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gwneir y dyffryn hwn yn llawn ffosydd. Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ni welwch na gwynt na glaw; eto llenwir y dyffryn hwn â dŵr, a chewch chwi a'ch eiddo a'ch anifeiliaid yfed. A chan mor rhwydd yw hyn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fe rydd Moab yn eich llaw hefyd. Dinistriwch bob dinas gaerog a phob tref ddewisol, torrwch i lawr bob pren teg, caewch bob ffynnon ddŵr a difwynwch bob darn o dir da â cherrig.” Ac yn y bore, tuag adeg offrymu'r aberth, gwelwyd dyfroedd yn llifo o gyfeiriad Edom ac yn llenwi'r tir. Pan glywodd pobl Moab fod y brenhinoedd wedi dod i ryfel yn eu herbyn, galwyd i'r gad bob un oedd yn ddigon hen i drin arfau; ac yr oeddent yn sefyll ar y goror. Wedi iddynt godi yn y bore, yr oedd yr haul yn tywynnu ar y dŵr, a'r Moabiaid yn gweld y dŵr o'u blaenau yn goch fel gwaed. Ac meddent, “Gwaed yw hwn; y mae'r brenhinoedd wedi ymladd â'i gilydd, a'r naill wedi lladd y llall; ac yn awr, Moab, at yr anrhaith!” Ond pan ddaethant at wersyll Israel, cododd yr Israeliaid a tharo Moab; ffodd y Moabiaid o'u blaenau, a hwythau'n dal i'w hymlid a'u taro. Yna aethant i ddistrywio'r dinasoedd, a thaflu bawb ei garreg a llenwi pob darn o dir da, a chau pob ffynnon ddŵr, a chwympo pob pren teg, nes gadael dim ond Cir-hareseth; ac amgylchodd y ffon-daflwyr hi, a'i tharo hithau. Pan welodd brenin Moab fod y frwydr yn drech nag ef, cymerodd gydag ef saith gant o wŷr cleddyf i ruthro ar frenin Edom, ond methodd. Felly cymerodd ei fab cyntafanedig, a fyddai'n teyrnasu ar ei ôl, ac offrymodd ef yn aberth ar y mur. A bu llid mawr yn erbyn Israel, a chiliasant oddi wrtho a dychwelyd i'w gwlad.

2 Brenhinoedd 3:1-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A Jehoram mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddeunawfed flwyddyn i Jehosaffat brenin Jwda, ac a deyrnasodd ddeuddeng mlynedd. Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ond nid fel ei dad nac fel ei fam: canys efe a fwriodd ymaith ddelw Baal, yr hon a wnaethai ei dad. Eto efe a lynodd wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu: ni chiliodd efe oddi wrthynt hwy. A Mesa brenin Moab oedd berchen defaid, ac a dalai i frenin Israel gan mil o ŵyn, a chan mil o hyrddod gwlanog. Ond wedi marw Ahab, brenin Moab a wrthryfelodd yn erbyn brenin Israel. A’r brenin Jehoram a aeth allan y pryd hwnnw o Samaria, ac a gyfrifodd holl Israel. Efe a aeth hefyd ac a anfonodd at Jehosaffat brenin Jwda, gan ddywedyd, Brenin Moab a wrthryfelodd i’m herbyn i: a ddeui di gyda mi i ryfel yn erbyn Moab? Dywedodd yntau, Mi a af i fyny; myfi a fyddaf fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau. Ac efe a ddywedodd, Pa ffordd yr awn ni i fyny? Dywedodd yntau, Ffordd anialwch Edom. Felly yr aeth brenin Israel, a brenin Jwda, a brenin Edom; ac a aethant o amgylch ar eu taith saith niwrnod: ac nid oedd dwfr i’r fyddin, nac i’r anifeiliaid oedd yn eu canlyn hwynt. A brenin Israel a ddywedodd, Gwae fi! oherwydd i’r ARGLWYDD alw y tri brenin hyn ynghyd i’w rhoddi yn llaw Moab. A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma broffwyd i’r ARGLWYDD, fel yr ymofynnom ni â’r ARGLWYDD trwyddo ef? Ac un o weision brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Y mae yma Eliseus mab Saffat, yr hwn a dywalltodd ddwfr ar ddwylo Eleias. A Jehosaffat a ddywedodd, Y mae gair yr ARGLWYDD gydag ef. Felly brenin Israel, a Jehosaffat, a brenin Edom, a aethant i waered ato ef. Ac Eliseus a ddywedodd wrth frenin Israel, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi? dos at broffwydi dy dad, ac at broffwydi dy fam. A brenin Israel a ddywedodd wrtho, Nage: canys yr ARGLWYDD a alwodd y tri brenin hyn ynghyd i’w rhoddi yn llaw Moab. Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, oni bai fy mod i yn perchi wyneb Jehosaffat brenin Jwda, nid edrychaswn i arnat ti, ac ni’th welswn. Ond yn awr dygwch i mi gerddor. A phan ganodd y cerddor, daeth llaw yr ARGLWYDD arno ef. Ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Gwna y dyffryn hwn yn llawn ffosydd. Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ni welwch wynt, ac ni welwch law; eto y dyffryn hwn a lenwir o ddwfr, fel yr yfoch chwi, a’ch anifeiliaid, a’ch ysgrubliaid. A pheth ysgafn yw hyn yng ngolwg yr ARGLWYDD: efe a ddyry Moab yn eich llaw chwi hefyd. A chwi a drewch bob dinas gaerog, a phob dinas ddetholedig; a phob pren teg a fwriwch chwi i lawr; yr holl ffynhonnau dyfroedd hefyd a gaewch chwi, a phob darn o dir da a ddifwynwch chwi â cherrig. A’r bore pan offrymwyd y bwyd-offrwm, wele ddyfroedd yn dyfod o ffordd Edom; a’r wlad a lanwyd o ddyfroedd. A phan glybu yr holl Foabiaid fod y brenhinoedd hynny wedi dyfod i fyny i ymladd yn eu herbyn hwynt, y galwyd ynghyd bawb a’r a allai wisgo arfau, ac uchod, a hwy a safasant ar y terfyn. A hwy a gyfodasant yn fore, a’r haul a gyfodasai ar y dyfroedd; a’r Moabiaid a ganfuant ar eu cyfer y dyfroedd yn goch fel gwaed: A hwy a ddywedasant, Gwaed yw hwn: gan ddifetha y difethwyd y brenhinoedd, a hwy a drawsant bawb ei gilydd: am hynny yn awr at yr anrhaith, Moab. A phan ddaethant at wersyll Israel, yr Israeliaid a gyfodasant ac a drawsant y Moabiaid, fel y ffoesant o’u blaen hwynt: a hwy a aethant rhagddynt, gan daro’r Moabiaid yn eu gwlad eu hun. A hwy a ddistrywiasant y dinasoedd, ac i bob darn o dir da y bwriasant bawb ei garreg, ac a’i llanwasant; a phob ffynnon ddwfr a gaeasant hwy, a phob pren da a gwympasant hwy i lawr: yn unig yn Cir-haraseth y gadawsant ei cherrig; eto y rhai oedd yn taflu a’i hamgylchynasant, ac a’i trawsant hi. A phan welodd brenin Moab fod y rhyfelwyr yn drech nag ef, efe a gymerth saith gant o wŷr gydag ef yn tynnu cleddyf, i ruthro ar frenin Edom: ond nis gallasant hwy. Yna efe a gymerodd ei fab cyntaf-anedig ef, yr hwn oedd i deyrnasu yn ei le ef, ac a’i hoffrymodd ef yn boethoffrwm ar y mur. A bu llid mawr yn erbyn Israel: a hwy a aethant ymaith oddi wrtho ef, ac a ddychwelasant i’w gwlad eu hun.