2 Brenhinoedd 2:14 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
2 Brenhinoedd 2:14 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Gafaelodd yn y clogyn oedd wedi syrthio oddi ar Elias, a gofyn, “Ydy’r ARGLWYDD, Duw Elias, wedi’n gadael hefyd?” Yna dyma fe’n taro’r dŵr gyda’r clogyn a dyma lwybr yn agor drwy’r afon, a chroesodd Eliseus i’r ochr arall.
Rhanna
2 Brenhinoedd 2 BNET2 Brenhinoedd 2:14 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerodd y fantell a syrthiodd oddi ar Elias, a tharo'r dŵr a dweud, “Ple y mae'r ARGLWYDD, Duw Elias?” Trawodd yntau'r dŵr, ac fe ymrannodd i'r ddeutu, a chroesodd Eliseus.
Rhanna
2 Brenhinoedd 2 BCND2 Brenhinoedd 2:14 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a gymerth fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef, ac a drawodd y dyfroedd, ac a ddywedodd, Pa le y mae ARGLWYDD DDUW Eleias? Ac wedi iddo yntau daro’r dyfroedd, hwy a wahanwyd yma ac acw. Ac Eliseus a aeth drosodd.
Rhanna
2 Brenhinoedd 2 BWM