2 Corinthiaid 2:14-15
2 Corinthiaid 2:14-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond diolch i Dduw, mae’r gwaith yn dal i fynd yn ei flaen. Dŷn ni’n cerdded ym mhrosesiwn buddugoliaeth y Meseia, ac mae arogl y persawr o gael nabod Duw yn lledu drwy’r byd i gyd! Ydyn, dŷn ni fel arogl hyfryd yn cael ei offrymu i Dduw gan y Meseia ei hun. Mae pawb yn ei arogli – y rhai sy’n cael eu hachub a’r rhai sydd ar eu ffordd i ddistryw.
2 Corinthiaid 2:14-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond i Dduw y bo'r diolch, sydd bob amser yn ein harwain ni yng Nghrist yng ngorymdaith ei fuddugoliaeth ef, ac sydd ym mhob man, trwom ni, yn taenu ar led bersawr yr adnabyddiaeth ohono. Canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, i'r rhai sydd ar lwybr iachawdwriaeth ac i'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth
2 Corinthiaid 2:14-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn yn wastad sydd yn peri i ni oruchafiaeth yng Nghrist, ac sydd yn eglurhau arogledd ei wybodaeth trwom ni ym mhob lle. Canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig, ac yn y rhai colledig