1 Timotheus 1:12-14
1 Timotheus 1:12-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i mor ddiolchgar fod ein Harglwydd, y Meseia Iesu, yn gweld ei fod yn gallu dibynnu arna i. Fe sy’n rhoi’r nerth i mi, ac mae wedi fy newis i weithio iddo. Cyn dod yn Gristion roeddwn i’n arfer cablu ei enw; roeddwn i’n erlid y bobl oedd yn credu ynddo, ac yn greulon iawn atyn nhw. Ond roedd Duw yn garedig ata i – doeddwn i ddim yn credu nac yn sylweddoli beth oeddwn i’n ei wneud. Roedd yr Arglwydd mor anhygoel o garedig ata i! Des i gredu, a chael fy llenwi â’r cariad sy’n dod oddi wrth y Meseia Iesu.
1 Timotheus 1:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf yn diolch i Grist Iesu ein Harglwydd, yr hwn a'm nerthodd, am iddo fy nghyfrif yn un y gallai ymddiried ynof a'm penodi i'w wasanaeth; myfi, yr un oedd gynt yn ei gablu, yn ei erlid, ac yn ei sarhau. Ar waethaf hynny, cefais drugaredd am mai mewn anwybodaeth ac anghrediniaeth y gwneuthum y cwbl. Gorlifodd gras ein Harglwydd arnaf, ynghyd â'r ffydd a'r cariad sy'n eiddo i ni yng Nghrist Iesu.
1 Timotheus 1:12-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr ydwyf yn diolch i’r hwn a’m nerthodd i, sef Crist Iesu ein Harglwydd, am iddo fy nghyfrif yn ffyddlon, gan fy ngosod yn y weinidogaeth; Yr hwn oeddwn o’r blaen yn gablwr, ac yn erlidiwr, ac yn drahaus: eithr mi a gefais drugaredd, am i mi yn ddiarwybod ei wneuthur trwy anghrediniaeth. A gras ein Harglwydd ni a dra-amlhaodd gyda ffydd a chariad, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu.