2 Corinthiaid 9:10-11
2 Corinthiaid 9:10-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Duw sy’n rhoi’r had i’r heuwr a bwyd i bobl ei fwyta. Bydd yn cynyddu eich stôr chi o ‘had’ ac yn gwneud i gynhaeaf eich gweithredoedd da chi lwyddo. Bydd yn eich gwneud chi’n gyfoethog ym mhob ffordd er mwyn i chi allu bod yn hael bob amser. Bydd llawer o bobl yn diolch i Dduw pan fyddwn ni’n mynd â’ch rhodd chi i Jerwsalem.
2 Corinthiaid 9:10-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydd yr hwn sydd yn rhoi had i'r heuwr a bara iddo'n ymborth yn rhoi had i chwithau ac yn ei amlhau; bydd yn peri i ffrwyth eich haelioni gynyddu. Ym mhob peth cewch eich cyfoethogi ar gyfer pob haelioni, a bydd hynny trwom ni yn esgor ar ddiolchgarwch i Dduw.
2 Corinthiaid 9:10-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r hwn sydd yn rhoddi had i’r heuwr, rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhaed eich had, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder;) Wedi eich cyfoethogi ym mhob peth i bob haelioni, yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Dduw.