Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 2:1-18

2 Brenhinoedd 2:1-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd yr ARGLWYDD ar fin cymryd Elias i’r nefoedd mewn chwyrlwynt. Roedd Elias ac Eliseus yn gadael Gilgal, a dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae’r ARGLWYDD eisiau i mi fynd ymlaen i Bethel.” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau’n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma nhw’n mynd i Bethel. Daeth aelodau o urdd proffwydi Bethel allan i gyfarfod Eliseus, a dweud wrtho, “Wyt ti’n gwybod fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat ti heddiw?” “Ydw, dw i’n gwybod, ond peidiwch sôn am y peth,” meddai Eliseus. Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae’r ARGLWYDD eisiau i mi fynd i Jericho.” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau’n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma nhw’n dod i Jericho. Daeth aelodau o urdd proffwydi Jericho at Eliseus, a dweud wrtho, “Wyt ti’n gwybod fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat ti heddiw?” “Ydw, dw i’n gwybod, ond peidiwch sôn am y peth,” meddai Eliseus. Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae’r ARGLWYDD eisiau i mi fynd at afon Iorddonen.” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau’n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma’r ddau’n mynd yn eu blaenau. Roedd pum deg aelod o’r urdd o broffwydi wedi’u dilyn nhw, a phan oedd y ddau’n sefyll ar lan yr afon, roedd y proffwydi yn eu gwylio nhw o bell. Dyma Elias yn cymryd ei glogyn a’i rolio, a tharo’r dŵr gydag e. Dyma lwybr yn agor drwy’r afon, a dyma’r ddau’n croesi drosodd ar dir sych. Yna ar ôl iddyn nhw groesi, dyma Elias yn gofyn i Eliseus, “Dwed wrtho i be ga i wneud i ti cyn i mi gael fy nghymryd oddi wrthot ti?” “Plîs gad i mi gael siâr ddwbl o dy ysbryd di,” meddai Eliseus. Atebodd Elias, “Ti wedi gofyn am rhywbeth anodd. Os byddi di’n fy ngweld i’n cael fy nghymryd i ffwrdd, fe’i cei. Os ddim, gei di ddim.” Yna wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau yn sgwrsio dyma gerbyd o fflamau tân yn cael ei dynnu gan geffylau o dân yn dod rhyngddyn nhw, a chipio Elias i fyny i’r nefoedd mewn chwyrlwynt. Gwelodd Eliseus e, a dyma fe’n gweiddi, “Fy nhad, fy nhad! Ti oedd arfau a byddin Israel!” Yna diflannodd o’i olwg. A dyma Eliseus yn gafael yn ei ddillad a’u rhwygo’n ddau. Dyma fe’n codi clogyn Elias, oedd wedi syrthio oddi arno, a mynd yn ôl at lan afon Iorddonen. Gafaelodd yn y clogyn oedd wedi syrthio oddi ar Elias, a gofyn, “Ydy’r ARGLWYDD, Duw Elias, wedi’n gadael hefyd?” Yna dyma fe’n taro’r dŵr gyda’r clogyn a dyma lwybr yn agor drwy’r afon, a chroesodd Eliseus i’r ochr arall. Pan welodd proffwydi Jericho beth ddigwyddodd, dyma nhw’n dweud, “Mae ysbryd Elias wedi disgyn ar Eliseus.” A dyma nhw’n mynd ato a plygu i lawr o’i flaen, a dweud, “Edrych syr, mae gynnon ni bum deg o ddynion abl yma. Gad iddyn nhw fynd i chwilio am dy feistr, rhag ofn bod y gwynt cryf anfonodd yr ARGLWYDD wedi’i ollwng ar ben rhyw fynydd neu yn rhyw gwm.” Atebodd Eliseus, “Na, peidiwch a’u hanfon nhw.” Ond buon nhw’n pwyso arno nes iddo ddechrau teimlo’n annifyr. Felly yn y diwedd dyma fe’n cytuno, a dyma’r proffwydi’n anfon y dynion i chwilio am Elias. Buon nhw’n chwilio am dri diwrnod ond methu cael hyd iddo. Arhosodd Eliseus yn Jericho nes iddyn nhw ddod yn ôl ato. A dyma fe’n dweud wrthyn nhw, “Wel? Wnes i ddim dweud wrthoch chi am beidio mynd?”

2 Brenhinoedd 2:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Pan oedd yr ARGLWYDD ar fedr cymryd Elias i'r nefoedd mewn corwynt, aeth Elias ac Eliseus allan o Gilgal. A dywedodd Elias wrth Eliseus, “Aros di yma, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn f'anfon i Fethel.” Dywedodd Eliseus, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau, ni'th adawaf.” Felly aethant i Fethel. Daeth y proffwydi oedd ym Methel at Eliseus a dweud wrtho, “A wyddost ti fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat heddiw?” “Gwn yn iawn,” meddai yntau, “peidiwch â dweud.” Dywedodd Elias wrtho, “Eliseus, aros di yma, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn f'anfon i Jericho.” Dywedodd yntau, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau, ni'th adawaf.” Felly aethant i Jericho. Daeth y proffwydi oedd yn Jericho at Eliseus a dweud wrtho, “A wyddost ti fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat heddiw?” “Gwn yn iawn,” meddai yntau, “peidiwch â dweud.” Dywedodd Elias wrtho, “Aros di yma oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn f'anfon at yr Iorddonen.” Dywedodd yntau, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau, ni'th adawaf.” Felly aethant ill dau. Ac yr oedd hanner cant o broffwydi wedi dod ac aros gyferbyn â hwy o hirbell tra oeddent hwy ill dau yn sefyll ar lan yr Iorddonen. Cymerodd Elias ei fantell a'i rholio a tharo'r dŵr. Ymrannodd y dŵr i'r ddeutu, a chroesodd y ddau ar dir sych. Wedi iddynt groesi, dywedodd Elias wrth Eliseus, “Gofyn! Beth a wnaf iti cyn fy nghymryd oddi wrthyt?” Atebodd Eliseus, “Rhodder imi gyfran ddwbl o'th ysbryd.” Dywedodd Elias, “Gwnaethost gais anodd. Os gweli fi yn cael fy nghymryd oddi wrthyt, fe gei hyn; ond os na weli, ni chei.” Ac fel yr oeddent yn mynd, dan siarad, dyma gerbyd tanllyd a meirch tanllyd yn eu gwahanu ill dau, ac Elias yn esgyn mewn corwynt i'r nef. Ac yr oedd Eliseus yn syllu ac yn gweiddi, “Fy nhad, fy nhad; cerbyd a marchogion Israel!” Ni welodd ef wedyn, a chydiodd yn ei wisg a'i rhwygo'n ddau. Yna cododd fantell Elias a oedd wedi syrthio oddi arno, a dychwelodd a sefyll ar lan yr Iorddonen. Cymerodd y fantell a syrthiodd oddi ar Elias, a tharo'r dŵr a dweud, “Ple y mae'r ARGLWYDD, Duw Elias?” Trawodd yntau'r dŵr, ac fe ymrannodd i'r ddeutu, a chroesodd Eliseus. Pan welodd y proffwydi oedd yr ochr draw, yn Jericho, dywedasant, “Disgynnodd ysbryd Elias ar Eliseus.” Ac aethant i'w gyfarfod ac ymgrymu hyd lawr iddo, a dweud, “Y mae gan dy weision hanner cant o ddynion cryfion; gad iddynt fynd i chwilio am dy feistr rhag ofn bod ysbryd yr ARGLWYDD, ar ôl ei gipio i fyny, wedi ei fwrw ar un o'r mynyddoedd, neu i ryw gwm.” Dywedodd, “Peidiwch ag anfon.” Ond buont yn daer nes bod cywilydd arno, a dywedodd, “Anfonwch.” Wedi iddynt anfon hanner cant o ddynion, buont yn chwilio am dridiau, ond heb ei gael. Arhosodd Eliseus yn Jericho nes iddynt ddychwelyd; yna dywedodd wrthynt, “Oni ddywedais wrthych am beidio â mynd?”

2 Brenhinoedd 2:1-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A phan oedd yr ARGLWYDD ar gymryd i fyny Eleias mewn corwynt i’r nefoedd, aeth Eleias ac Eliseus allan o Gilgal. Ac Eleias a ddywedodd wrth Eliseus, Aros, atolwg, yma: canys yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i Bethel. Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. Felly hwy a aethant i waered i Bethel. A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Bethel, a ddaethant allan at Eliseus, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti mai heddiw y mae yr ARGLWYDD yn dwyn dy feistr oddi arnat ti? Dywedodd yntau, Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi â sôn. Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg, Eliseus; canys yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i Jericho. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. Felly hwy a ddaethant i Jericho. A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Jericho, a ddaethant at Eliseus, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti mai heddiw y mae yr ARGLWYDD yn dwyn dy feistr oddi arnat ti? Yntau a ddywedodd, Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi â sôn. Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg; canys yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i’r Iorddonen. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. A hwy a aethant ill dau rhagddynt. A dengwr a deugain o feibion y proffwydi a aethant, ac a safasant ar gyfer o bell: a hwy ill dau a safasant wrth yr Iorddonen. Ac Eleias a gymerth ei fantell, ac a’i plygodd ynghyd, ac a drawodd y dyfroedd, a hwy a ymwahanasant yma ac acw, fel yr aethant hwy trwodd ill dau ar dir sych. Ac wedi iddynt fyned drosodd, Eleias a ddywedodd wrth Eliseus, Gofyn y peth a wnelwyf i ti, cyn fy nghymryd oddi wrthyt. A dywedodd Eliseus, Bydded gan hynny, atolwg, ddau parth o’th ysbryd di arnaf fi. Dywedodd yntau, Gofynnaist beth anodd: os gweli fi wrth fy nghymryd oddi wrthyt, fe fydd i ti felly; ac onid e, ni bydd. Ac fel yr oeddynt hwy yn myned dan rodio ac ymddiddan, wele gerbyd tanllyd, a meirch tanllyd, a hwy a’u gwahanasant hwynt ill dau. Ac Eleias a ddyrchafodd mewn corwynt i’r nefoedd. Ac Eliseus oedd yn gweled, ac efe a lefodd, Fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a’i farchogion. Ac nis gwelodd ef mwyach: ac efe a ymaflodd yn ei ddillad, ac a’u rhwygodd yn ddeuddarn. Ac efe a gododd i fyny fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef; ac a ddychwelodd ac a safodd wrth fin yr Iorddonen. Ac efe a gymerth fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef, ac a drawodd y dyfroedd, ac a ddywedodd, Pa le y mae ARGLWYDD DDUW Eleias? Ac wedi iddo yntau daro’r dyfroedd, hwy a wahanwyd yma ac acw. Ac Eliseus a aeth drosodd. A phan welodd meibion y proffwydi ef, y rhai oedd yn Jericho ar ei gyfer, hwy a ddywedasant, Gorffwysodd ysbryd Eleias ar Eliseus. A hwy a ddaethant i’w gyfarfod ef, ac a ymgrymasant hyd lawr iddo. A hwy a ddywedasant wrtho, Wele yn awr, y mae gyda’th weision ddeg a deugain o wŷr cryfion; elont yn awr, ni a atolygwn, a cheisiant dy feistr: rhag i ysbryd yr ARGLWYDD ei ddwyn ef, a’i fwrw ar ryw fynydd, neu mewn rhyw ddyffryn. Dywedodd yntau, Na anfonwch. Eto buant daer arno, nes cywilyddio ohono, ac efe a ddywedodd, Anfonwch. A hwy a anfonasant ddengwr a deugain, y rhai a’i ceisiasant ef dridiau, ond nis cawsant. A hwy a ddychwelasant ato ef, ac efe oedd yn aros yn Jericho; ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Oni ddywedais i wrthych, Nac ewch?