2 Corinthiaid 5:6-9
2 Corinthiaid 5:6-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly dŷn ni’n gwbl hyderus, ac yn deall ein bod oddi cartref tra’n byw yn ein corff daearol, ac wedi’n gwahanu oddi wrth yr Arglwydd Iesu. Dŷn ni’n byw yn ôl beth dŷn ni’n ei gredu, dim yn ôl beth dŷn ni’n ei weld. Dw i’n dweud eto ein bod ni’n gwbl hyderus o beth sydd i ddod. Er, wrth gwrs byddai’n well gynnon ni adael y corff hwn er mwyn cael bod adre gyda’r Arglwydd! Ond adre neu beidio, ein huchelgais ni bob amser ydy ei blesio fe.
2 Corinthiaid 5:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Am hynny, yr ydym bob amser yn llawn hyder. Gwyddom, tra byddwn yn cartrefu yn y corff, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd; oherwydd yn ôl ffydd yr ydym yn rhodio, nid yn ôl golwg. Yr ydym yn llawn hyder, meddaf, a gwell gennym fyddai bod oddi cartref o'r corff a chartrefu gyda'r Arglwydd. Y mae ein bryd, felly, gartref neu oddi cartref, ar fod yn gymeradwy ganddo ef.
2 Corinthiaid 5:6-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny yr ydym yn hyderus bob amser, ac yn gwybod, tra ydym yn gartrefol yn y corff, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd: Canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac nid wrth olwg. Ond yr ydym yn hy, ac yn gweled yn dda yn hytrach fod oddi cartref o’r corff, a chartrefu gyda’r Arglwydd. Am hynny hefyd yr ydym yn ymorchestu, pa un bynnag ai gartref y byddom, ai oddi cartref, ein bod yn gymeradwy ganddo ef.