1 Samuel 8:19-20
1 Samuel 8:19-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond doedd y bobl ddim am wrando ar Samuel. “Na,” medden nhw, “dŷn ni eisiau brenin. Dŷn ni eisiau bod yr un fath â’r gwledydd eraill i gyd. Dŷn ni eisiau brenin i lywodraethu arnon ni, a’n harwain ni i ryfel.”
Rhanna
Darllen 1 Samuel 81 Samuel 8:19-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwrthododd y bobl wrando ar Samuel. “Na,” meddent, “y mae'n rhaid inni gael brenin, i ni fod yr un fath â'r holl genhedloedd, gyda brenin i'n barnu a'n harwain i ryfel ac ymladd ein brwydrau.”
Rhanna
Darllen 1 Samuel 81 Samuel 8:19-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Er hynny y bobl a wrthodasant wrando ar lais Samuel; ac a ddywedasant, Nage, eithr brenin fydd arnom ni: Fel y byddom ninnau hefyd fel yr holl genhedloedd; a’n brenin a’n barna ni, efe a â allan hefyd o’n blaen ni, ac efe a ymladd ein rhyfeloedd ni.
Rhanna
Darllen 1 Samuel 8