2 Cronicl 36:22-23
2 Cronicl 36:22-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Lai na blwyddyn ar ôl i Cyrus ddod yn frenin Persia, dyma’r ARGLWYDD yn gwneud beth wnaeth e addo drwy Jeremeia. Dyma fe’n ysgogi Cyrus i anfon datganiad allan drwy’r deyrnas i gyd. Dyma’r datganiad: “Dyma mae Cyrus, brenin Persia yn ei ddweud. ‘Mae’r ARGLWYDD, Duw’r nefoedd, wedi rhoi teyrnasoedd y byd i gyd i mi. Ac mae e wedi gorchymyn i mi adeiladu teml iddo yn Jerwsalem yn Jwda. Pwy ohonoch chi sy’n perthyn i’w bobl? Boed i’r ARGLWYDD eich Duw fynd gyda chi yn ôl i Jerwsalem!’”
2 Cronicl 36:22-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, er mwyn cyflawni gair yr ARGLWYDD trwy Jeremeia, cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd Cyrus, a chyhoeddodd yntau ddatganiad trwy ei holl deyrnas, ac ysgrifennu: “Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia: Y mae'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, wedi rhoi holl deyrnasoedd y byd i mi, ac wedi gorchymyn i mi adeiladu tŷ iddo yn Jerwsalem yn Jwda. Pob un o'ch plith sy'n perthyn i'w bobl, bydded yr ARGLWYDD ei Dduw gydag ef, ac aed i fyny.”
2 Cronicl 36:22-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, fel y cyflawnid gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddywedwyd trwy enau Jeremeia, yr ARGLWYDD a gyffrôdd ysbryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl frenhiniaeth, a hynny mewn ysgrifen, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, ARGLWYDD DDUW y nefoedd a roddodd holl deyrnasoedd y ddaear i mi, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu tŷ iddo yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda. Pwy sydd yn eich mysg chwi o’i holl bobl ef? yr ARGLWYDD ei DDUW fyddo gydag ef, ac eled i fyny.