2 Brenhinoedd 2:12 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
2 Brenhinoedd 2:12 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Gwelodd Eliseus e, a dyma fe’n gweiddi, “Fy nhad, fy nhad! Ti oedd arfau a byddin Israel!” Yna diflannodd o’i olwg. A dyma Eliseus yn gafael yn ei ddillad a’u rhwygo’n ddau.
Rhanna
2 Brenhinoedd 2 BNET2 Brenhinoedd 2:12 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr oedd Eliseus yn syllu ac yn gweiddi, “Fy nhad, fy nhad; cerbyd a marchogion Israel!” Ni welodd ef wedyn, a chydiodd yn ei wisg a'i rhwygo'n ddau.
Rhanna
2 Brenhinoedd 2 BCND2 Brenhinoedd 2:12 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Eliseus oedd yn gweled, ac efe a lefodd, Fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a’i farchogion. Ac nis gwelodd ef mwyach: ac efe a ymaflodd yn ei ddillad, ac a’u rhwygodd yn ddeuddarn.
Rhanna
2 Brenhinoedd 2 BWM