2 Brenhinoedd 18:1-12
2 Brenhinoedd 18:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Daeth Heseceia fab Ahas yn frenin ar Jwda yn ystod trydedd flwyddyn Hoshea fab Ela fel brenin Israel. Dau ddeg pump oedd oed Heseceia pan ddaeth yn frenin, a bu’n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg naw o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Abeia, merch Sechareia. Fel y Brenin Dafydd, ei hynafiad, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio’r ARGLWYDD. Dyma fe’n cael gwared â’r allorau lleol, malu’r colofnau cysegredig a thorri polion y dduwies Ashera i lawr. A dyma fe hefyd yn dryllio’r sarff bres oedd Moses wedi gwneud, am fod pobl Israel yn llosgi arogldarth iddi a’i galw’n Nechwshtan. Roedd Heseceia’n trystio’r ARGLWYDD, Duw Israel. Fuodd yna ddim brenin tebyg iddo yn Jwda, o’i flaen nac ar ei ôl. Roedd yn hollol ffyddlon i’r ARGLWYDD ac yn cadw’r gorchmynion roddodd yr ARGLWYDD i Moses. Roedd yr ARGLWYDD gydag e, ac roedd yn llwyddo beth bynnag roedd e’n ei wneud. Gwrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria a gwrthod ei wasanaethu. Concrodd wlad y Philistiaid yn llwyr – o’r pentrefi lleiaf i’r trefi caerog mawr. Roedd yn rheoli’r wlad yr holl ffordd i dref Gasa a’r ardaloedd o’i chwmpas. Yn ystod pedwaredd flwyddyn Heseceia fel brenin (a seithfed flwyddyn Hoshea fab Ela fel brenin ar Israel) daeth Shalmaneser, brenin Asyria, ac ymosod ar Samaria. Buodd yn gwarchae arni am bron ddwy flynedd cyn llwyddo i’w choncro. Felly cafodd Samaria ei choncro yn ystod chweched flwyddyn Heseceia fel brenin, a nawfed blwyddyn Hoshea yn frenin ar Israel, a dyma frenin Asyria yn cymryd pobl Israel yn gaethion i Asyria. Anfonodd rai i fyw i dref Halach, eraill i fyw ar lan afon Habor yn Gosan, ac eraill eto i drefi Media. Roedd hyn wedi digwydd am fod pobl Israel heb wrando ar yr ARGLWYDD eu Duw. Roedden nhw wedi torri amodau’r ymrwymiad wnaeth e gyda nhw, ac wedi diystyru’r gorchmynion roedd ei was Moses wedi’u rhoi iddyn nhw.
2 Brenhinoedd 18:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y drydedd flwyddyn i Hosea fab Ela brenin Israel, daeth Heseceia fab Ahas brenin Jwda i'r orsedd. Yr oedd yn bump ar hugain oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am naw mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Abi merch Sechareia oedd enw ei fam. Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn hollol fel y gwnaeth ei dad Dafydd. Tynnodd ymaith yr uchelfeydd a dryllio'r colofnau a thorri'r pyst Asera, a malu'r sarff bres a wnaeth Moses; oherwydd hyd y dyddiau hynny bu'r Israeliaid yn arogldarthu iddi ac yn ei galw'n Nehustan. Ymddiriedai Heseceia yn yr ARGLWYDD, Duw Israel, ac ni fu neb tebyg iddo ymhlith holl frenhinoedd Jwda, ar ei ôl nac o'i flaen. Glynodd yn ddiwyro wrth yr ARGLWYDD, a chadw'r gorchmynion a roddodd ef i Moses. Yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef, a llwyddai ym mhopeth a wnâi; gwrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria a gwrthod ei wasanaethu. Trawodd y Philistiaid, yn dŵr gwylwyr ac yn ddinas gaerog, hyd at Gasa a'i therfynau. Yn y bedwaredd flwyddyn i'r Brenin Heseceia (y seithfed flwyddyn i Hosea fab Ela brenin Israel) ymosododd Salmaneser brenin Asyria ar Samaria a gwarchae arni. Wedi tair blynedd enillodd hi; yn y chweched flwyddyn i Heseceia, sef y nawfed flwyddyn i Hosea brenin Israel, yr enillwyd Samaria. Caethgludodd brenin Asyria yr Israeliaid i Asyria, a'u rhoi yn Hala ac ar lannau afon Habor yn Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid. Bu hyn am nad oeddent wedi gwrando ar lais yr ARGLWYDD eu Duw, ond troseddu yn erbyn ei gyfamod a'r cwbl a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD; nid oeddent yn gwrando nac yn gwneud.
2 Brenhinoedd 18:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn y drydedd flwyddyn i Hosea mab Ela brenin Israel, y teyrnasodd Heseceia mab Ahas brenin Jwda. Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth yn frenin, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Abi, merch Sachareia. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Dafydd ei dad ef. Efe a dynnodd ymaith yr uchelfeydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni, ac a faluriodd y sarff bres a wnaethai Moses; canys hyd y dyddiau hynny yr oedd meibion Israel yn arogldarthu iddi hi: ac efe a’i galwodd hi Nehustan. Yn ARGLWYDD DDUW Israel yr ymddiriedodd efe, ac ar ei ôl ef ni bu ei fath ef ymhlith holl frenhinoedd Jwda, nac ymysg y rhai a fuasai o’i flaen ef. Canys efe a lynodd wrth yr ARGLWYDD, ni throdd efe oddi ar ei ôl ef, eithr efe a gadwodd ei orchmynion ef, y rhai a orchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses. A’r ARGLWYDD fu gydag ef; i ba le bynnag yr aeth, efe a lwyddodd: ac efe a wrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria, ac nis gwasanaethodd ef. Efe a drawodd y Philistiaid hyd Gasa a’i therfynau, o dŵr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog. Ac yn y bedwaredd flwyddyn i’r brenin Heseceia, honno oedd y seithfed flwyddyn i Hosea mab Ela brenin Israel, y daeth Salmaneser brenin Asyria i fyny yn erbyn Samaria, ac a warchaeodd arni hi. Ac ymhen y tair blynedd yr enillwyd hi; yn y chweched flwyddyn i Heseceia, honno oedd y nawfed flwyddyn i Hosea brenin Israel, yr enillwyd Samaria. A brenin Asyria a gaethgludodd Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid: Am na wrandawsent ar lais yr ARGLWYDD eu DUW, eithr troseddu ei gyfamod ef, a’r hyn oll a orchmynasai Moses gwas yr ARGLWYDD, ac na wrandawent arnynt, ac nas gwnaent hwynt.