2 Brenhinoedd 2:19-25
2 Brenhinoedd 2:19-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma bobl y dre yn dweud wrth Eliseus, “Mae’r dre yma mewn safle da, fel ti’n gweld, syr. Ond mae’r dŵr yn wael a dydy’r cnydau ddim yn tyfu.” “Dewch â jar newydd i mi, a rhoi halen ynddo,” meddai Eliseus. Felly dyma nhw’n gwneud hynny, a dyma Eliseus yn mynd at lygad y ffynnon a thaflu’r halen i mewn iddi; yna dweud, “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i’n puro’r dŵr yma. Fydd e ddim yn achosi marwolaeth nac anffrwythlondeb byth eto.’” Ac mae’r dŵr yn bur hyd heddiw, yn union fel roedd Eliseus wedi dweud. Aeth Eliseus o Jericho yn ôl i Bethel. Pan oedd e ar ei ffordd dyma griw o fechgyn ifanc yn dod allan o’r dre a dechrau gwneud hwyl am ei ben. Roedden nhw’n gweiddi, “Bacha hi, y moelyn! Bacha hi, y moelyn!” Dyma fe’n troi rownd a rhythu arnyn nhw, a galw ar yr ARGLWYDD i’w melltithio nhw. A dyma ddwy arth yn dod allan o’r goedwig a llarpio pedwar deg dau o’r bechgyn. Aeth Eliseus ymlaen i Fynydd Carmel, ac wedyn yn ôl i Samaria.
2 Brenhinoedd 2:19-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd trigolion y dref wrth Eliseus, “Edrych, y mae safle'r dref yn ddymunol, fel y sylwi, O feistr, ond y mae'r dŵr yn wenwynig a'r tir yn ddiffrwyth.” Dywedodd yntau, “Dewch â llestr newydd crai imi, a rhowch halen ynddo.” Wedi iddynt ddod ag ef ato, aeth at lygad y ffynnon a thaflu'r halen iddi a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Purais y dyfroedd hyn; ni ddaw angau na diffrwythdra oddi yno mwy.” Ac y mae'r dŵr yn bur hyd heddiw, yn union fel y dywedodd Eliseus. Aeth i fyny oddi yno i Fethel, ac fel yr oedd yn mynd, daeth bechgyn bach allan o ryw dref a'i wawdio a dweud wrtho, “Dos i fyny, foelyn! Dos i fyny, foelyn!” Troes yntau i edrych arnynt, a'u melltithio yn enw'r ARGLWYDD. Yna daeth dwy arth allan o'r goedwig a llarpio dau a deugain o'r plant. Oddi yno aeth i Fynydd Carmel, ac yna dychwelyd i Samaria.
2 Brenhinoedd 2:19-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Eliseus, Wele, atolwg, ansawdd y ddinas, da yw, fel y mae fy arglwydd yn gweled: ond y dyfroedd sydd ddrwg, a’r tir yn ddiffaith. Ac efe a ddywedodd, Dygwch i mi ffiol newydd, a dodwch ynddi halen. A hwy a’i dygasant ato ef. Ac efe a aeth at ffynhonnell y dyfroedd, ac a fwriodd yr halen yno, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Mi a iacheais y dyfroedd hyn; ni bydd oddi yno farwolaeth mwyach, na diffrwythdra. Felly yr iachawyd y dyfroedd hyd y dydd hwn, yn ôl gair Eliseus, yr hwn a ddywedasai efe. Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Bethel: ac fel yr oedd efe yn myned i fyny ar hyd y ffordd, plant bychain a ddaeth allan o’r ddinas, ac a’i gwatwarasant ef, ac a ddywedasant wrtho ef, Dos i fyny, moelyn, dos i fyny, moelyn. Ac efe a drodd yn ei ôl, ac a edrychodd arnynt, ac a’u melltithiodd yn enw yr ARGLWYDD. A dwy arth a ddaeth allan o’r goedwig, ac a ddrylliodd ohonynt ddau blentyn a deugain. Ac efe a aeth oddi yno i fynydd Carmel, ac oddi yno efe a ddychwelodd i Samaria.