Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 2:8 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

2 Brenhinoedd 2:8 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dyma Elias yn cymryd ei glogyn a’i rolio, a tharo’r dŵr gydag e. Dyma lwybr yn agor drwy’r afon, a dyma’r ddau’n croesi drosodd ar dir sych.

2 Brenhinoedd 2:8 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Cymerodd Elias ei fantell a'i rholio a tharo'r dŵr. Ymrannodd y dŵr i'r ddeutu, a chroesodd y ddau ar dir sych.

2 Brenhinoedd 2:8 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac Eleias a gymerth ei fantell, ac a’i plygodd ynghyd, ac a drawodd y dyfroedd, a hwy a ymwahanasant yma ac acw, fel yr aethant hwy trwodd ill dau ar dir sych.