2 Brenhinoedd 25:1-2
2 Brenhinoedd 25:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â’i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem. Digwyddodd hyn ar y degfed diwrnod o’r degfed mis o nawfed flwyddyn Sedeceia fel brenin. Dyma nhw’n gwersylla o gwmpas y ddinas, ac yn codi rampiau i warchae arni. Buon nhw’n gwarchae ar y ddinas am flwyddyn a hanner (blwyddyn un deg un Sedeceia fel brenin).
2 Brenhinoedd 25:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
ac yn y nawfed flwyddyn o'i deyrnasiad, ar y degfed dydd o'r degfed mis, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon gyda'i holl fyddin yn erbyn Jerwsalem, a gwersyllu yno, a chodi gwrthglawdd o'i chwmpas. Bu'r ddinas dan warchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i'r Brenin Sedeceia.
2 Brenhinoedd 25:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn y nawfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a’i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a wersyllodd yn ei herbyn hi, a hwy a adeiladasant yn ei herbyn hi wrthglawdd o’i hamgylch hi. A bu y ddinas yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i’r brenin Sedeceia.