1 Thesaloniaid 1:2-4
1 Thesaloniaid 1:2-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw amdanoch chi i gyd, ac yn gweddïo drosoch chi’n gyson. Bob tro dŷn ni’n sôn amdanoch chi wrth ein Duw a’n Tad, dŷn ni’n cofio am y cwbl dych chi’n ei wneud am eich bod chi’n credu; am y gwaith caled sy’n deillio o’ch cariad chi, a’ch gallu i ddal ati am fod eich gobaith yn sicr yn yr Arglwydd Iesu Grist. Dŷn ni’n gwybod, ffrindiau, fod Duw wedi’ch caru chi a’ch dewis chi yn bobl iddo’i hun.
1 Thesaloniaid 1:2-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr ydym yn diolch i Dduw bob amser amdanoch chwi oll, gan eich galw i gof yn ein gweddïau, a chofio'n ddi-baid gerbron ein Duw a'n Tad am weithgarwch eich ffydd, a llafur eich cariad, a'r dyfalbarhad sy'n tarddu o'ch gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist. Gwyddom, gyfeillion annwyl gan Dduw, eich bod chwi wedi eich ethol
1 Thesaloniaid 1:2-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr ydym yn diolch i Dduw yn wastadol drosoch chwi oll, gan wneuthur coffa amdanoch yn ein gweddïau, Gan gofio yn ddi-baid waith eich ffydd chwi, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, gerbron Duw a’n Tad; Gan wybod, frodyr annwyl, eich etholedigaeth chwi gan Dduw.