2 Corinthiaid 1:8-10
2 Corinthiaid 1:8-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dŷn ni eisiau i chi ddeall ffrindiau annwyl, mor galed mae pethau wedi bod arnon ni yn nhalaith Asia. Roedd y pwysau yn ormod o lawer i ni ei ddal yn ein nerth ein hunain. Roedd yn ein llethu ni! Roedden ni’n meddwl ei bod hi ar ben arnon ni, a’n bod ni wir yn mynd i farw. Ond pwrpas y cwbl oedd i ni ddysgu trystio Duw yn lle trystio ni’n hunain. Fe ydy’r Duw sy’n dod â’r meirw yn ôl yn fyw! Mae wedi’n hachub ni y tro yma, a bydd yn ein hachub ni eto. A dŷn ni’n gwbl hyderus y bydd yn dal ati i wneud hynny
2 Corinthiaid 1:8-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr ydym am i chwi wybod, gyfeillion, am y gorthrymder a ddaeth i'n rhan yn Asia, iddo ein trechu a'n llethu mor llwyr nes inni anobeithio am gael byw hyd yn oed. Do, teimlasom ynom ein hunain ein bod wedi derbyn dedfryd marwolaeth; yr amcan oedd ein cadw rhag ymddiried ynom ein hunain, ond yn y Duw sy'n cyfodi'r meirw. Gwaredodd ef ni gynt oddi wrth y fath berygl marwol, ac fe'n gwared eto; ynddo ef y mae ein gobaith. Fe'n gwared eto
2 Corinthiaid 1:8-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys ni fynnem i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein cystudd a ddaeth i ni yn Asia, bwyso arnom yn ddirfawr uwchben ein gallu, hyd onid oeddem yn amau cael byw hefyd. Eithr ni a gawsom ynom ein hunain farn angau, fel na byddai i ni ymddiried ynom ein hunain, ond yn Nuw, yr hwn sydd yn cyfodi’r meirw: Yr hwn a’n gwaredodd ni oddi wrth gyfryw ddirfawr angau, ac sydd yn ein gwaredu; yn yr hwn yr ydym yn gobeithio y gwared ni hefyd rhag llaw