1 Timotheus 1:15-20
1 Timotheus 1:15-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae beth sy’n cael ei ddweud mor wir, a dylai pawb ei gredu: Daeth y Meseia Iesu i’r byd i achub pechaduriaid – a fi ydy’r gwaetha ohonyn nhw. Ond mae Duw wedi maddau i mi, y pechadur gwaetha, er mwyn i bawb weld amynedd di-ben-draw y Meseia Iesu! Dw i’n esiampl berffaith o’r math o bobl fyddai’n dod i gredu ynddo ac yn derbyn bywyd tragwyddol. Mae e’n haeddu ei anrhydeddu a’i foli am byth bythoedd! Fe ydy’r Brenin am byth! Fe ydy’r Duw anfarwol, anweledig! Fe ydy’r unig Dduw sy’n bod! Amen! Timotheus, fy mab, dw i’n rhoi siars i ti (yn gyson â beth sydd wedi’i broffwydo amdanat ti): Mae’n bwysig dy fod ti’n ymladd yn dda yn y frwydr. Dal dy afael yn beth rwyt ti’n ei gredu, a chadw dy gydwybod yn lân. Mae rhai wedi dewis peidio gwneud hynny, ac o ganlyniad mae eu ffydd wedi’i dryllio. Mae Hymenaeus ac Alecsander yn enghreifftiau o’r peth. Dw i wedi’u taflu nhw allan o’r eglwys er mwyn iddyn nhw ddysgu peidio cablu.
1 Timotheus 1:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A dyma air i'w gredu, sy'n teilyngu derbyniad llwyr: “Daeth Crist Iesu i'r byd i achub pechaduriaid.” A minnau yw'r blaenaf ohonynt. Ond cefais drugaredd, a hynny fel y gallai Crist Iesu ddangos ei faith amynedd yn fy achos i, y blaenaf, a'm gwneud felly yn batrwm i'r rhai fyddai'n dod i gredu ynddo a chael bywyd tragwyddol. Ac i Frenin tragwyddoldeb, yr anfarwol a'r anweledig a'r unig Dduw, y byddo'r anrhydedd a'r gogoniant byth bythoedd! Amen. Timotheus, fy mab, dyma'r siars sydd gennyf i ti, o gofio'r dystiolaeth broffwydol a roddwyd iti o'r blaen; ymddiried yn hyn a bydd lew yn y frwydr, gan ddal dy afael mewn ffydd a chydwybod dda. Am i rai ddiystyru cydwybod, drylliwyd llong eu ffydd. Pobl felly yw Hymenaeus ac Alexander, dau a draddodais i Satan, i'w disgyblu i beidio â chablu.
1 Timotheus 1:15-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwir yw’r gair, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i’r byd i gadw pechaduriaid; o ba rai, pennaf ydwyf i. Eithr o achos hyn y cefais drugaredd, fel y dangosai Iesu Grist ynof fi yn gyntaf bob hiroddef, er siampl i’r rhai a gredant rhag llaw ynddo ef i fywyd tragwyddol. Ac i’r Brenin tragwyddol, anfarwol, anweledig, i’r Duw unig ddoeth, y byddo anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Y gorchymyn hwn yr ydwyf yn ei roddi i ti, fy mab Timotheus, yn ôl y proffwydoliaethau a gerddasant o’r blaen amdanat, ar filwrio ohonot ynddynt filwriaeth dda; Gan fod gennyt ffydd, a chydwybod dda; yr hon a wrthododd rhai, ac a wnaethant longddrylliad am y ffydd: O ba rai y mae Hymeneus ac Alexander; y rhai a roddais i Satan, fel y dysgent na chablent.