2 Brenhinoedd 12:18
2 Brenhinoedd 12:18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dyma Joas, brenin Jwda, yn talu arian mawr iddo beidio ymosod. Cymerodd Joas y cwbl roedd e a’r brenhinoedd o’i flaen (sef Jehosaffat, Jehoram ac Ahaseia) wedi’i gysegru i’r ARGLWYDD. Cymerodd yr aur oedd yn stordai’r deml a’r palas hefyd, ac anfon y cwbl i Hasael brenin Syria; a dyma Hasael a’i fyddin yn troi’n ôl a pheidio ymosod ar Jerwsalem.
2 Brenhinoedd 12:18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A chymerodd Jehoas brenin Jwda yr holl roddion a gysegrodd ei ragflaenwyr Jehosaffat, Jehoram ac Ahaseia, brenhinoedd Jwda, a hefyd ei roddion ei hun a'r holl aur oedd ar gael yn nhrysorfa tŷ'r ARGLWYDD a'r palas, a'u hanfon at Hasael brenin Syria; troes yntau yn ôl oddi wrth Jerwsalem.
2 Brenhinoedd 12:18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Joas brenin Jwda a gymerth yr holl bethau cysegredig a gysegrasai Jehosaffat, a Jehoram, ac Ahaseia, ei dadau ef, brenhinoedd Jwda, a’i gysegredig bethau ef ei hun, a’r holl aur a gafwyd yn nhrysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin, ac a’u hanfonodd at Hasael brenin Syria, ac efe a ymadawodd oddi wrth Jerwsalem.