2 Brenhinoedd 1:13
2 Brenhinoedd 1:13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma’r brenin yn anfon trydydd capten gyda hanner cant o ddynion. Pan ddaeth hwnnw at Elias, dyma fe’n mynd ar ei liniau o’i flaen a chrefu arno. “Broffwyd Duw, plîs, arbed fy mywyd i a bywyd dy weision, y dynion yma.
2 Brenhinoedd 1:13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A disgynnodd tân o'r nefoedd a'i ddifa ef a'i hanner cant. Yna anfonwyd trydydd capten hanner cant gyda'i ddynion. Pan ddaeth y trydydd capten i fyny ato, fe syrthiodd ar ei liniau o flaen Elias a chrefu arno, “O ŵr Duw, gad i'm bywyd i, a bywyd yr hanner cant yma o'th weision, fod yn werthfawr yn d'olwg.
2 Brenhinoedd 1:13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r brenin a anfonodd eto y trydydd tywysog ar ddeg a deugain, â’i ddeg a deugain: a’r trydydd tywysog ar ddeg a deugain a aeth i fyny, ac a ddaeth ac a ymgrymodd ar ei liniau gerbron Eleias, ac a ymbiliodd ag ef, ac a lefarodd wrtho, O ŵr DUW, atolwg, bydded fy einioes i, ac einioes dy ddeg gwas a deugain hyn, yn werthfawr yn dy olwg di.