Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Cronicl 18:1-34

2 Cronicl 18:1-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd Jehosaffat yn gyfoethog iawn ac roedd parch mawr ato. Ond dyma fe’n gwneud cytundeb gwleidyddol gydag Ahab, a’i selio drwy gael ei fab i briodi merch Ahab. Yna rai blynyddoedd yn ddiweddarach dyma fe’n mynd i ymweld ag Ahab yn Samaria. Dyma Ahab yn lladd llawer iawn o ddefaid a gwartheg i baratoi gwledd fawr i anrhydeddu Jehosaffat a’i swyddogion, a’i berswadio i fynd gydag e i ymosod ar Ramoth-gilead. Dyma Ahab, brenin Israel, yn gofyn i Jehosaffat, “Ddoi di gyda mi i ymladd am Ramoth-gilead?” Atebodd Jehosaffat, “Dw i gyda ti. Bydd fy myddin yn dy helpu yn y frwydr.” Yna dyma Jehosaffat yn ychwanegu, “Ond gad i ni’n gyntaf holi beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud.” Felly dyma frenin Israel yn casglu’r proffwydi at ei gilydd – roedd tua pedwar cant ohonyn nhw. Gofynnodd iddyn nhw, “Ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma nhw’n ateb, “Dos! Bydd Duw yn rhoi buddugoliaeth i’r brenin!” Ond dyma Jehosaffat yn gofyn, “Oes yna ddim un o broffwydi’r ARGLWYDD yma, i ni ofyn iddo fe hefyd?” A dyma frenin Israel yn ateb, “Oes, mae yna un dyn gallwn holi’r ARGLWYDD drwyddo. Ond dw i’n ei gasáu e, achos dydy e erioed wedi proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg. Ei enw e ydy Michea fab Imla.” “Paid siarad fel yna,” meddai Jehosaffat. Felly dyma frenin Israel yn galw swyddog draw a dweud wrtho, “Brysia! Tyrd â Michea fab Imla yma.” Roedd brenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn eu gwisgoedd brenhinol, yn eistedd ar orseddau yn y sgwâr wrth giât i ddinas Samaria. O’u blaenau roedd yr holl broffwydi wrthi’n proffwydo. Dyma Sedeceia fab Cenaana yn gwneud cyrn haearn. A dyma fe’n cyhoeddi, “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Byddi di’n cornio’r Syriaid gyda’r rhain, ac yn eu difa nhw.’” Ac roedd y proffwydi eraill i gyd yn dweud yr un fath. “Dos i ymosod ar Ramoth-gilead. Byddi’n ennill y frwydr! Mae’r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i ti.” Dyma’r un oedd wedi mynd i nôl Michea yn dweud wrtho, “Gwranda, mae’r proffwydi i gyd yn cytuno fod y brenin yn mynd i lwyddo. Dwed di’r un peth, a proffwyda lwyddiant iddo.” Ond dyma Michea’n ei ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, fydda i ond yn dweud beth fydd Duw yn ei ddweud wrtho i.” Pan ddaeth e at y brenin dyma’r brenin yn gofyn iddo, “Michea, ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma fe’n ateb, “Dos di! Byddi’n llwyddo. Bydd Duw yn rhoi buddugoliaeth i ti!” Ond dyma’r brenin yn dweud wrtho, “Faint o weithiau ydw i wedi gwneud i ti addo o flaen yr ARGLWYDD y byddi’n dweud dim byd ond y gwir wrtho i?” A dyma Michea’n dweud, “Gwelais Israel gyfan ar wasgar dros y bryniau, fel defaid heb fugail. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud, ‘Does ganddyn nhw ddim meistri. Dylen nhw i gyd fynd adre’n dawel.’” A dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Wnes i ddim dweud wrthot ti? Dydy hwn byth yn proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg.” A dyma Michea’n dweud, “Felly, gwrando ar neges yr ARGLWYDD. Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, a’i fyddin o angylion yn sefyll bob ochr iddo. A dyma’r ARGLWYDD yn gofyn, ‘Pwy sy’n gallu twyllo Ahab, brenin Israel, a gwneud iddo ymosod ar Ramoth-gilead a chael ei ladd yno?’ Ac roedd pawb yn cynnig syniadau gwahanol. Ond yna dyma ysbryd yn dod a sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a dweud, ‘Gwna i ei dwyllo fe.’ A dyma’r ARGLWYDD yn gofyn iddo, ‘Sut?’ ‘Gwna i fynd allan fel ysbryd celwyddog a siarad drwy ei broffwydi e,’ meddai. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dos i wneud hynny. Byddi’n llwyddo i’w dwyllo.’ Felly, wyt ti’n gweld? Mae’r ARGLWYDD wedi gwneud i dy broffwydi di ddweud celwydd. Mae’r ARGLWYDD am wneud drwg i ti.” Yna dyma Sedeceia fab Cenaana yn camu ymlaen a rhoi dyrnod i Michea ar ei ên, a gofyn, “Sut wnaeth Ysbryd yr ARGLWYDD fy ngadael i a dechrau siarad â ti?” A dyma Michea’n ateb, “Cei weld ar y diwrnod hwnnw pan fyddi di’n chwilio am ystafell o’r golwg yn rhywle i guddio ynddi!” Yna dyma frenin Israel yn dweud, “Arestiwch Michea a’i roi yng ngofal Amon, rheolwr y ddinas, a Joas fy mab. Dwedwch wrthyn nhw, ‘Mae’r brenin yn dweud, “Cadwch hwn yn y carchar, a rhoi dim byd ond ychydig fara a dŵr iddo nes bydda i wedi dod yn ôl yn saff.”’” A dyma Michea’n dweud, “Os ddoi di yn ôl yn saff, dydy’r ARGLWYDD ddim wedi siarad trwof fi.” A dyma fe’n dweud wrth y bobl oedd yno, “Cofiwch chi beth ddwedais i!” Dyma frenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn mynd i ymosod ar Ramoth-gilead. A dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Dw i’n mynd i wisgo dillad gwahanol i fynd i ryfel, ond gwisga di dy ddillad brenhinol.” Felly dyma frenin Israel yn newid ei ddillad a dyma nhw’n mynd i’r frwydr. Roedd brenin Syria wedi rhoi gorchymyn i’r capteiniaid oedd ganddo ar ei gerbydau, “Peidiwch poeni ymladd gyda neb, yn filwyr cyffredin na swyddogion, dim ond gyda brenin Israel.” Pan welodd y capteiniaid Jehosaffat dyma nhw’n dweud, “Mae’n rhaid mai fe ydy brenin Israel!” Felly dyma nhw’n troi i fynd ar ei ôl. Ond wrth i Jehosaffat weiddi, dyma’r ARGLWYDD yn ei helpu. Dyma Duw yn eu harwain nhw i ffwrdd oddi wrtho. Roedden nhw’n gweld mai nid brenin Israel oedd e, a dyma nhw’n gadael llonydd iddo. Yna dyma rhyw filwr yn digwydd saethu â’i fwa ar hap a tharo brenin Israel rhwng dau ddarn o’i arfwisg. A dyma’r brenin yn dweud wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro yn ôl! Dos â fi allan o’r frwydr. Dw i wedi cael fy anafu!” Aeth y frwydr yn ei blaen drwy’r dydd. Roedd brenin Israel yn cael ei ddal i fyny yn ei gerbyd yn gwylio’r Syriaid. Yna gyda’r nos, wrth i’r haul fachlud, dyma fe’n marw.

2 Cronicl 18:1-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr oedd gan Jehosaffat olud a chyfoeth mawr iawn, ac yr oedd yn perthyn i Ahab trwy briodas. Ymhen rhai blynyddoedd fe aeth i lawr i Samaria at Ahab, a lladdodd yntau lawer o ddefaid a gwartheg iddo ef a'r bobl oedd gydag ef, a'i ddenu i ymosod ar Ramoth-gilead. Meddai Ahab brenin Israel wrth Jehosaffat brenin Jwda, “A ddoi di gyda mi i Ramoth-gilead?” Atebodd yntau, “Yr wyf fi fel tydi, fy mhobl i fel dy bobl di; down gyda thi i ryfel.” Ond ychwanegodd Jehosaffat wrth frenin Israel, “Cais yn gyntaf air yr ARGLWYDD.” Yna casglodd brenin Israel y proffwydi, pedwar cant ohonynt, a dweud wrthynt, “A ddylem fynd i fyny i ryfel yn erbyn Ramoth-gilead, ai peidio?” Dywedasant hwythau, “Dos i fyny, ac fe rydd Duw hi yn llaw'r brenin.” Ond holodd Jehosaffat, “Onid oes yma broffwyd arall i'r ARGLWYDD, i ni ymgynghori ag ef?” Ac meddai brenin Israel wrth Jehosaffat, “Oes, y mae un gŵr eto i geisio'r ARGLWYDD drwyddo, Michea fab Imla. Ond y mae ef yn atgas gennyf am nad yw byth yn proffwydo lles i mi, dim ond drwg.” Dywedodd Jehosaffat, “Peidied y brenin â dweud fel yna.” Felly galwodd brenin Israel ar swyddog a dweud, “Tyrd â Michea fab Imla yma ar frys.” Yr oedd brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda yn eu gwisgoedd brenhinol yn eistedd ar eu gorseddau ar y llawr dyrnu wrth borth Samaria, gyda'r holl broffwydi'n proffwydo o'u blaen. Gwnaeth Sedeceia fab Cenaana gyrn haearn, a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Gyda'r rhain byddi'n cornio'r Syriaid nes iti eu difa.’ ” Ac yr oedd yr holl broffwydi'n proffwydo felly ac yn dweud, “Dos i fyny i Ramoth-gilead a llwydda; bydd yr ARGLWYDD yn ei rhoi yn llaw'r brenin.” Dywedodd y negesydd a aeth i'w alw wrth Michea, “Edrych yn awr, y mae'r proffwydi'n unfrydol yn proffwydo llwyddiant i'r brenin. Bydded dy air dithau fel gair un ohonynt hwy, a phroffwyda lwyddiant.” Atebodd Michea, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr hyn a ddywed fy Nuw wrthyf a lefaraf.” Daeth at y brenin, a dywedodd y brenin wrtho, “Michea, a awn ni i Ramoth-gilead i ryfel, ai peidio?” A dywedodd wrtho, “Ewch i fyny a llwyddo; fe'u rhoddir hwy yn eich llaw.” Ond dywedodd y brenin wrtho, “Pa sawl gwaith yr wyf wedi dy dynghedu i beidio â dweud dim ond y gwir wrthyf yn enw'r ARGLWYDD?” Yna dywedodd Michea: “Gwelais Israel oll wedi eu gwasgaru ar y bryniau fel defaid heb fugail ganddynt. A dywedodd yr ARGLWYDD, ‘Nid oes feistr ar y rhain; felly bydded iddynt ddychwelyd adref mewn heddwch.’ ” Dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat, “Oni ddywedais wrthyt na fyddai'n proffwydo da i mi, ond yn hytrach ddrwg?” A dywedodd Michea, “Am hynny, gwrandewch air yr ARGLWYDD; gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, gyda holl lu'r nef yn sefyll ar y dde ac ar y chwith iddo. A dywedodd yr ARGLWYDD, ‘Pwy a fedr hudo Ahab i frwydro a chwympo yn Ramoth-gilead?’ Ac yr oedd un yn dweud fel hyn, a'r llall fel arall; ond dyma un ysbryd yn sefyll allan o flaen yr ARGLWYDD ac yn dweud, ‘Fe'i hudaf fi ef’. Ac meddai'r ARGLWYDD, ‘Sut?’ Dywedodd yntau, ‘Af allan a bod yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei broffwydi i gyd.’ Yna dywedodd wrtho, ‘Fe lwyddi di i'w hudo; dos a gwna hyn.’ Yn awr, rhoddodd yr ARGLWYDD ysbryd celwyddog yng ngenau dy broffwydi hyn; y mae'r ARGLWYDD wedi llunio drwg ar dy gyfer.” Nesaodd Sedeceia fab Cenaana a rhoi cernod i Michea, a dweud, “Sut yr aeth ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrthyf fi i lefaru wrthyt ti?” Dywedodd Michea, “Cei weld ar y dydd hwnnw pan fyddi'n ceisio ymguddio yn yr ystafell nesaf i mewn.” A dywedodd brenin Israel, “Ewch â Michea a'i roi yng ngofal Amon, rheolwr y dref, a Joas mab y brenin, a dywedwch wrthynt, ‘Fel hyn y dywed y brenin: Rhowch hwn yng ngharchar, a bwydwch ef â'r dogn prinnaf o fara a dŵr nes imi ddod yn ôl yn llwyddiannus.’ ” Ac meddai Michea, “Os llwyddi i ddod yn ôl, ni lefarodd yr ARGLWYDD drwof; gwrandewch chwi bobl i gyd.” Aeth brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda i fyny i Ramoth-gilead. A dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat, “Yr wyf fi am newid fy nillad cyn mynd i'r frwydr, ond gwisg di dy ddillad brenhinol.” Newidiodd brenin Israel ei wisg, ac aethant i'r frwydr. Yr oedd brenin Syria wedi gorchymyn i gapteiniaid ei gerbydau, “Peidiwch ag ymladd â neb, bach na mawr, ond â brenin Israel yn unig.” A phan welodd capteiniaid y cerbydau Jehosaffat, dywedasant, “Hwn yn sicr yw brenin Israel.” Yna troesant i ymladd ag ef; ond rhoddodd Jehosaffat waedd, a chynorthwyodd yr ARGLWYDD Dduw ef trwy eu hudo oddi wrtho. A phan welodd capteiniaid y cerbydau nad brenin Israel oedd, gadawsant lonydd iddo. A thynnodd rhywun ei fwa ar antur, a tharo brenin Israel rhwng y darnau cyswllt a'r llurig. A dywedodd yntau wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro'n ôl, a dwg fi allan o'r rhengoedd, oherwydd rwyf wedi fy nghlwyfo.” Ond ffyrnigodd y frwydr y diwrnod hwnnw, a bu raid i frenin Israel aros yn ei gerbyd yn wynebu'r Syriaid hyd yr hwyr; yna ar fachlud haul bu farw.

2 Cronicl 18:1-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac i Jehosaffat yr ydoedd golud ac anrhydedd yn helaeth; ac efe a ymgyfathrachodd ag Ahab. Ac ymhen ennyd o flynyddoedd efe a aeth i waered at Ahab i Samaria. Ac Ahab a laddodd ddefaid a gwartheg lawer, iddo ef ac i’r bobl oedd gydag ef, ac a’i hanogodd ef i fyned i fyny gydag ef i Ramoth-gilead. Ac Ahab brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat brenin Jwda, A ei di gyda mi i Ramoth-gilead? Yntau a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf fi fel tithau, a’m pobl i fel dy bobl dithau, a byddwn gyda thi yn y rhyfel. Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw â gair yr ARGLWYDD. Am hynny brenin Israel a gasglodd o’r proffwydi bedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A awn ni yn erbyn Ramoth-gilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, Dos i fyny; canys DUW a’i dyry yn llaw y brenin. Ond Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma un proffwyd i’r ARGLWYDD eto mwyach, fel yr ymgynghorem ag ef? A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori â’r ARGLWYDD: ond y mae yn gas gennyf fi ef: canys nid yw yn proffwydo i mi ddaioni, ond drygioni erioed: efe yw Michea mab Imla. A dywedodd Jehosaffat, Na ddyweded y brenin felly. A brenin Israel a alwodd ar un o’i ystafellyddion, ac a ddywedodd, Prysura Michea mab Imla. A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei deyrngadair, wedi eu gwisgo mewn brenhinol wisgoedd, eistedd yr oeddynt mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria; a’r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt. A Sedeceia mab Cenaana a wnaethai iddo ei hun gyrn heyrn, ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, A’r rhai hyn y corni di y Syriaid, nes i ti eu difa hwynt. A’r holl broffwydi oedd yn proffwydo fel hyn, gan ddywedyd, Dos i fyny i Ramoth-gilead, a ffynna: canys yr ARGLWYDD a’i dyry hi yn llaw y brenin. A’r gennad a aethai i alw Michea, a lefarodd wrtho ef, gan ddywedyd, Wele eiriau y proffwydi yn unair yn dda i’r brenin: bydded gan hynny, atolwg, dy air dithau fel un o’r rhai hynny, a dywed y gorau. A Michea a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hyn a ddywedo fy NUW, hynny a lefaraf fi. A phan ddaeth efe at y brenin, y brenin a ddywedodd wrtho, Michea, a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth-gilead, neu a beidiaf fi? Dywedodd yntau, Ewch i fyny, a ffynnwch, a rhoddir hwynt yn eich llaw chwi. A’r brenin a ddywedodd wrtho, Pa sawl gwaith y’th dynghedaf di, na lefarech wrthyf fi ond gwirionedd yn enw yr ARGLWYDD? Yna efe a ddywedodd, Gwelais holl Israel yn wasgaredig ar y mynyddoedd, fel defaid ni byddai iddynt fugail. A dywedodd yr ARGLWYDD, Nid oes feistr arnynt hwy; dychweled pob un i’w dŷ ei hun mewn tangnefedd. (A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Oni ddywedais i wrthyt, na phroffwydai efe ddaioni i mi, ond drygioni?) Yntau a ddywedodd, Gan hynny gwrando air yr ARGLWYDD: Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lu’r nefoedd yn sefyll ar ei ddeheulaw, ac ar ei law aswy. A dywedodd yr ARGLWYDD, Pwy a dwylla Ahab brenin Israel, fel yr elo efe i fyny, ac y syrthio yn Ramoth-gilead? Ac un a lefarodd gan ddywedyd fel hyn, ac arall gan ddywedyd fel hyn. Yna ysbryd a aeth allan, ac a safodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Myfi a’i twyllaf ef. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Pa fodd? Dywedodd yntau, Myfi a af allan, ac a fyddaf yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei holl broffwydi ef. A dywedodd yr ARGLWYDD, Twylli, a gorchfygi: dos allan, a gwna felly. Ac yn awr wele, yr ARGLWYDD a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy broffwydi hyn; a’r ARGLWYDD a lefarodd ddrwg amdanat ti. Yna Sedeceia mab Cenaana a nesaodd, ac a drawodd Michea dan ei gern, ac a ddywedodd, Pa ffordd yr aeth ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrthyf fi i ymddiddan â thydi? A Michea a ddywedodd, Wele, ti a gei weled y dwthwn hwnnw, pan elych di o ystafell i ystafell i ymguddio. A brenin Israel a ddywedodd, Cymerwch Michea, a dygwch ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas, ac at Joas mab y brenin; A dywedwch, Fel hyn y dywedodd y brenin, Rhowch hwn yn y carchardy, a bwydwch ef â bara cystudd, ac â dwfr blinder, nes i mi ddyfod eilwaith mewn heddwch. Yna y dywedodd Michea, Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch, ni lefarodd yr ARGLWYDD ynof fi. Efe a ddywedodd hefyd, Gwrandewch hyn, yr holl bobl. Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i Ramoth-gilead. A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Mi a newidiaf fy nillad, ac a af i’r rhyfel; ond gwisg di dy ddillad. Felly brenin Israel a newidiodd ei ddillad, a hwy a aethant i’r rhyfel. A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau y rhai oedd ganddo ef, gan ddywedyd, Nac ymleddwch â bychan nac â mawr, ond â brenin Israel yn unig. A phan welodd tywysogion y cerbydau Jehosaffat, hwy a ddywedasant, Brenin Israel yw efe. A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef: ond Jehosaffat a waeddodd, a’r ARGLWYDD a’i cynorthwyodd ef, a DUW a’u gyrrodd hwynt oddi wrtho ef. A phan welodd tywysogion y cerbydau nad brenin Israel oedd efe, hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef. A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ar ei amcan, ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig: am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr, Tro dy law, a dwg fi allan o’r gad; canys fe’m clwyfwyd i. A’r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw; a brenin Israel a gynhelid yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid hyd yr hwyr: ac efe a fu farw ynghylch machludiad haul.