Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Thesaloniaid 3:1-13

1 Thesaloniaid 3:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Doeddwn i ddim yn gallu diodde’r disgwyl dim mwy. Dyma ni’n penderfynu anfon Timotheus atoch chi, ac aros ein hunain yn Athen. Mae’n brawd Timotheus yn gweithio gyda ni i rannu’r newyddion da am y Meseia, a byddai e’n gallu cryfhau eich ffydd chi a’ch calonogi chi, rhag i’r treialon dych chi’n mynd drwyddyn nhw eich gwneud chi’n ansicr. Ac eto dych chi’n gwybod yn iawn fod rhaid i ni sy’n credu wynebu treialon o’r fath. Pan oedden ni gyda chi, roedden ni’n dweud dro ar ôl tro y bydden ni’n cael ein herlid. A dyna’n union sydd wedi digwydd, fel y gwyddoch chi’n rhy dda! Dyna pam allwn i ddim dioddef disgwyl mwy. Roedd rhaid i mi anfon Timotheus i weld a oeddech chi’n dal i sefyll yn gadarn. Beth petai’r temtiwr wedi llwyddo i’ch baglu chi rywsut, a bod ein gwaith ni i gyd wedi’i wastraffu? Ond mae Timotheus newydd gyrraedd yn ôl, ac wedi rhannu’r newyddion da am eich ffydd chi a’ch cariad chi! Mae’n dweud bod gynnoch chi atgofion melys amdanon ni, a bod gynnoch chi gymaint o hiraeth amdanon ni ag sydd gynnon ni amdanoch chi. Felly, ffrindiau annwyl, yng nghanol ein holl drafferthion a’r holl erlid dŷn ni’n ei wynebu, dŷn ni wedi cael ein calonogi’n fawr am fod eich ffydd chi’n dal yn gryf. Mae gwybod eich bod chi’n aros yn ffyddlon i’r Arglwydd wedi’n tanio ni â brwdfrydedd newydd. Sut allwn ni ddiolch digon i Dduw amdanoch chi? Dych chi wedi’n gwneud ni mor hapus! Ddydd a nos, dŷn ni’n gweddïo’n wirioneddol daer y cawn ni gyfle i ddod i’ch gweld chi eto, i ddysgu mwy i chi am sut mae’r rhai sy’n credu i fyw. Dŷn ni’n gweddïo y bydd Duw ein Tad, a’n Harglwydd Iesu Grist, yn ei gwneud hi’n bosib i ni ddod atoch chi’n fuan. A bydded i’r Arglwydd wneud i’ch cariad chi at eich gilydd, ac at bawb arall, dyfu nes ei fod yn gorlifo! – yn union yr un fath â’n cariad ni atoch chi. Dŷn ni eisiau iddo eich gwneud chi’n gryf. Wedyn byddwch yn ddi-fai ac yn sanctaidd o flaen ein Duw a’n Tad pan fydd ein Harglwydd Iesu’n dod yn ôl gyda’i angylion, a gyda’r holl bobl sy’n perthyn iddo.

1 Thesaloniaid 3:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Felly, pan na allem ymgynnal yn hwy, buom yn fodlon aros yn Athen ar ein pen ein hunain, ac anfon Timotheus, ein brawd a chydweithiwr Duw yn Efengyl Crist, i'ch cadarnhau a'ch calonogi chwi yn eich ffydd, rhag i neb eich siglo yn y gorthrymderau hyn. Oherwydd fe wyddoch eich hunain mai i hyn yr arfaethwyd ni; yn wir, pan oeddem gyda chwi, rhagfynegasom ichwi y byddai i ni ddioddef gorthrymder; ac felly y bu, fel y gwyddoch. Am hynny, gan na allwn ymgynnal yn hwy, mi anfonais i gael gwybod am eich ffydd chwi, rhag ofn i'r temtiwr rywsut fod wedi eich temtio, ac i'n llafur ni fynd yn ofer. Ond y mae Timotheus newydd ddod atom oddi wrthych, a rhoi newyddion da inni ynglŷn â'ch ffydd a'ch cariad chwi. Y mae'n dweud fod gennych goffa da amdanom bob amser, a'ch bod yn hiraethu cymaint am ein gweld ni ag yr ydym ninnau am eich gweld chwi. Am hynny, gyfeillion, cawsom ni, yn ein holl angen a'n gorthrymder, ein calonogi ynglŷn â chwi, ar gyfrif eich ffydd, oherwydd os ydych chwi yn awr yn sefyll yn gadarn yn yr Arglwydd, y mae hynny'n rhoi bywyd i ni. Pa ddiolch a allwn ei dalu i Dduw amdanoch chwi, am yr holl lawenydd yr ydym yn ei deimlo o'ch plegid gerbron ein Duw? Yr ydym yn deisyf yn angerddol, nos a dydd, am gael gweld eich wyneb a chyflenwi diffygion eich ffydd. Bydded i'n Duw a'n Tad ei hun, a'n Harglwydd Iesu, gyfeirio ein ffordd atoch! A chwithau, bydded i'r Arglwydd beri ichwi gynyddu, a rhagori mewn cariad tuag at eich gilydd a thuag at bawb, fel yr ydym ni tuag atoch chwi, i gadarnhau eich calonnau, fel y byddwch yn ddi-fai mewn sancteiddrwydd gerbron ein Duw a'n Tad yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu gyda'i holl saint! Amen.

1 Thesaloniaid 3:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Am hynny, gan na allem ymatal yn hwy, ni a welsom yn dda ein gadael ni ein hunain yn Athen; Ac a ddanfonasom Timotheus, ein brawd, a gweinidog Duw, a’n cyd-weithiwr yn efengyl Crist, i’ch cadarnhau chwi, ac i’ch diddanu ynghylch eich ffydd; Fel na chynhyrfid neb yn y gorthrymderau hyn: canys chwychwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y’n gosodwyd ni. Canys yn wir pan oeddem gyda chwi, ni a ragddywedasom i chwi y gorthrymid ni; megis y bu, ac y gwyddoch chwi. Oherwydd hyn, minnau, heb allu ymatal yn hwy, a ddanfonais i gael gwybod eich ffydd chwi; rhag darfod i’r temtiwr eich temtio chwi, a myned ein llafur ni yn ofer. Eithr yr awron, wedi dyfod Timotheus atom oddi wrthych, a dywedyd i ni newyddion da am eich ffydd chwi a’ch cariad, a bod gennych goffa da amdanom ni yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled ni, megis yr ydym ninnau am eich gweled chwithau; Am hynny y cawsom gysur, frodyr, amdanoch chwi, yn ein holl orthrymder a’n hangenoctid, trwy eich ffydd chwi. Oblegid yr awron byw ydym ni, os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd. Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad-dalu i Dduw amdanoch chwi, am yr holl lawenydd â’r hwn yr ydym ni yn llawen o’ch achos chwi gerbron ein Duw ni, Gan weddïo mwy na mwy, nos a dydd, ar gael gweled eich wyneb chwi, a chyflawni diffygion eich ffydd chwi? A Duw ei hun a’n Tad ni, a’n Harglwydd Iesu Grist, a gyfarwyddo ein ffordd ni atoch chwi. A’r Arglwydd a’ch lluosogo, ac a’ch chwanego ym mhob cariad i’ch gilydd, ac i bawb, megis ag yr ydym ninnau i chwi: I gadarnhau eich calonnau chwi yn ddiargyhoedd mewn sancteiddrwydd gerbron Duw a’n Tad, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist gyda’i holl saint.