Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 2:9 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

2 Brenhinoedd 2:9 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Yna ar ôl iddyn nhw groesi, dyma Elias yn gofyn i Eliseus, “Dwed wrtho i be ga i wneud i ti cyn i mi gael fy nghymryd oddi wrthot ti?” “Plîs gad i mi gael siâr ddwbl o dy ysbryd di,” meddai Eliseus.

2 Brenhinoedd 2:9 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Wedi iddynt groesi, dywedodd Elias wrth Eliseus, “Gofyn! Beth a wnaf iti cyn fy nghymryd oddi wrthyt?” Atebodd Eliseus, “Rhodder imi gyfran ddwbl o'th ysbryd.”

2 Brenhinoedd 2:9 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac wedi iddynt fyned drosodd, Eleias a ddywedodd wrth Eliseus, Gofyn y peth a wnelwyf i ti, cyn fy nghymryd oddi wrthyt. A dywedodd Eliseus, Bydded gan hynny, atolwg, ddau parth o’th ysbryd di arnaf fi.