1 Samuel 4:3
1 Samuel 4:3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan ddaeth gweddill y fyddin yn ôl i’r gwersyll, dyma arweinwyr Israel yn dechrau holi, “Pam wnaeth yr ARGLWYDD adael i’r Philistiaid ein curo ni? Gadewch i ni ddod ag Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yma aton ni o Seilo. Os bydd hi’n mynd gyda ni, bydd yn ein hachub ni o afael y gelyn!”
Rhanna
Darllen 1 Samuel 41 Samuel 4:3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddychwelodd y bobl i'r gwersyll, holodd henuriaid Israel, “Pam y trawodd yr ARGLWYDD ni heddiw o flaen y Philistiaid? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr ARGLWYDD, a doed i'n plith i'n hachub o law ein gelynion.”
Rhanna
Darllen 1 Samuel 41 Samuel 4:3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ddaeth y bobl i’r gwersyll, henuriaid Israel a ddywedasant, Paham y trawodd yr ARGLWYDD ni heddiw o flaen y Philistiaid? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr ARGLWYDD, a deled i’n mysg ni; fel y cadwo hi ni o law ein gelynion.
Rhanna
Darllen 1 Samuel 4