1 Timotheus 3:1-7
1 Timotheus 3:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae beth sy’n cael ei ddweud mor wir: Mae rhywun sydd ag uchelgais i fod yn arweinydd yn yr eglwys yn awyddus i wneud gwaith da. Felly rhaid i arweinydd fod yn ddi-fai. Dylen nhw fod yn ffyddlon i’w priod, yn ymddwyn yn gyfrifol, yn synhwyrol ac yn gall, yn groesawgar, yn gallu dysgu eraill, ddim yn meddwi, ddim yn ymosodol ond yn addfwyn, ddim yn achosi dadleuon, a ddim yn ariangar. Dylen nhw allu cadw trefn ar eu teulu eu hunain, a’u plant yn atebol iddyn nhw ac yn eu parchu. (Os ydyn nhw ddim yn gallu cadw trefn ar eu teulu eu hunain, sut mae disgwyl iddyn nhw ofalu am eglwys Dduw?) Dylen nhw ddim bod yn rhywun sydd newydd ddod yn Gristion, rhag iddyn nhw droi’n falch a chael eu barnu fel cafodd y diafol ei farnu. Dylen nhw hefyd fod ag enw da gan bobl y tu allan i’r eglwys, rhag iddyn nhw gael eu dal ym magl y diafol a chael eu cywilyddio.
1 Timotheus 3:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma air i'w gredu: “Pwy bynnag sydd â'i fryd ar swydd arolygydd, y mae'n chwennych gwaith rhagorol.” Felly, rhaid i arolygydd fod heb nam ar ei gymeriad, yn ŵr i un wraig, yn ddyn sobr, disgybledig, anrhydeddus, lletygar, ac yn athro da. Rhaid iddo beidio â bod yn rhy hoff o win, nac yn rhy barod i daro. I'r gwrthwyneb, dylai fod yn ystyriol a heddychlon a diariangar. Dylai fod yn un a chanddo reolaeth dda ar ei deulu, ac yn cadw ei blant yn ufudd, â phob gwedduster. Os nad yw rhywun yn medru rheoli ei deulu ei hun, sut y mae'n mynd i ofalu am eglwys Dduw? Rhaid iddo beidio â bod yn newydd i'r ffydd, rhag iddo droi'n falch a chwympo dan y condemniad a gafodd y diafol. A dylai fod yn un â gair da iddo gan y byd oddi allan, rhag iddo gwympo i waradwydd a chael ei ddal ym magl y diafol.
1 Timotheus 3:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwir yw’r gair, Od yw neb yn chwennych swydd esgob, gwaith da y mae yn ei chwennych. Rhaid gan hynny i esgob fod yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, yn wyliadwrus, yn sobr, yn weddaidd, yn lletygar, yn athrawaidd; Nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa; eithr yn dirion, yn anymladdgar, yn ddiariangar; Yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda, yn dal ei blant mewn ufudd-dod ynghyd â phob onestrwydd; (Oblegid oni fedr un lywodraethu ei dŷ ei hun, pa fodd y cymer efe ofal dros eglwys Dduw?) Nid yn newyddian yn y ffydd, rhag iddo ymchwyddo, a syrthio i ddamnedigaeth diafol. Ac y mae yn rhaid iddo ef hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan; rhag iddo syrthio i waradwydd, ac i fagl diafol.